Diogelu’r Amgylchedd – Niwsans Statudol

Bydd Isadran Diogelu’r Amgylchedd yr Adran Tai a Diogelu’r Cyhoedd yn ymchwilio i gwynion y cyhoedd ynghylch sŵn, mwg a chroniadau o wastraff cartref all fod yn achosi niwsans neu sy’n niweidiol i iechyd. Caiff rhyw 2000 o gwynion o’r math hwn eu harchwilio bob blwyddyn.

Wythnos Atal Sŵn

Hyrwyddo Atal Sŵn - Wythnos Atal Sŵn 2012 yn Wrecsam / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Yn ystod yr Wythnos Atal Sŵn bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn codi ymwybyddiaeth o effaith sŵn yn Wrecsam ac yn hyrwyddo camau syml a rhesymol y gellir eu cymryd i rwystro problemau â sŵn; a gwasanaethau sydd ar gael i fynd i'r afael â phroblemau sŵn difrifol.

Eleni rydym yn canolbwyntio ar gyfarth cŵn.  Yn 2011 cafodd 700 o gwynion am sŵn eu harchwilio, roedd 280 ohonynt yn ymwneud â chŵn yn cyfarth. * Os ydych am gwyno am sŵn cŵn, neu unrhyw broblemau statudol am sŵn, ffoniwch y Cyngor ar 01978 298989.

Cynhelir ein Digwyddiad Wythnos Atal Sŵn rhwng 13:00 a 16:00 dydd Mercher 23 Mai 2012 yng Nghanolfan Gyswllt y Cyngor,( ‘Contact Wrexham’), a leolir yn Stryt yr Arglwydd, Wrecsam, LL11 1LG (taith gerdded fer o Orsaf Fysiau Wrecsam).

Bydd Swyddogion Diogelu’r Amgylchedd profiadol yn:

  • Rhoi cyngor gyffredinol a help AM DDIM am broblemau sŵn.
  • Arddangos yr offer a ddefnyddiwn i archwilio a datrys cwynion am sŵn.

Bydd Swyddog RSPCA ardal Wrecsam hefyd yn rhoi cyngor AM DDIM am hyfforddi cŵn ac argymhellion i helpu lleihau cyfarth y cŵn.

Gall sŵn achosi aflonyddwch a phoendod i bawb - adref, wrth hamddena neu astudio.  Dengys ymchwil cenedlaethol bod dwy ran o bump o’r boblogaeth yn datgan bod sŵn yn effeithio ar eu safon byw ac yn 2008 dywedodd oddeutu hanner miliwn o bobl (1%) eu bod wedi symud tŷ oherwydd cymdogion swnllyd.  Roedd mwy o broblem yn y sector rhentu preifat, pan ddywedodd 4% eu bod wedi symud oherwydd cymdogion swnllyd.


Cwynion Sŵn o Gartrefi

Bydd Isadran Diogelu’r Amgylchedd yr Adran Tai a Diogelu’r Cyhoedd yn delio â chwynion sŵn o gartrefi, yn bennaf o gerddoriaeth chwyddedig a chŵn yn cyfarth yn ormodol. Er mwyn delio â’r cwynion hyn, rhaid i ni gael eich manylion (enw, cyfeiriad a rhif ffôn, sy’n cael eu cadw’n gydgyfrinachol oni bai fod y gŵyn yn datblygu’n achos llys pryd y bydd gofyn i ni ddatgelu eich manylion) a ffynhonnell y niwsans sŵn. I gwyno neu i gael rhagor o gyngor yr Adran hon, dylech naill ai lenwi ffurflen ymholi ar-lein neu cysylltu â ni.

Taflenni Cyngor ar Sŵn

I gael cyngor ar faterion niwsans sŵn cyffredin o gartrefi, darllenwch y taflenni cyngor ar sŵn trwy glicio ar y dolenni isod:

Cyngor ar Sut i Fod yn Gymydog Da – fersiwn PDF 112Kb

Cyngor ar Gyfarth Cŵn – fersiwn PDF 100Kb

Cyngor ar Sŵn Ceiliogod – fersiwn PDF 145Kb

Cyngor ar Ieir Gini – fersiwn PDF 85Kb

Cyngor ar Beunod – fersiwn PDF 109Kb

Cyngor ar Gerddoriaeth Uchel – fersiwn PDF 73Kb

Cyngor ar Sŵn Adeiladu – fersiwn PDF 79Kb

Cyngor ar Sŵn Crefftau Cartref – fersiwn PDF 88Kb

Gwybodaeth Ynglŷn â Llwch o Waith diy a Gwaith Adeiladu ar Raddfa Fach – fersiwn PDF 168Kb

Beth Sydd Angen Ei Wybod Am Losgi Gwastraff Masnachol a Diwydiannol – fersiwn PDF 280Kb

Cyngor ar Wella Ynysiad Sŵn Mewn Cartrefi – fersiwn PDF 253Kb

Cyngor ar Ganu Clychau Eglwys – fersiwn PDF 83Kb

Cyngor ar Arbenigwyr Larymau Cerbydau – fersiwn PDF 55Kb

Cyngor ar Sŵn Drymiau – fersiwn PDF 80Kb

Dwyn Eich Achos Cyfreithiol Eich Hun – fersiwn PDF 226Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig

Cwynion Ynghylch Sŵn Masnachol

Mae Isadran Diogelu’r Amgylchedd hefyd yn ymchwilio i sŵn sy’n cyrraedd o eiddo ac adeiladau masnachol a diwydiannol sy’n cynnwys gweithgareddau fel swnllyd peiriannau trwm mewn ffatri neu ffan wagio swnllyd ar ochr tŷ bwyta. Er mwyn delio’n llwyddiannus â’r cwynion hyn, rhaid i ni gael eich manylion (enw, cyfeiriad a rhif ffôn, sy’n cael eu cadw’n gydgyfrinachol oni bai fod y gŵyn yn datblygu’n achos llys pryd y bydd gofyn i ni ddatgelu eich manylion) a ffynhonnell y niwsans sŵn. I gwyno neu i gael rhagor o gyngor yr Adran hon, dylech naill ai lenwi ffurflen ymholi ar-lein neu cysylltu â ni.

Sŵn Masnachol a Diwydiannol

Sŵn Masnachol a Diwydiannol – fersiwn PDF 70Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig

Dirgryniad

Gweithgareddau diwydiannol yn bennaf sy’n achosi dirgryniad a gall ddigwydd o arferion fel dymchwel a gweithredu offer neu beiriannau trwm. Niwsans o hyn hefyd yn dod dan Adran 79 o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990, a byddai angen i Swyddog Diogelu’r Amgylchedd ei dystio er mwyn penderfynu a yw niwsans statudol yn digwydd.

yn ôl i'r brig

Arolgleuon

Gallwn gymryd camau dan Adran 80 o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 mewn achosion lle mae aroglau / tarthau o eiddo ac adeiladau masnachol / diwydiannol yn creu niwsans statudol.

I anfon cwyn neu i gael rhagor o gyngor yr Adran hon, dylech naill ai lenwi ffurflen ymholi ar-lein neu cysylltu â ni.

yn ôl i'r brig

Mwg

Gwelwch hefyd y Cwestiynau Cyffredin ar Reoli Sŵn a Llygredd.

Gweithgareddau llosgi sy’n achosi mwg, a gallant fod o goelcerth yng ngardd cymydog neu losgi gwastraff masnachol mewn adeiladau masnachol. Daw niwsans statudol o goelcerthi gardd dan Adran 79 o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 ac, eto, mae’n dibynnu ar amlder, maint a chyfansoddiad y coelcerthi (h.y. pa mor hir y byddant yn llosgi) ac a yw’r mwg yn effeithio’n sylweddol arnoch. Mae gennych chi a’ch cymydog hawl i gael coelcerthi gardd ond, os yw’r mwg yn chwythu ar draws terfyn eich eiddo i eiddo eich cymdogion, gall hyn fod yn niwsans statudol. Byddai angen i Swyddog Diogelu’r Amgylchedd dystio hyn.

Mae niwsans mwg o eiddo masnachol neu ddiwydiannol yn dod dan Adran 79 o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 hefyd. Fodd bynnag, gall Deddf Awyr Lân 1990 fod yn berthnasol yn ogystal. Mae’r ddeddf hon yn ei gwneud yn drosedd i ollwng mwg tywyll (mwg trwchus) o eiddo ac adeiladau masnachol, ac eithrio amser tanio byr. Mae hefyd yn ei gwneud yn drosedd i losgi gwastraff masnachol mewn eiddo ac adeiladau masnach heb ganiatâd priodol Asiantaeth yr Amgylchedd. Caiff cwynion ynghylch mwg tywyll eu trin dan yr adran hon a’u hystyried yn ddifrifol iawn gan fod y sylweddau sy’n gwneud y mwg yn dywyll yn gallu bod yn niweidiol o’i anadlu. Deunyddiau sy’n gallu peri mwg tywyll yw pethau fel plastigau, carpedi, hidlyddion olew, ac ati.

Caiff llosgi gwastraff masnachol mewn eiddo ac adeiladau masnachol ei reoleiddio dan ddeddfwriaeth trin gwastraff, sy’n cael ei gorfodi gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Os ydych yn amau bod hyn yn digwydd, yna gallwch hysbysu Asiantaeth yr Amgylchedd (cyswllt allanol) o hynny ac rydym ni’n cynnal perthynas waith agos gyda’r Asiantaeth. Felly, os nad yw’r mwg yn digwydd oherwydd gweithgareddau o’r fath, bydd yr Asiantaeth yn anfon manylion atom ni i’w ymchwilio.

yn ôl i'r brig

Coelcerthi

Gall coelcerthi fod yn annifyr iawn i gymdogion ac, o ganlyniad, maent yn destun llawer o gwynion i’r Adran hon. Gall mwg o goelcerthi rwystro eich cymdogion rhag mwynhau eu gerddi, agor eu ffenestri neu roi eu dillad ar y lein.

Nid yw coelcerthi gardd yn cael eu gwahardd hyd yn oed mewn Ardaloedd Rheoli Mwg ac nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol ynghylch amser eu cynnau. Fodd bynnag, rhaid iddynt beidio â pheri niwsans i neb ar unrhyw adeg. Os yw coelcerth gardd yn peri niwsans gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gymryd camau dan Adran 80 o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 trwy roi Rhybudd Lleihau.

Cyngor ar Coelcerthi Ardd

I gael cyngor ar goelcerthi gardd, gwelwch ein Taflen Gyngor:

Cyngor ar Coelcerthi Ardd – fersiwn PDF 31Kb

I anfon cwyn neu i gael rhagor o gyngor yr Adran hon, dylech naill ai lenwi ffurflen ymholi ar-lein neu cysylltu â ni.

Gwelwch hefyd ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig

Niwsans Golau

Daw goleuadau diogeledd a ddyluniwyd, a osodwyd ac a gynhaliwyd yn dda â chysur a theimlad o ddiogelwch i’n bywydau gan roi ymdeimlad o sicrwydd i ni yn ein cartrefi. Fodd bynnag, caiff llawer o oleuadau diogeledd eu gosod heb ystyriaeth briodol o’u haddasrwydd i’r gwaith a’u heffaith ar gymdogion a’r amgylchedd. Dylai goleuadau diogeledd cartref daflu’r goleuni lleiaf sydd ei angen i oleuo eiddo. Tra gallwch chi fod yn hapus gyda golau sy’n goleuo hanner y stryd, efallai na fydd eich cymdogion.

I anfon cwyn neu i gael rhagor o gyngor yr Adran hon, dylech naill ai lenwi ffurflen ymholi ar-lein neu cysylltu â ni.

Cyngor ar Llygredd Golau

Cyngor ar Llygredd Golau – fersiwn PDF 130Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Pan nad yw ffynonellau niwsans sŵn yn rhywbeth fyddai’n cael ei ystyried yn niwsans statudol ac yn gallu bod yn faleisus (h.y. dyrnu, clepian, rhegi, bygwth ac ati) mae hyn yn cael ei ddosbarthu fel ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol’ ac, fel y cyfryw, dylech gysylltu â’ch PCSO (Swyddog Heddlu Cefnogi Cymuned) (cyswllt allanol).

yn ôl i'r brig

Niwsans Arall

Gwastraff

Gan amlaf caiff croniadau eu hachosi wrth i gartref beidio â chael gwared ar wastraff pydradwy (e.e. bwyd) yn y dull priodol a gadael iddo gronni. Gall hyn arwain at enghreifftiau o arogleuon drwg neu bresenoldeb fermin. Lle nad yw’n arferol, gall croniadau fod yn broblem mewn eiddo ac adeiladau masnachol yn ogystal (e.e. pentyrru carcasau anifeiliaid).

Eto byddai angen i Swyddog Diogelu’r Amgylchedd dystio’r rhain. Pe bai’r croniad a dystiwyd yn peri niwsans, byddai rhybudd lleihau’n cael ei roi dan Adran 80 o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990, sy’n gofyn dileu’r croniad. Fel arfer, mae’r cyfnod i wneud hyn yn eithaf byr, am nad oes angen llawer o ymdrech ac y gall y croniad fod yn niweidiol i iechyd.

Os ydych eisiau cwyno ynghylch croniadau o wastraff cartref yn eiddo cymydog (h.y. sachau bin ychwanegol o wastraff cartref wrth ymyl biniau olwynion) dylech naill ai lenwi ffurflen ymholi ar-lein neu cysylltu â ni.

Os byddwch yn dod ar draws problemau gyda gwibdaflu sbwriel, cysylltwch â’r Isadran Gorfodaeth Amgylcheddol (h.y. Hysbysu gwibdaflu sbwriel ar-lein) Ffurflen Ar-lein i Adrodd am Dipio Anghyfreithlon.

yn ôl i'r brig

Biniau

Caiff materion gwasanaeth casglu o finiau a chamddefnyddio biniau olwynion du a gwyrdd eu trin gan Adran yr Amgylchedd.

Back to top of page

Gerddi Gwyllt

Yn aml byddwn yn derbyn cwynion ynghylch gerddi gwyllt. Ni allwn gymryd unrhyw gamau yn erbyn pwy bynnag sy’n gyfrifol oni bai y profwyd bod yr ardd yn rhoi lloches i lygod neu lygod mawr, neu’n achosi perygl i iechyd mewn rhyw fodd. Nid yw bod yn ddolur llygad yn ddigonol Tîm Diogelu’r Amgylchedd weithredu.

Er eu bod yn flêr ac yn edrych yn hyll nid oes unrhyw ffactorau, fel arfer, y gallai Iechyd Amgylcheddol weithredu arnynt ac ymwneud â’r mater. Os yw planhigion o erddi gwyllt yn tyfu dros derfyn yr eiddo, fe all perchennog yr eiddo drws nesaf docio hyd at y terfyn, a rhoi’r tocion yn ôl yn yr ardd wyllt.

Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, fe all fod modd cymryd camau dan ddeddfwriaeth gynllunio a dylid gwneud ymholiadau i’r Adran Gynllunio.

O ran eiddo’r Cyngor, cysylltwch â’ch Swyddfa Stad leol – mae’r cytundeb tenantiaeth yn cwmpasu gerddi gwyllt.

I anfon cwyn neu i gael rhagor o gyngor yr Adran hon, dylech naill ai lenwi ffurflen ymholi ar-lein neu cysylltu â ni.

yn ôl i'r brig

Eiddo Aflan neu Ferminog

Mae rhai pobl yn ei chael yn anodd gofalu amdanynt eu hunain a’u heiddo. Gall hyn olygu bod yr eiddo’n mynd yn flêr a budr. Er nad yw’n ddelfrydol ni fyddai hyn yn ddigon difrifol i ni ymwneud â’r mater (er y gall fod yn briodol i gyrff eraill fel y Gwasanaethau Cymdeithasol wneud hynny).

I anfon cwyn neu i gael rhagor o gyngor yr Adran hon, dylech naill ai lenwi ffurflen ymholi ar-lein neu cysylltu â ni.

Daflen Gyngor Eiddo Aflan neu Ferminog

I gael cyngor ar Eiddo Aflan neu Ferminog, darllenwch Daflen Gyngor Eiddo Aflan neu Ferminog:

Daflen Gyngor Eiddo Aflan neu Ferminog – fersiwn PDF 61Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig

Cyngor ar Gŵn

Mae’r adran yn ymchwilio i gwynion ynghylch sŵn cŵn yn cyfarth a chroniadau gormodol o faw cŵn mewn gerddi preifat.

Mae’n hwyl fawr ac yn werth chweil bod â chi a gofalu amdano, ond mae hefyd yn gyfrifoldeb mawr ac yn ymrwymiad gofalu ac ariannol hirdymor. Chi sy’n rheoli dull o fyw eich ci; eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod ei anghenion yn cael eu diwallu, beth bynnag yw’r amgylchiadau. Mae taflen gyfarwyddyd Llywodraeth Cynulliad Cymru “Sut i ofalu am eich ci(cyswllt allanol) yn rhoi cyngor ar sut i ddiwallu anghenion eich ci a helpu osgoi cwynion.

Cyfeiriwch hefyd at ein taflen gynghori ein hunain ar sŵn cŵn yn cyfarth a gwybodaeth sy’n cael ei darparu gan Yr Ymddiriedolaeth Gŵn ar eu gwefan (cyswllt allanol).

I gael rhagor o wybodaeth gwelwch gwybodaeth bellach ar Gŵn yn Baeddu a chwestiynau cyffredin Warden Cŵn.

I hysbysu cŵn crwydr gwelwch: ffurflen hysbysu Warden Cŵn ar-lein.

Taflenni Cyngor

Cyngor ar Gyfarth Cŵn – fersiwn PDF 100Kb

Cyngor ar Faw Cŵn Mewn Eiddo a Gerddi – fersiwn PDF 106Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Cŵn Peryglus

Cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru (cyswllt allanol) ar 0845 6071002 ynghylch cŵn peryglus a deimlwch allai ddianc a niweidio pobl.

Gwelwch hefyd: Lles Cŵn: Rheoli Cŵn (cyswllt allanol).

yn ôl i'r brig

Cymryd Camau Cyfreithiol Eich Hun

Achos preifat yw un pan fydd unigolyn preifat neu gwmni’n cymryd camau drostynt eu hunain mewn llys ynadon. Mae amryw resymau dros wneud hyn:

  • Nid yw’r Cyngor yn fodlon bod y maint yr aflonyddwch a ddioddefwch yn Niwsans Statudol yn ôl Adran 79 o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990, ac yn methu eich cynorthwyo ymhellach
  • Ni fu modd i Swyddog Diogelu’r Amgylchedd dystio’r broblem.

Dan Adran 82 o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990, os ydych yn credu bod Niwsans yn effeithio arnoch, mae gennych hawl i gwyno’n uniongyrchol i Lys Ynadon a gofyn am gyflwyno gwŷs.

Efallai y byddwch eisiau ystyried cymryd camau o’r fath a dylech ddilyn y drefn gymeradwy isod:

  • Trafodwch y broblem, os gallwch, gyda phwy bynnag sy’n peri’r niwsans. Efallai nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn achosi problem
  • Os bydd y niwsans yn parhau, ysgrifennwch at bwy bynnag sy’n peri’r niwsans yn egluro’r broblem, gan sicrhau dyddio’r llythyr a chadw copi i gyfeirio ato yn y dyfodol
  • Os bydd y broblem yn parhau, casglwch yr holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen i’w chyflwyno i’r Llys. Dylech allu rhoi enw llawn a chyfeiriad pwy bynnag sy’n achosi’r niwsans
  • Mae tystiolaeth fanwl yn bwysig a’r cyngor cryf i chi yw cadw cofnod ysgrifenedig o’r amser mae’r niwsans yn dechrau ac yn darfod, disgrifiad cryno o’r math o broblem a’i heffaith arnoch, e.e. rhwystro neu’n amharu ar gwsg, ymlacio, darllen neu wylio’r teledu
  • Efallai y byddwch eisiau cael cyngor cyfreithiol neu ymgynghori â chyfreithiwr er nad ydych yn gorfod gwneud hynny
  • Cyn i chi gymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un, bydd angen i chi roi hysbysiad ysgrifenedig ffurfiol iddynt o’ch bwriad i wneud hynny. Mae angen rhoi tri diwrnod o rybudd ysgrifenedig o ran Niwsans Sŵn ac un diwrnod ar hugain o rybudd o ran mathau eraill o niwsans.

Pan fyddwch yn fodlon fod gennych ddigon o dystiolaeth a’ch bod wedi rhoi rhybudd, bydd angen i chi ymweld â’ch Llys Ynadon lleol. Y Llys Ynadon lleol yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw:

Bodhyfryd
Wrecsam
LL12 7BP

Ffôn: 01978 310106

Cyngor ar Cymryd Eich Hunan Gweithredu Cyfreithiol

Mae rhagor o fanylion i’w cael yn ein taflen:

Cyngor ar Cymryd Eich Hunan Gweithredu Cyfreithiol – fersiwn PDF 226Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig

Problemau Draenio

Carthffosydd Cyhoeddus a Rhai Preifat

Cafodd y Rheoliadau Trosglwyddo Carthffosydd Preifat eu trafod a'u pasio gan Lywodraeth Cymru ar 21 Mehefin. Daw'r rheoliadau sy'n ymwneud â'r trosglwyddo i rym ar 1 Gorffennaf 2011. Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd Dŵr Cymru Welsh Water (cyswllt allanol) yn dod yn gyfrifol o 1 Hydref 2011 ymlaen am rai pibellau carthffosiaeth sy'n eiddo i berchenogion cartrefi a busnesau ar hyn o bryd.

Mae cyngor i’w gael ar y cyfrifoldebau o ran delio â draeniau preifat, carthffosydd preifat neu danciau carthion diffygiol neu wedi tagu. Pan fo cymdogion neu eraill yn amharod i gydweithredu i ddatrys y broblem ymysg ei gilydd, gall Isadran Diogelu’r Amgylchedd roi rhybuddion yn gorfodi’r rhai sy’n gyfrifol gymryd camau adfer.

Cyfrifoldeb Dŵr Cymru yw carthffosydd cyhoeddus Wrecsam Dŵr Cymru (cyswllt allanol) a gallwch ffonio 0800 085 3968 (neu 0800 052 4125 am wasanaeth Minicom) i gael rhagor o wybodaeth neu i hysbysu problem.

Gwelwch ein Nodiadau Esboniadol manwl ar Garthffosydd Preifat i gael rhagor o wybodaeth:

Cyngor ar ddefnyddio Tanciau Carthion – fersiwn PDF 64Kb

Cyngor ar Gafnau a Draeniau – fersiwn PDF 107Kb

Cyngor ar Ddefnydd Amhriodol o Garthffosiaeth – fersiwn PDF 53Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.


Taflenni Cyngor Arall

Taflenni Cyngor Arall

I gael cyngor ar faterion niwsans arall cyffredin os gwelwch yn dda cliciwch ar y cysylltiadau isod:

Cyngor ar Dorri Gwrychoedd – fersiwn PDF 21Kb

Cyngor ar Erddi sydd wedi Tyfu’n Wyllt – fersiwn PDF 91Kb

Cyngor ar Gadw Ieir – fersiwn PDF 142Kb

Cyngor ar Ŵyn Amddifad (Llywaeth) – fersiwn PDF 111Kb

Cyngor i Ddeiliaid Tai mewn Eiddo sydd wedi’u Heffeithio gan Lifogydd – fersiwn PDF 115Kb

Cyngor am Reoli Arogleuon o Geginau Masnachol – fersiwn PDF 88Kb

Cyngor am Chwain – fersiwn PDF 96Kb

Cyngor am Bethau Miniog (Chwistrellau) – fersiwn PDF 35Kb

Cyngor ar Fwg o Eiddo Domestig – fersiwn PDF 115Kb

Cyngor am Gladdedigaethau Gwyrdd – fersiwn PDF 84Kb

Cyngor ar Ddefnyddio Carthbyllau a Bioddisgiau – fersiwn PDF 84Kb

Cyngor am Bryfed Heidiog – fersiwn PDF 86Kb

Cyngor ar Ymdrin ag Arogleuon Amaethyddol – fersiwn PDF 74Kb

Cyngor ar Leithder mewn Waliau – fersiwn PDF 125Kb

Cyngor i Bobl sy’n Dioddef Niwsans Sŵn yn Dilyn Cyflwyno Hysbysiad Atal – fersiwn PDF 89Kb

Cyngor am Chwilod Carped/Sianis Blewog – fersiwn PDF 42Kb


I anfon cwyn neu i gael rhagor o gyngor yr Adran hon, dylech naill ai lenwi ffurflen ymholi ar-lein neu cysylltu â ni.

Gwadiad: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

yn ôl i'r brig