Diogelu’r Amgylchedd – Radon

Nwy ymbelydrol sy’n digwydd yn naturiol yw radon. Nid oes modd ganfod trwy aroglau, golwg na chyffwrdd. Daw o’r wraniwm naturiol sy’n bresennol yn holl greigiau a phriddoedd. Mae’n bresennol ymhob rhan o’r wlad ond, gan fod y nwy’n gwasgaru’n gyflym yn yr atmosffer, mae’n cael eu hystyried bod y lefelau yn yr awyr agored yn isel iawn.

Gall rhai amgylchiadau daearegol arwain at fwy o Radon nag sy’n arferol yn eich tŷ. Gall dod i gysylltiad â llawer iawn o radon arwain at fwy o berygl datblygu canser yr ysgyfaint.

Os ydych yn pryderu ynghylch lefelau radon lle’r ydych yn byw gallwch gysylltu â ni a byddwn yn gallu rhoi amcangyfrif o lefelau yn y fan lle’r ydych yn byw. Fel arall gallwch gysylltu â’r Asiantaeth Diogelu Iechyd (HPA) fydd yn gallu dweud wrthych sut i fesur radon yn eich eiddo, a oes angen i chi gymryd unrhyw gamau i’w leihau a sut i wneud hynny.

HPA – (0800 614529) neu wefan www.hpa.org.uk

Gwadiad: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

yn ôl i'r brig