Mae pedwar ar ddeg o safleoedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam gyda phyllau (pyllau nofio, pyllau sba neu byllau hydrotherapi) sy’n cael eu defnyddio gan y cyhoedd.
Os ydych yn rhedeg busnes ac yn meddwl am agor pwll at ddefnydd y cyhoedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam cofiwch gysylltu â ni i gael cyngor ynghylch gofynion profi dŵr.
yn ôl i'r brigOs oes gennych broblemau gyda Llysiau’r Cythraul (clymog Japan) yn tyfu yng nghyffiniau eich eiddo, cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd (cyswllt allanol) am ddulliau clirio / gwaredu.
Llinell gymorth Gwybodaeth Gyffredinol: 08708 506 506.
Back to top of pageI gael rhagor o gyngor gan yr Adran cysylltu â ni.
Datgladdiad yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio pan fo gweddillion dynol neu amlosgiad i gael eu symud. Mae datgladdiadau’n bethau prin yn gyffredinol. Ni allant ddigwydd heb y caniatâd cyfreithiol angenrheidiol gan ei bod yn anghyfreithlon tarfu ar unrhyw weddillion dynol, gan gynnwys unrhyw weddillion amlosgiad.
Gall datgladdiad fod yn ysgytiol i bawb dan sylw. Byddai’n ddoeth ystyried yn drwyadl a chasglu gwybodaeth am y broses gyfan cyn dechrau datgladdiad. Hefyd mae’n ddoeth trafod y materion gydag aelodau eraill o’ch teulu a thrafod pam eich bod eisiau symud ymlaen gyda’r mater hwn.
Gall y broses hon fod yn hir ac yn ddrud. Nid yn unig fydd cost y datgladdiad ei hun, gallai’r canlynol fod yn gostau eraill cysylltiedig â datgladdiad:
Os byddwch angen cyngor mwy manwl, ffoniwch swyddfa’r amlosgfa neu swyddfa’r fynwent ac efallai y gall aelod o’r staff gynnig cyngor annibynnol i chi ar bob agwedd ar ddatgladdiad. Mae modd cysylltu â hwy ar 01978 840068.
Mae angen symud gweddillion rhywun sy’n annwyl i chi o’r bedd neu lain gladdu. Efallai fod perthnasau eisiau newid o’r bedd gwreiddiol i lain deuluol arall yn yr un fynwent neu un wahanol.
Caiff meysydd carafanau eu trwyddedu gan Adran Diogelu’r Amgylchedd. Er mwyn gwneud cais am drwydded safle rhaid i’r maes carafanau fod â chaniatâd cynllunio.
Unwaith y cafwyd caniatâd cynllunio, rhaid i’r ceisydd lenwi’r ffurflen gais.
Ar ôl derbyn y cais dechreuol bydd archwiliad safle’n cael ei gynnal a thrwydded y safle’n cael ei gyhoeddi yn unol â chanlyniad yr archwiliad.
Nid oes raid talu wrth wneud cais am drwydded.
Caiff meysydd carafanau trwyddedig ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam eu rhestru isod:
* Nid yw’r rhestr uchod yn cynnwys safleoedd y Clwb Carafanau na safleoedd Sipsiwn a Chrwydriaid oherwydd yr eithriwyd hwy dan y ddeddfwriaeth.
yn ôl i'r brigOs yw eiddo’n agored i’r cyhoedd, gall isadran Diogelu’r Amgylchedd roi rhybudd cyfreithiol i berchennog yr eiddo’n mynnu bod yr adeilad yn cael ei ddiogelu cyn pen 48 awr ar ôl rhoi’r Rhybudd. Bydd yr Adran hon yn diogelu’r eiddo os na fydd y perchennog yn gwneud hynny.
Dylid cyfeirio eiddo sy’n wag am fwy na 6 mis at y Tîm Safonau Tai i’w archwilio a dechrau gweithred.
yn ôl i'r brigMae Wrecsam yn ymhyfrydu yn ei threftadaeth fwyngloddio. Er enghraifft, olrheiniwyd cloddio plwm yn ardal y Mwynglawdd i’r gorllewin o Wrecsam mor bell yn ôl â 1296. Fodd bynnag, canol y 1860au oedd cyfnod ffyniant cloddio plwm yma.
Ni weithiwyd y rhan fwyaf o’r hen fwyngloddiau ers 100 mlynedd o leiaf er bod llawer o nodweddion gweithfeydd plwm yn cael eu gwarchod fel Henebion Cofrestredig bellach am eu diddordeb archeolegol neu fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Troswyd pyllau glo blaenorol yn barciau diwydiannol a busnes – yn un datblygiad o’r fath ym Mhwll Glo’r Bers mae’r gêr pen pwll olaf sydd ar ôl ym maes glo Gogledd Cymru.
Fel etifeddiaeth o’r diwydiant hwn, mae tyllau gadawedig a chwareli agored yn bodoli ar hyd a lled y sir. Nawr bod gan y cyhoedd fwy o hawliau mynediad i gefn gwlad agored a thir comin cofrestredig lle mae llawer o’r nodweddion hyn yn debygol o fod, fe all y safleoedd hyn fod yn beryglus.
Os gwyddoch am unrhyw dwll gadawedig heb ei amddiffyn neu chwareli gydag wyneb clogwyni peryglus heb eu nodi, cysylltwch â ni ar 01978 298989 (neu drwy e-bost: contact-us@wrexham.gov.uk) er mwyn i ni allu rhoi cyfarwyddyd i’r tirfeddiannwr yn ogystal â chynorthwyo cadw hanes mwyngloddio’r sir i’r cenedlaethau a ddaw ei fwynhau.
yn ôl i'r brigYn achlysurol bydd rhedyn yn cael ei chwistrellu a’i losgi yn ardal Wrecsam.
Mae rhedyn yn blanhigyn ymosodol dros ben ac mae’n creu “anialwch gwyrdd” o’i adael heb ei reoli, yn mygu planhigion eraill y gweundir yn gyflym, gan gynnwys y grug porffor sy’n gymaint rhan o dirwedd ein hucheldiroedd.
Fel arfer bydd rhedyn yn cael ei chwistrellu rhwng canol mis Gorffennaf a diwedd mis Awst. Rhaid cael amryw ddiwrnodau olynol o dywydd teg, sych i’r chwistrellu fod yn llwyddiannus, fel nad oes modd rhoi union ddyddiadau ymlaen llaw.
Heb ei reoli, bydd rhedyn yn dadleoli’r planhigion ac anifeiliaid sydd i’w cael ar ucheldir.
Nid yw technegau traddodiadol rheoli rhedyn fel pori a thorri ar gyfer gwely anifeiliaid yn cael eu harfer mwyach. Gadawodd hyn i’r rhedyn ymledu dros ben llestri trwy lawer o’r 20fed ganrif, gan fygu rhywogaethau eraill.
I gael rhagor o gyngor gan yr Adran hon gallwch naill ai lenwi ffurflen ymholi ar-lein neu cysylltu â ni.
yn ôl i'r brigGall y Cyngor wneud cais i’r Ysgrifennydd Gwladol am ganiatâd i weithredu is-ddeddfau sy’n cwmpasu gweithgareddau penodol. Deddfau lleol i ddelio â materion lleol yw’r rhain i bob diben.
Mae’n drosedd peidio â chydymffurfio ag is-ddeddfau. Mewn llawer achos mae unrhyw un sy’n cael collfarn ddiannod am dorri is-ddeddf yn atebol i dalu dirwy heb fod dros:
am bob trosedd.
Mae’r Is-ddeddfau sy’n bodoli’n cwmpasu parciau difyrrwch a mannau agored, gwibdaflu sbwriel a gwibdaflennu a defnyddio cerbydau hacnai. Gallwch ofyn am gael gweld yr is-ddeddfau yn Neuadd y Dref, Wrecsam.