Fel a nodwyd gynt, os yw defnyddiau sy'n cynnwys asbestos mewn cyflwr da ac nad ydynt yn cael eu symud na'u difrodi, ni fydd y ffeibrau'n cael eu rhyddhau ac ni fyddant yn beryglus felly. Y peth gorau i'w wneud yw gadael y rhain i fod.
Gellir darganfod asbestos mewn tai o bob math a adeiladwyd cyn y 1980au hwyr ond byddai'r rhai a adeiladwyd neu a ailwampiwyd rhwng 1950 a'r 1970au hwyr yn fwy tebygol o'i gael. Mae'r gwaith o dynnu asbestos yn arbenigol ac ni ddylai deiliaid tai roi cynnig arno. Yn wir, mae gwaith ar lawer o ddefnyddiau sy'n cynnwys asbestos yn mynnu bod contractwyr yn dal trwydded arbennig. Gallwch gael cyngor pellach drwy ffonio'r Is-Adran Iechyd a Diogelwch y Cyngor ar 01978 298989. Fodd bynnag, ni all y Cyngor ymgymryd â'r gwaith o brofi asbestos.
Y defnyddiau asbestos mwyaf cyffredin a welir mewn tai yn ardal Wrecsam yw cynnyrch sment. Gallai'r rhain fod ar ffurf landeri a phibelli, tanciau dwr a defnydd a ddefnyddir ar gyfer modurdai, siediau ac ysguboriau. Os oes gennych rai o'r defnyddiau hyn a'u bod mewn cyflwr da, efallai y byddai'n well eu gadael nhw. Peidiwch â defnyddio peiriannau golchi pwysedd uchel na brwshis weiar i lanhau sment asbestos gan y bydd hyn yn rhyddhau'r ffeibrau.
Os oes gennych ddarnau o landeri wedi eu storio yn eich gardd, gallwch fynd â'r rhain i Safle Amwynderau Lôn Bryn, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. Dylech lapio'r eitemau mewn plastig i ddechrau ac ni ddylech eu torri na'u llifio (bydd hyn yn rhyddhau'r ffeibrau). Mae sgip arbennig ar gyfer sment asbestos ar safle Queensway.