Y cyflenwad dŵr cyhoeddus (dŵr yfed prif gyflenwad) yw’r dŵr sy’n cael ei ddarparu i chi gan eich cwmni dŵr lleol trwy rwydwaith o bibelli. Mae tri chwmni dŵr yn cyflenwi Wrecsam. Dŵr Dyffryn Dyfrdwy sy’n cyflenwi mwyafrif Wrecsam. Mae Dŵr Hafren Trent yn cyflenwi ychydig o ardaloedd penodol yn rhan fwyaf ddeheuol y Fwrdeistref Sirol ac mae United Utilities yn cyflenwi ychydig o eiddo yn y dwyrain.
Manylion cysylltu â’r cwmnïau hyn yw:
Dŵr Dyffryn Dyfrdwy – (01978) 846946 neu wefan www.deevalleygroup.com (cyswllt allanol)
Dŵr Hafren Trent – 0800 783 4444 neu wefan www.stwater.co.uk (cyswllt allanol)
United Utilities – 0845 746 2222 neu wefan www.unitedutilities.co.uk (cyswllt allanol)
Os oes gennych ymholiad neu broblem gyda’ch prif gyflenwad dŵr dylech, yn y lle cyntaf, gysylltu â’ch cyflenwr dŵr, a ddylai allu eich cynorthwyo. Fodd bynnag, os byddwch yn anfodlon ar ymateb y cwmni dŵr i fater ansawdd dŵr gallwch gysylltu â ni i drafod y mater. Gallwn ddod i samplu eich dŵr, siarad â’r cwmni dŵr ar eich rhan neu argymell eich bod yn cysylltu ag un o’r grwpiau canlynol:
Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI) – http://dwi.defra.gov.uk/ (cyswllt allanol)
Y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr (OFWAT) – www.ofwat.gov.uk (cyswllt allanol)
Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCWATER) – www.ccwater.org.uk (cyswllt allanol)
Mae’n fwyaf tebygol mai plymwaith y tŷ yw achos plwm mewn dŵr o’r prif gyflenwad. Gall hyn fod naill ai o ganlyniad i bibelli plwm neu danciau dal hŷn yn eich tŷ neu, os oes gennych bibelli copr, gallant fod wedi cael eu huno trwy ddefnyddio sodr seiliedig ar blwm. Ar hyn o bryd mae’r cwmnïau dŵr wrthi’n disodli eu pibelli cyflenwi seiliedig ar blwm. Fodd bynnag, eich cyfrifoldeb chi yw’r pibelli yn eich eiddo a bydd angen i chi drefnu eu hadnewyddu. Ni ddylid yfed dŵr a adawyd mewn pibelli plwm am gyfnodau hir (er enghraifft dros nos). Dan yr amgylchiadau hyn dylid rhedeg y tap am ryw funud i glirio’r pibelli cyn defnyddio’r dŵr i yfed neu goginio. Os ydych eisiau rhagor o gyngor neu os hoffech gael profi eich dŵr am blwm, cysylltwch â’ch cwmni dŵr fel y rhestrwyd uchod neu cysylltwch â ni.
Gwadiad: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.