Cyflenwad dŵr preifat yw unrhyw gyflenwad dŵr sydd heb gael ei ddarparu gan gwmni dŵr (dŵr yfed prif gyflenwad). Maent i’w cael yn bennaf yn rhannau mwy gwledig y Fwrdeistref Sirol. Fe all eu ffynhonnell fod yn dwll turio, ffynnon, tarddell, nant, afon, llyn neu bwll. Gall man cyflenwi unigol wasanaethu dim ond un eiddo neu amryw ohonynt.
Bydd y mathau hyn o gyflenwadau dŵr preifat yn tynnu eu dŵr o rywle’n ddwfn dan ddaear ac maent yn llai tebygol o gael eu halogi â micro-organebau, er y gallant gynnwys mwynau a chemigion eraill. Fodd bynnag, maent yn agored i halogiad yn y man tynnu ar y wyneb lle gall dŵr arwyneb gasglu yn y cyflenwad neu lifo iddo. Gall ffynhonnau bas hefyd fod yn agored i halogiad sy’n cael i gludo gan ddŵr arwyneb neu weithgareddau ar y tir fel taenu gwrtaith.
Gall y mathau hyn o gyflenwad dŵr preifat fod yn agored i halogiad arwyneb ac, yn arbennig, i ficro-organebau yn enwedig yn ystod cyfnodau o law trwm. Er enghraifft, lle gall dŵr lifo ar draws y tir ar ôl glaw trwm, gall gasglu halogiad o amrywiol ffynonellau (e.e. o’r pridd, baw anifeiliaid) sydd wedyn yn gallu mynd i’r ffynhonnell ddŵr. Gall ffynonellau arwyneb hefyd fynd yn “hesb” yn ystod cyfnodau maith heb law.
Mae’r dŵr yfed o brif gyflenwad yn mynd drwy amryw brosesau puro dwys yn y gwaith trin cyn cyrraedd tap y defnyddiwr. Yn aml nid oes modd gwneud hyn gyda chyflenwadau dŵr preifat, ond mae amryw dechnegau y mae modd eu defnyddio i sicrhau cyflenwad iach, fel hidlo, diheintio uwchfioled (UV), ac ati.
Fe all amrywiaeth o baramedrau cemegol a / neu facteriolegol beri halogi cyflenwadau dŵr preifat. Mae llawer ohonynt yn ddiniwed ond fe all rhai achosi salwch difrifol neu leihau effeithiolrwydd unrhyw brosesau trin. Efallai na fydd modd dweud wrth a yw eich dŵr wedi cael ei halogi trwy ei flas, wrth edrych arno neu o’i arogl.
Mae dŵr o ansawdd da’n hanfodol i iechyd da. Isod mae rhestr o rai technegau syml o sicrhau pa mor iach yw eich dŵr:
Dylid archwilio pob rhan o’r cyflenwad yn rheolaidd, gan gynnwys y dalgylch. Dylid gweld na chawsant eu niweidio, neu a oes unrhyw beth yno all effeithio ar ansawdd y dŵr. Dylid cywiro unrhyw broblemau mor fuan ag y bo modd ac, os bydd angen, berwi’r dŵr neu ddefnyddio dŵr potel nes bydd y cyflenwad yn ôl i’w gyflwr arferol unwaith eto.
Caiff y rhain eu hystyried fel y mathau mwy peryglus o gyflenwad dŵr preifat, yn enwedig pan fydd da byw gerllaw, oherwydd y gall difwynwyr tir (e.e. o weithgaredd amaeth) effeithio arnynt trwy gael eu golchi i’r cyflenwad pan fydd yn glawio. Os oes modd, dylid dargyfeirio dŵr glaw ffo o’r dalgylch. Gall hefyd fod yn ddoeth codi ffens o gwmpas y cyflenwad i atal anifeiliaid rhag cael mynediad. Bydd cwmni trin dŵr yn gallu cynghori ar y math gorau o driniaeth, yn dibynnu ar ddefnydd y tir o gwmpas, neu i fyny’r afon o’r dalgylch.
Caiff y rhain eu hystyried y dewis mwy diogel ar gyfer cyflenwad dŵr preifat. Dylid edrych ar y dalgylch hefyd i weld nad yw dŵr arwyneb yn mynd i’r cyflenwad. Bydd cwmni trin dŵr yn gallu cynghori ar y driniaeth orau, er y gallant fod angen prawf dŵr i benderfynu a oes unrhyw fwynau’n bresennol.
Mae dyletswydd gofal arnoch os ydych yn cyflenwi dŵr i eraill (e.e. maes pebyll). Os ydych yn meddwl y gall eich dŵr fod yn anaddas i’w yfed, dylech drefnu cael ei brofi mor fuan ag y gallwch. Yn y cyfamser, dylech gynghori eich cwsmeriaid i ferwi’r dŵr cyn ei yfed neu baratoi bwyd ag ef neu eu cynghori i ddefnyddio dŵr potel.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gallu cadarnhau ansawdd eich cyflenwad dŵr preifat a dylech gysylltu â ni i drafod eich gofynion. Byddwn hefyd yn gallu eich cynghori ar amlder profi ac unrhyw gostau cysylltiedig. Byddwn hefyd yn gallu eich cynghori ar ystyr canlyniadau’r prawf ar eich cyflenwad dŵr a pha fathau o driniaeth sydd ar gael.
Un peth i’w gofio wrth gael profi eich cyflenwad dŵr yw bod y prawf yn berthnasol i’r adeg honno’n unig ac y gall ansawdd dŵr newid yn aml gan ddibynnu ar amryw ffactorau amgylcheddol (e.e. math o gyflenwad, defnydd tir o gwmpas, y tywydd, ac ati). Dylid ystyried hyn wrth benderfynu a ydych am gael trin eich cyflenwad.
Os credwch fod eich cyflenwad dŵr wedi cael ei halogi neu y gall hynny ddigwydd, fe allwch ac fe ddylech gael trin y dŵr. Os ydych yn rhannu eich cyflenwad gydag eiddo arall mae modd cael y driniaeth yn y dalgylch yn hytrach nag ymhob tŷ. Mae amrywiaeth eang o ddewisiadau triniaeth i gyd-fynd â’ch amgylchiadau arbennig. Bydd unrhyw gyflenwr offer trin yn gallu eu trafod gyda chi, er y gallant fod angen profi’r cyflenwad er mwyn rhoi cyngor cywir. Gallwch gysylltu â ni os hoffech gael rhestr o gyflenwyr offer trin.
Os credwch fod micro-organebau yn halogi eich cyflenwad dŵr, dylech ferwi eich dŵr cyn ei yfed neu baratoi bwyd ag ef, nes bydd yn cael ei drin yn addas.
Os ydych wedi byw yn eich eiddo ers llawer blwyddyn dylech fod yn ymwybodol hefyd y gallwch fod wedi datblygu rhywfaint o imiwnedd i rai o’r halogwyr bacteriolegol yn eich cyflenwad a gallwch gredu nad oes angen triniaeth. Efallai nad yw’r imiwnedd hwn yn gan unrhyw ymwelwyr, yn enwedig plant ifanc iawn.
Os penderfynwch nad ydych eisiau defnyddio eich cyflenwad dŵr preifat mwyach, gallwch gysylltu â’ch cwmni dŵr lleol ynghylch cysylltu â’r prif gyflenwad. Efallai y byddwch yn gorfod talu’r holl gostau wrth wneud hynny a dylech drafod hyn gyda’r cwmni dŵr.
Dŵr Dyffryn Dyfrdwy sy’n cael gwasanaethu’r rhan fwyaf o Wrecsam gyda Dŵr Hafren Trent yn cyflenwi rhai ardaloedd penodol yn ne’r Fwrdeistref Sirol, ac United Utilities yn cyflenwi ychydig eiddo yn y dwyrain. Manylion cysylltu â’r cwmnïau yw:
Dŵr Dyffryn Dyfrdwy – (01978) 846946 neu wefan www.deevalleygroup.com (cyswllt allanol)
Dŵr Hafren Trent – 0800 783 4444 neu wefan www.stwater.co.uk (cyswllt allanol)
United Utilities – 0845 746 2222 neu wefan www.unitedutilities.co.uk (cyswllt allanol)
Daw halogiad bacteriolegol yn bennaf o faw anifeiliaid yn cael ei olchi i’r cyflenwad dŵr. Mae’n digwydd amlaf lle caiff y cyflenwad dŵr ei dynnu o ardaloedd sydd â da byw ynddynt neu daenu gwrtaith ar gaeau gerllaw, neu ymhellach i fyny os caiff y dŵr ei dynnu o afon. Mae’r perygl yn arbennig o fawr pan fydd yn glawio’n drwm oherwydd fe all dŵr glaw lifo o’r caeau hyn i’r dalgylch. Perygl arall yw dŵr yn llifo o garthbyllau neu danciau carthion.
Mae pawb sy’n yfed y dŵr halogedig hwn mewn perygl o haint sy’n gallu peri nifer o afiechydon difrifol. Mae’r perygl yn arbennig o fawr i bobl nad ydynt wedi arfer â’ch dŵr. Os yw eich anifeiliaid anwes yn yfed y dŵr gallant gael eu heintio a gall rhai o’r heintiau sy’n dilyn gael eu trosglwyddo o anifeiliaid i bobl.
Y technegau trin arferol ar gyfer micro-organebau yw hidlo’r halogyddion mwyaf gyda thriniaeth uwchfioled i ddilyn i ddiheintio’r dŵr. Er mwyn aros yn ei effeithiol, byddai angen cynnal y ddwy driniaeth hyn yn rheolaidd.
Mae amrywiaeth o gemigion a metelau’ i’w cael mewn cyflenwadau dŵr preifat sy’n gallu deillio o amgylchiadau amrywiol:
Mae amrywiaeth o offer trin ar gael i ddelio â’ch amgylchiadau arbennig a bydd cwmni trin dŵr yn gallu’ch cynghori ar y math gorau o driniaeth.
Os nad ydych yn sicr, neu’n pryderu a oes micro-organebau neu gemigion yn effeithio ar eich dŵr cysylltwch â ni i drafod y mater neu i drefnu prawf.
Un metel o bwys all fod yn bresennol yn eich dŵr yw plwm. Achos mwyaf tebygol plwm mewn dŵr yw plymwaith y tŷ. Gall hyn fod naill ai o ganlyniad i bibelli plwm hŷn neu danciau dal yn eich tŷ neu, os oes gennych bibelli copr, gallant fod wedi cael eu huno trwy ddefnyddio sodr seiliedig ar blwm. Tra bo dulliau trin ar gael i ddelio â phlwm, yn aml mae’n well disodli unrhyw blymwaith plwm yn y tŷ. Ni ddylid yfed dŵr sydd wedi bod yn sefyll mewn pibelli plwm am gyfnodau hir (er enghraifft dros nos). Dan yr amgylchiadau hyn dylid rhedeg y tap am ryw funud i glirio’r pibelli cyn defnyddio’r dŵr i yfed neu goginio. Os ydych eisiau rhagor o gyngor neu os hoffech gael profi eich dŵr am blwm, cysylltwch â ni.
Os bydd gennych unrhyw gwestiwn neu os ydych eisiau unrhyw gyngor ynghylch eich cyflenwad dŵr preifat, cysylltwch â ni.
www.privatewatersupplies.gov.uk – Gwefan ddefnyddiol gyda gwybodaeth i berchenogion cyflenwadau dŵr preifat (cyswllt allanol).
http://dwi.defra.gov.uk/ – Arolygiaeth Dŵr Yfed (cyswllt allanol).
Gwadiad: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.