Diogelu’r Amgylchedd – Cyngor ar Blâu

Bydd Isadran Diogelu’r Amgylchedd yn delio ag ymholiadau ynghylch plâu cyffredin sy’n peri pryder i’r cyhoedd. Defnyddiwch y dolenni isod i gael cyngor cyffredinol neu, i gael rhagor o gyngor, cysylltwch â’n Gwasanaeth Rheoli Plâu.

Dalennau Cyngor

Mosgitos

Mewn rhannau o Fwrdeistref Sirol Wrecsam, gall mosgitos fod yn broblem yn ystod y misoedd cynhesach.

Cyngor ar Mosgitos

Cyngor ar Mosgitos – fersiwn PDF 74Kb


Pycs

Trychfilod bach heb adenydd yw pycs sy’n bwydo’n unig ar waed anifeiliaid â gwaed cynnes.

Cyngor ar Pycs

Cyngor ar Pycs – fersiwn PDF 80Kb


Chwilod y bwm

Enw arall ar chwilen y bwm yw chwilen Mai neu chwilen Mehefin gan eu bod yn i’w gweld fel arfer yn hwyr yn y gwanwyn ac yn yr haf cynnar.

Cyngor ar Chwilod y bwm

Cyngor ar Chwilod y bwm – fersiwn PDF 83Kb


Colomennod fel Plâu

Mae rheoli colomennod yn bwnc llosg, gyda llawer o bobl yn eu gweld fel rhan o fywyd gwyllt naturiol Wrecsam. Bydd pobl eraill yn eu gweld fel pla a byddent yn hoffi gweld symud pob un ohonynt o’n strydoedd a mannau agored.

Cyngor ar Colomennod fel Plâu

Cyngor ar Colomennod fel Plâu – fersiwn PDF 51Kb


Pryf Ceblau

Mae’r pryf ceblau, ffenomen na welwyd hyd yn ddiweddar, i’w gael yn yr amgylchedd adeiledig mewn swyddfeydd mawr, ystafelloedd cyfrifiaduron, cyfnewidfeydd ffôn ac ati. Bydd defnyddwyr adeiladau o’r fath yn cael marciau brathiad fel trychfilod ar groen agored. Nid yw ymchwiliad helaeth o adeiladau lle tybiwyd bod llawer o drychfilod brathog wedi dangos unrhyw dystiolaeth o weithgaredd arthropodau.

Cyngor ar Pryf Ceblau

Cyngor ar Pryf Ceblau – fersiwn PDF 21Kb


Morgrug

Ni ddylai fod angen mesurau rheoli heblaw pan fo morgrug yn heidio i eiddo neu’n byw yno.

Cyngor ar Morgrug

Cyngor ar Morgrug – fersiwn PDF 30Kb


Gwiwerod Llwydion

Y wiwer lwyd (Sciurus Carolinensis) yw cyfnither Americanaidd o amrywogaeth goch Prydain sydd mewn perygl. Yr amcangyfrif yw bod bron i bum miliwn o wiwerod llwydion ym Mhrydain.

Cyngor ar Gwiwerod Llwydion

Cyngor ar Gwiwerod Llwydion – fersiwn PDF 121Kb


Cwningod Gwyllt

Mae’r gwningen i’w chael mewn cynefinoedd lle mae gwair addas neu blanhigion i’w pori. Bydd cwningod hefyd yn byw dan gytiau, ymysg rwbel ac mewn pentyrrau o wreiddiau a changhennau coed marw.

Cyngor ar Cwningod Gwyllt

Cyngor ar Cwningod Gwyllt – fersiwn PDF 29Kb


Taflenni Cyngor Plâu eraill

Cyngor ar Gathod Crwydr / Gwyllt a Chyngor i Berchenogion Cathod – fersiwn PDF 95Kb

Cyngor ar Gacwn – fersiwn PDF 56Kb

Cyngor Am Lygod – fersiwn PDF 64Kb

Cyngor ar Lygod Mawr – fersiwn PDF 110Kb

Cyngor Ynglŷn â Phlâu’r Ardd – fersiwn PDF 111Kb

Cyngor ar Wlithod a Malwod – fersiwn PDF 62Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.


Gwelwch hefyd Rheoli Plâu a Cwestiynau Cyffredin Rheoli Plâu

Ffurflen hysbysu Rheoli Plâu ar-lein

yn ôl i'r brig

Arolygon Adar yn Wrecsam (Patrôl Parciau)

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhan o Gynllun Patrôl Wardeiniaid sy’n cael ei redeg gan y Gwasanaeth Milfeddygol (VLA), un o asiantaethau gweithredol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) (cyswllt allanol), trwy’r hwn y byddwn yn cynnal arolygon o adar gwyllt ymfudol drwy gydol misoedd y gaeaf.

Os tybiwch eich bod wedi dod ar draws marwolaethau anghyffredin o adar gwyllt, synnwyr y fawd yw:

  • un neu fwy o elyrch neu adar gwyllt / dŵr
  • 3 neu fwy o adar o’r un rhywogaeth
  • pump neu fwy o adar o unrhyw rywogaeth.

Yna cysylltwch â llinell gymorth DEFRA ar 08459 335577. Wrth gysylltu â’r llinell gymorth hon, cofiwch fod â chymaint wybodaeth wrth law ag y gallwch fel bod modd gwneud asesiad dechreuol. Byddwch yn amyneddgar – gall y llinell fod yn brysur iawn ar adegau.

Yn gyffredinol nid yw aderyn marw unigol yn yr ardd yn cael ei weld fel problem a dylid cael gwared ar y rhain yn y ffordd arferol.

Fodd bynnag, os byddwch yn amheus, cysylltwch â’r llinell gymorth i gael cyngor, neu ein Hisadran Iechyd Anifeiliaid.

yn ôl i'r brig

Cŵn Peryglus

Cusylltwch a’r Heddlu are gyfer cwn peryglys ar 0845 607 1002.

Mae’r ffurflen hon ar gyfer adrodd materion Warden Cŵn yn unig Ffurflen Warden Cŵn Ar-lein


Gwadiad: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

yn ôl i'r brig