Cyngor i Fusnesau

Rheoliadau Rheoli Asbestos yn y Gweithle 2002

Dyletswydd Newydd i Reoli

Mae Rheoliadau Rheoli Asbestos yn y Gweithle 2002 yn cyflwyno dyletswydd eglur i reoli absestos mewn eiddo annomestig. Mae’r ddeddfwriaeth bwysig hon yn ymdrin â’r lladdwyr iechyd galwedigaethol mwyaf yn y DU.

Tra bod bron i bob gweithgaredd arall sy’n cynnwys bod yn agored i berygl asbestos wedi darfod erbyn hyn, mae tystiolaeth yn awgrymu bod y rhai sy’n gweithio mewn busnesau adeiladu’n dal mewn perygl sylweddol o asbestos.

Mae’r ddyletswydd i reoli’n gofyn i’r rhai sy’n gyfrifol am eiddo i:

  • gymryd camau rhesymol i benderfynu ar leoliad a chyflwr y defnyddiau sy’n debygol o gynnwys asbestos;
  • derbyn bod defnyddiau’n cynnwys asbestos oni bai bod tystiolaeth amlwg i’r gwrthwyneb;
  • creu a chynnal cofnod o leoliad a chyflwr y defnyddiau hyn;
  • asesu’r perygl a’r tebygrwydd o unigolion yn agored i’r ffeibrau hyn;
  • paratoi cynllun sy’n gosod allan sut bydd y risgiau’n cael eu rheoli;
  • cymryd y camau angenrheidiol i weithredu’r cynllun;
  • arolygu a monitro’r cynllun yn rheolaidd; a
  • darparu gwybodaeth ar leoliad a chyflwr y defnyddiau i unrhyw un sy’n debygol o weithio arnynt neu darfu arnynt.

Bydd y ddyletswydd newydd yn dod i rym yn llawn ar 21 Mai 2004. Golyga hyn fod raid i bob eiddo masnachol gwblhau eu hasesiadau a phrotocolau rheoli erbyn y dyddiad hwnnw. Mae’n bwysig dechrau’r broses nawr.

Cyn i chi gyflogi ymgynghorydd asbestos, dylech gael manylion pellach oddi wrth y ffynonellau isod. Mae’n bosibl y bydd gennych yr arbenigedd yn fewnol i reoli’r risgiau.

Gellir cael cyngor pellach o’r ffynonellau canlynol:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Diogelu’r Cyhoedd, Is-Adran Iechyd a Diogelwch,
ffôn: 01978 298989.

Gwefannau: www.hse.gov.uk/asbestos

Cyhoeddiadau

Llyfrynnau:

A short guide to Managing Asbestos in Premises.

INDG223. HSE Books am ddim.

Argymelledig

Asbestos alert for building, maintenance, repair and refurbishment workers. Be aware of asbestos the hidden killer.

INDG188. HSE Books. Am ddim.

Argymelledig

Canllawiau cynhwysfawr:

The Management of Asbestos in non-domestic premises.

Approved Code of Practice and Guidance. L127. HSE Books, ISBN 07176 23823 £9.50

Argymelledig i bawb.

Work with Asbestos which does not normally require a licence.

Approved Code of Practice and Guidance. L27. HSE Books, ISBN 07176 25621 £9.50

Ar gyfer y rhai sy’n gwneud gwaith cynnal a chadw, trwsio ac adeiladu.

Asbestos Essentials Task Manual.

Task guidance sheets for the building maintenance and allied trades. HSG210. HSE Books, ISBN 07176 18870 £8.50

Ar gyfer y rhai sy’n gwneud gwaith cynnal a chadw, trwsio ac adeiladu.

Introduction to Asbestos Essentials.

Comprehensive guidance on working with asbestos in the building maintenance and allied trades. HSG213. HSE Books, ISBN 07176 1901X £12.50

Ar gyfer pawb sy’n gwneud y math hwn o waith.

A Comprehensive guide to managing asbestos in premises.

HSG227. HSE Books, ISBN 07176 23815 £12.50

Ar gyfer rheolwyr eiddo mwy.

Work with asbestos insulation, asbestos coating and asbestos insulating board (Fourth Edition).

Approved Code of Practice and Guidance. L28. HSE Books, ISBN 07176 2563X £9.50

Ar gyfer rheolwyr eiddo sy’n cynnwys y defnyddiau hyn.

Mae cyhoeddiadau’r HSE ar gael oddi wrth HSE Books, PO Box 1999, Sudbury, Suffolk, CO10 2WA

Ffôn: 01787 881165. Ffacs: 01787 313995.

yn ôl i'r brig