Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Ymdrin â Llygredd Tir Drwy'r Gyfundrefn Gynllunio

Safleoedd Tir Llwyd yw’r rhai sydd wedi eu datblygu’n gynharach ar gyfer defnydd masnachol neu ddiwydiannol, ond gall safleoedd gyda hanes o fwyngloddio hefyd fod â pheth llygredd yn bresennol.

Wrth i nifer o ddatblygiadau ddigwydd ar safleoedd tir llwyd mae’n bosibl y bydd rhai datblygiadau yn digwydd ar safleoedd sydd â photensial o fod yn llygredig. Mae’n hanfodol sicrhau yr ymdrinnir yn ddigonol â photensial o lygredd a hynny wrth i ddefnydd y tir newid. Bydd hyn felly’n sicrhau fod y tir yn cael ei wneud yn addas ar gyfer ei ddefnydd newydd ac nad yw'n creu unrhyw berygl i iechyd a diogelwch pobl a ddaw i gysylltiad â'r tir. Mewn rhai achosion mae’n bosibl nad yw mathau penodol o ddatblygiad (sy’n debygol o fod y mathau mwyaf sensitif e.e. tai) yn addas ar gyfer safleoedd gyda math penodol o lygredd.

Ar gyfer y datblygiadau mewn ardaloedd lle mae hanes o fwyngloddio metel mae potensial o faterion llygredd o ganlyniad i’w ddefnydd tir hanesyddol. Gall mwyngloddio metel hanesyddol achosi i fetelau trwm fod yn bresennol o fewn y pridd ac mae’n bosib y gall llygredd o’r fath ddigwydd gryn bellter o’r safleoedd mwyngloddio eu hunain. Mae’r Cyngor yn mabwysiadu ymagwedd ragofalus ar gyfer datblygiadau yn y math yma o ardaloedd.

Pan fo datblygiadau o fewn 250m i gyn safle tirlenwi ystyrir eu bod o fewn pellter dylanwadol i ymfudiad nwy posibl. Unwaith eto, mae’r Cyngor yn mabwysiadu ymagwedd rhagofalus ar gyfer datblygiadau yn y math yma o ardaloedd a bydd yn rhoi amodau ar geisiadau yn unol â hynny.

Bydd y Cyngor yn ymgynghori gyda rhanddeiliaid allanol fel Cyfoeth Naturiol Cymru ar faterion penodol fel y safleoedd hynny a allai effeithio ar ddyfroedd a reolir.

Amodau ar Geisiadau Cynllunio

Bydd y Tîm Tir Llygredig yn ystyried materion llygredd tir posibl ar gyfer datblygiadau arfaethedig wrth i gais cynllunio gael ei dderbyn gan y Cyngor. Caiff ceisiadau cynllunio, yn arbennig y rhai fyddai’n arwain at ddefnydd sensitif o bosibl, eu gwirio am faterion llygredd tir posibl ar neu o fewn pellter dylanwadol i safle’r datblygiad arfaethedig. Wedi ei seilio ar yr wybodaeth sydd ar gael, bydd y Tîm yn cynghori pryd mae amod cynllunio statudol yn briodol i sicrhau fod risgiau posibl yn cael eu hasesu a’u lliniaru i sicrhau fod y tir yn addas ar gyfer y defnydd newydd arfaethedig yn unol â safonau cydnabyddedig. Mewn rhai achosion, gall y Tîm gynghori fod cais cynllunio’n cael ei wrthod neu’r cais yn cael ei roi o’r neilltu am y tro tra bydd ymchwiliadau pellach yn digwydd.

Sut i fodloni Amod Cynllunio Llygriad

Mae’n ofyniad statudol i gydymffurfio ag Amod Cynllunio.

  1. Cynghorir yn gryf fod unrhyw ddatblygwr gydag amod cynllunio sy’n gofyn am asesiad llygriad yn cysylltu â’r Tîm Tir Llygredig i drafod y mater ymhellach.

  2. Mae angen Asesiad Risg Rhagarweiniol (Astudiaeth Desg) o leiaf ar gyfer unrhyw asesiad llygriad. Dylai hyn nodi’r holl ‘ddolenni cyswllt llygriad’ posib a’ch hysbysu a oes angen ymchwiliad safle manwl. Argymhellir fod hwn yn cael ei gyflwyno ar gyfer sylwadau cyn i ymchwiliad manwl gael ei gynnal. Mae hyn yn caniatáu ar gyfer ymgynghori â’r Tîm am gyfnod nesaf y gwaith.

  3. Ymchwiliad Safle/Asesiad Risg Meintiol. Mae hyn yn cyflawni cwmpas y gwaith fel y nodir yn Eitem 2 (os oes angen). Wrth gwblhau’r gwaith mae’r adroddiad yn debygol o ddangos a oes angen gwaith adfer ai peidio i sicrhau fod y datblygiad yn addas i'w ddefnyddio. Mae’n hanfodol ei fod yn cael ei gyflwyno ar gyfer sylwadau ac y ceir caniatâd ysgrifenedig ar gyflawnder yr adroddiad cyn i’r datblygiad ddechrau neu'r gwaith adfer fydd yn cymryd lle ar y safle. Mae’n bosibl y bydd angen gwaith manwl pellach er mwyn bodloni'r Tîm yr ymdriniwyd yn ddigonol â’r holl faterion yn ymwneud â llygriad.

  4. Os canfyddir nad oes materion llygriad yna bydd y Tîm Tir Llygredig yn argymell fod yr amod yn cael ei ollwng. Fe allai fod yn briodol i atal gollwng yr amod gan ofyn am wirio gwaith adfer rhag ofn y byddai materion yn ymwneud â llygriad yn codi yn ystod y gwaith, nad oedd modd eu rhagweld, ac y byddai angen ymdrin â nhw a’u dogfennu ar gyfer eu cymeradwyo.

  5. Os oes angen gwaith adfer ar safle, yna bydd angen Cynllun Gweithredu, Gwerthuso Opsiynau a Strategaeth Adferiad. Mae hyn yn nodi sut y bydd y llygriad yn cael ei liniaru i sicrhau datblygiad diogel y safle. Mae’n hanfodol fod hwn yn cael ei gyflwyno ar gyfer sylwadau ac y ceir caniatâd ysgrifenedig ar gyflawnder y cynigion adfer cyn i unrhyw waith datblygu ddechrau neu gwaith adfer gymryd lle ar y safle.

  6. Yn ystod y gwaith adfer ac wedi ei gwblhau, bydd angen gwirio fod y gwaith wedi ei wneud yn unol â’r cynigion adfer a gytunwyd yn Eitem 5. Dylai hyn fod ar ffurf Adroddiad Dilysu fydd yn gorfod cael ei gyflwyno ar gyfer ei gymeradwyo. Ar ôl derbyn Adroddiad Dilysu boddhaol, bydd y Tîm yn argymell y gellir gollwng yr amod. Nodwch os gwelwch yn dda na ddylai neb ddefnyddio/preswylio yn y datblygiad hyd nes y bydd yr amod wedi ei ollwng.

Nodyn i’r Ymgeiswyr

Pan fo datblygiad, er enghraifft, gyferbyn â gorsaf betrol neu yn ysgubor wedi ei thrawsnewid, bydd y Tîm Tir Llygredig yn argymell fod nodyn cynghori yn cael ei roi ar y cais cynllunio. Bwriad y Nodyn yw cynghori’r datblygwr os ydynt yn canfod unrhyw lygriad annisgwyl i gysylltu â'r Tîm am arweiniad pellach.

Y Nifer o Safleoedd yr Ymdriniwyd â Hwy Drwy’r Gyfundrefn Gynllunio

Ers 2002 mae mesurau statudol wedi eu rhoi mewn grym i sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw lygriad tir ar nifer o safleoedd gyda chaniatâd cynllunio yn y Fwrdeistref. Mae’r tabl isod yn nodi’r nifer o safleoedd a darn o dir yr ymdriniwyd â hwy drwy'r gyfundrefn gynllunio ar yr adeg y diweddarwyd y wefan hon. Mae gan nifer sylweddol o safleoedd eraill amodau hefyd a bydd y rhain yn cael eu hasesu/adfer maes y o law pan fydd datblygu’r safle’n dechrau - nid yw’r safleoedd hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y ffigyrau isod.

Blwyddyn* Nifer y safleoeddlle** mae amodau llygriad tir wedi eu cwblhau a lle mae argymhelliad i ollwng yr amod. Cyfanswm y Darn o Dir Wedi ei asesu/Adfer
2002 26 146,789m2 (14.7 hectares)
2003 29 517,157m2 (51.7 hectares)
2004 34 470,851m2 (47.1 hectares)
2005 30 1,151,640m2 (115.2 hectares)
2006 13 77,588m2 (7.8 hectares)
2007 19 101,453m2 (10.1 hectares)
2008 13 184,095m2 (18.4 hectares)
2009 8 51,525m2 (5.2 hectares)
2010 13 121,553m2 (12.2 hectares)
2011 9 114,332m2 (11.4 hectares)
2012 12 213,191m2 (21.3hectares)
2013 11 123,996m2 (12.4 hectares)
2014 9 85,643m2 (8.6 hectares)
2015 10 317,590m2 (31.8 hectares)
2016 2 3362m2 (0.3 hectares)
Total 238 3,680,465m2 (368.1 hectares)

*tra bod y gwaith a wnaed wedi ei gofnodi yn erbyn cais cynllunio blwyddyn benodol, mae’n bosib fod y gwaith wedi ei wneud mewn blwyddyn wahanol.

**mae’r ffigyrau hyn yn cynnwys tir lle gall materion llygriad posib fod yn bresennol o ganlyniad i ddefnydd blaenorol ar y safle ei hun neu dir sydd o fewn pellter dylanwadol i gyn safle tirlenwi ac felly angen asesiad risg ar gyfer y perygl o ymfudiad nwy.

***mae’r ffigyrau hyn yn gywir ar ddiwrnod diweddariad y wefan, dylid nodi y gall gwaith newydd ddechrau ar geisiadau cynllunio sydd wedi eu caniatáu ac sydd ar hyn o bryd yn ddilys (y rheiny sy’n llai na 3/5 mlwydd oed) nad ydynt yn cael eu cynrychioli uchod ac felly gall y ffigyrau ar gyfer y 5 mlynedd ddiwethaf newid (cynyddu).

O.N. nid yw’r amodau y gofynnwyd amdanynt wedi eu cyfrif ddwywaith lle mae ceisiadau niferus wedi eu cyflwyno ar gyfer yr un safle

Canllawiau i Helpu i fodloni Amod Cynllunio Llygriad

Mae nifer o ganllawiau awdurdodol ar gael i gynorthwyo Datblygwyr a’u Hymgynghorwyr Amgylcheddol ynglŷn â sut i gynnal asesiadau llygriad. Mae Canllaw’r Datblygwyr (gweler y lawrlwythiadau) yn rhoi crynodeb o'r prif gamau gweithredu ac yn rhoi cyngor eang ar sut i gynnal asesiad llygriad. Ond dylid cyfeirio at y canllaw mwy manwl wrth i’r asesiadau/gwaith gael ei wneud. Dylid nodi hefyd fod canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi'n aml ac felly gall ddisodli neu ychwanegu at y canllaw y cyfeirir ato yma.

Mae enghreifftiau isod o’r math o ganllawiau y dylid ymgynghori â nhw yn ystod asesiad llygriad.

Dylai unrhyw gais gael ei wneud yn unol â’r canllawiau a gyflwynwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru.

Mae’r Cyngor wedi paratoi Canllawiau Cynllunio Lleol Nodyn ‘Rhif 23 – Datblygu Safleoedd gyda Llygriad Tir’ ac wedi mabwysiadu’r ‘Datblygiad Tir Wedi ei Effeithio gan Halogiad: Canllaw ar gyfer Datblygwyr’ Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru/Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a hefyd y ‘Gofynion ar gyfer Profi Cemegol Deunyddiau a Fewnforir ar gyfer Amrywiol Ddefnyddiau a Dilysu Systemau Gorchudd’ Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Y Cynllun Marc Ansawdd Cenedlaethol – Datganiad Sefyllfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn croesawu cyflwyno’r cynllun sy’n anelu at wella ansawdd adroddiadau llygriad a gyflwynir i Gynghorau o dan y Gyfundrefn Gynllunio. Byddai disgwyl cadarnhau’r Cynllun Marc Ansawdd Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru (ac yn ddelfrydol Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd) er mwyn galluogi'r Cyngor i gydnabod y cynllun.

Er hynny, wedi derbyn adroddiad gyda marc y Cynllun Marc Ansawdd Cenedlaethol rydym yn gobeithio canfod adolygu'r adroddiad yn syml ac y byddem yn gallu penderfynu ei fod yn dderbyniol, yn ddelfrydol heb unrhyw ymholiadau o gwbl.

Mae gofyn i Swyddogion Tir Llygredig gynghori a yw adroddiad yn cwrdd â gofynion yr amod ar gais cynllunio penodol a dim ond trwy eu darllen a'u hadolygu y bydd hyn yn bosibl. Hefyd rhaid i Swyddogion fod yn ymwybodol o faterion yn ymwneud â llygredd tir ar safleoedd a bod yn ymwybodol pa waith sydd wedi ei wneud yn y cyswllt hwn. Bydd hyn yn sicrhau fod yr holl ddyletswyddau a roddwyd i'r Cynghorau yn cael eu cwrdd (fel y prif reoleiddwyr ar gyfer llygredd tir/tir llygredig). Felly ni fydd Wrecsam yn cymryd y safbwynt fod y Cynllun hwn yn gyfrwng i symleiddio bodloni’r amodau i’r pwynt lle byddai adroddiad sydd wedi ei gyflwyno yn cael ei dderbyn heb ystyriaeth.

Gellir canfod mwy o wybodaeth ar Gynllun Marc Ansawdd Cenedlaethol y Fforwm Tir yma: www.claire.co.uk/projects-and-initiatives/nqms.