Mae’r Gwasanaeth Diogelu’r Amgylchedd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i amrywiaeth o gwsmeriaid. Mae’r gwaith mae’r tîm yn ei wneud yn amrywio o ymchwilio i gwynion i wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio. Dyma fanylion am beth o’r gwaith a wnaed gan y tîm:
Mae’r cyhoedd yn cysylltu â’r tîm yma i ofyn am gymorth i ddatrys nifer o faterion, a allai gynnwys cerddoriaeth swnllyd o eiddo cyfagos neu safle diwydiannol yn llosgi gwastraff. Mae ymchwilio i’r cwynion hyn ar ran cwsmeriaid yn rhan o’n swyddogaeth ni, ynghyd â gweithredu’r ddeddfwriaeth fel bo’n briodol. Gallwn gynorthwyo cwsmeriaid â materion sy’n dod o dan ddeddfwriaeth briodol a orfodir gan y gwasanaeth hwn.
Dangosir amrywiaeth y cwynion a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Diogelu’r Amgylchedd yn y siart isod:

| Sŵn | Sbwriel | Draeniau | Mwg | Arogeluon | Niwsans arall |
|
|---|---|---|---|---|---|---|
| Nifer y Cwynion | 713 | 286 | 206 | 158 | 70 | 556 |
Rydyn ni’n derbyn cwynion am amrywiaeth o bynciau, ond sŵn oedd y categori mwyaf (713 o gwynion) yn 2009/2010. Dengys y siart isod gyfran y gwahanol gategoriau o gwynion sŵn:

| Nifer y Cwynion | |
|---|---|
| Cŵn yn cyfarth | 279 |
| Cerddoriaeth swnllyd | 149 |
| DIY | 6 |
| Larymau | 16 |
| Amaethyddol | 12 |
| Masnachol | 20 |
| Diwydiannol trwm | 18 |
| Diwydiannol ysgafn | 8 |
| Sŵn arall gan gymdogion | 128 |
| Sŵn arall | 77 |
Ar gyfartaledd fe wnaethon ni ymateb i gwynion am sŵn o fewn diwrnod o gael ein hysbysu am y gŵyn. Fel arfer rydyn ni’n cwblhau’r gwaith o ymdrin â chwyn am sŵn o fewn 32 diwrnod o gael ein hysbysu am y gŵyn.
Rydyn ni’n datrys mwyafrif y cwynion yn anffurfiol trwy roi cyngor priodol. Serch hynny, roedd yn ofynnol i ni ddilyn ein trefn orfodaeth gyda rhai o’r achosion hyn. Rhoir manylion am nifer y gweithredoedd gorfodaeth a gyflwynwyd gan y Gwasanaeth hwn yn 2009/2010 isod:
Fe wnawn ni barhau i ddefnyddio gweithredoedd gorfodaeth effeithiol a phriodol pan fo angen, gan fod hwn yn elfen hanfodol bwysig o ran datrys materion y tynnir ein sylw ni atyn nhw.