Cynlluniwyd y cyngor canlynol i roi dealltwriaeth sylfaenol o asbestos a defnyddiau sy’n cynnwys asbestos. Mae’n fan cychwyn i’r rhai hynny sydd â chwestiwn am asbestos, un ai deiliad ty neu fusnes. Mae’r tudalennau canlynol yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer ymholiadau pellach a manylion o gyhoeddiadau sy’n cynnwys cyfarwyddyd cynhwysfawr ar bynciau o weithio gydag asbestos i ddeddfwriaeth.
Mae asbestos yn air a ddefnyddir ar gyfer grwp o fwnau sy’n digwydd yn naturiol, sydd â golwg crisial ffeibrog. Mae tri math o asbestos wedi cael eu defnyddio’n fasnachol ar gyfer amryw gynnyrch – asbestos glas, asbestos brown ac asbestos gwyn.
Mae pob math yn beryglus gan fod y ffeibrau’n torri i lawr i ffurfio
nodwyddau mân iawn y gellir eu hanadlu i mewn i’r ysgyfaint.
Gall y mathau gwahanol o asbestos amrywio o ran lliw ac ni ellir gwahaniaethu
rhyngddynt yn ôl eu lliw yn unig. Mae angen dadansoddiad labordy
bob tro.
Gall anadlu aer sy’n cynnwys ffeibrau asbestos arwain at glefydau sy’n gysylltiedig ag asbestos, canser yr ysgyfaint a leinin y fron yn bennaf. Clefydau sy’n gysylltiedig ag asbestos yw’r lladdwyr iechyd galwedigaethol mwyaf yn y DU gyda 3,000 o bobl yn marw bob blwyddyn, 25% o’r rhain wedi gweithio ym meysydd adeiladu a chynnal a chadw ac wedi gweithio, yn ddiarwybod, gyda defnyddiau a oedd yn cynnwys asbestos.
Mae nawr yn anghyfreithlon defnyddio asbestos wrth adeiladu neu ailwampio eiddo, ond defnyddiwyd miloedd o dunnelli yn y gorffennol a bydd llawer ohono yn dal i fod mewn lle. Cyn belled ag y bo’r asbestos mewn cyflwr da ac na fydd yn cael ei symud na’i ddifrodi, nid oes perygl. Fodd bynnag, os caiff ei symud neu ei ddifrodi, gall fod yn beryglus oherwydd gallai’r ffeibrau nodwyddog gael eu rhyddhau i’r aer a chael eu hanadlu i mewn.
Gall unrhyw un sy’n dod i gysylltiad â’r ffeibrau fod mewn perygl. Y rhai sydd mewn perygl fwyaf yw’r rhai sy’n symud yr asbestos, unrhyw un y mae ei waith yn cynnwys drilio, llifio neu dorri i mewn i ddefnydd eiddo. Mae’r dystiolaeth wyddonol o ran graddau o berygl yn aneglur ond gwyddom po fwyaf yr asbestos sy’n cael ei anadlu i mewn, y mwyaf yw’r perygl i iechyd.
Gellir darganfod asbestos unrhyw le mewn adeilad. Yn gyffredinol, mae’r cynnyrch sy’n cynnwys canran uchel o asbestos (hyd at 90%) yn fwy bregus, megis ynyswyr pibelli neu foileri. Mae’r cynnyrch sy’n cynnwys canrannau isel o asbestos (10-15%) megis toeau sment asbestos, yn gryfach. Yn y rhain, mae’r ffeibrau’n cael eu gosod yn y sment a byddant yn cael eu rhyddhau dim ond os yw’r defnydd yn cael ei ddifrodi’n wael, ei dorri, ei ddrilio neu ei daenu, ayb.
Rydych fwyaf tebygol o ddod ar draws asbestos yn y defnyddiau isod:
asbestos wedi ei chwistrellu a phecynnu rhydd – a ddefnyddir i atal tân mewn tai gwag
ynysiad wedi ei fowldio neu ei gyn-ffurfio – a ddefnyddir i insiwleiddio pibelli a boileri
asbestos wedi ei chwistrellu – a ddefnyddir i atal tân mewn pibelli, paneli, gwaith dur, rhaniadau, byrddau a phaneli nenfwd
byrddau insiwleiddio a ddefnyddir i atal tân, insiwleiddio, rhaniadau a phibelli
rhai teiliau nenfwd
cynnyrch papur a ddefnyddir i insiwleiddio cyfarpar trydanol. Defnyddiwyd papur asbestos fel arwyneb atal tân hefyd
sment asbestos a ellir ei wasgu i haenau gwastad neu rychog, landeri, pibelli dwr a thanciau dwr
rhai arwynebau
peth defnydd to bitwmen
teiliau llawr finyl neu thermoplastig
Dechreuwyd defnyddio asbestos yn fasnachol yn y DU oddeutu diwedd y 1800au a chynyddodd yn raddol tan 1939. Yn syth ar ôl yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd llawer o asbestos, yn enwedig ar gyfer adeiladau newydd yn y 1950au, 60au a’r 70au. Defnyddiwyd cynnyrch asbestos yn rheolaidd hefyd wrth ailwampio hen adeiladau. Ers y 1980au hwyr, daeth ei ddefnydd i ben yn raddol a gorfodwyd gwaharddiad llwyr yn 1999.