Mae'r
dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ar wasanaeth Iechyd a Diogelwch Cyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy'n rhan o Adran Gwarchod y Cyhoedd.
Nod y gwasanaeth Iechyd a Diogelwch yw gwarchod iechyd a diogelwch a lles gweithwyr, a diogelu eraill, yn enwedig y cyhoedd, a all fod mewn perygl oherwydd gweithgareddau gwaith.
Gweler hefyd Gwybodaeth Safonau Iechyd a Diogelwch wrth Weithio
Mae'r prif gyfrifoldeb am sicrhau iechyd a diogelwch
yn y gweithle yn perthyn i'r sawl sy'n creu'r risg, ac mae angen i gyflogwyr,
yn arbennig, wneud trefniadau addas a digonol i reoli iechyd a diogelwch.
Mae swyddogion yn yr adain yn gyfrifol am orfodi darpariaethau Deddf
Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974 ym mhob eiddo lle mae gan y
Cyngor gyfrifoldebau gorfodi. Mae'r eiddo yn cynnwys warysau a stordai,
swyddfeydd a siopau, canolfannau garddio a chartrefi gofal preswyl. Mae
rhestr lawn o'r eiddo a gaiff eu gorfodi gan yr Awdurdod Lleol i'w chael
yn y Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Awdurdod Gorfodi) 1998.
Mae'r gweithgareddau a ymgymerir gan y swyddogion fel a ganlyn:-
Archwilio damweiniau a cheisio rhwystro ail-ddigwyddiad
Archwilio eiddo yn rheolaidd i sicrhau cydymffurfio gyda deddfwriaeth iechyd a diogelwch. Mae hyn yn digwydd dan system sy'n seiliedig ar flaenoriaeth. Mae amlder ymweliadau yn dibynnu ar fath a maint eiddo, y gwaith a ymgymerir a hanes iechyd a diogelwch yr eiddo.
Archwilio a datrys cwynion yn ymwneud ag amodau gweithle.
Hybu ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch i gyflogwyr a gweithwyr trwy roddi gwybodaeth, cyngor a chwarae rhan mewn ymgyrchoedd cenedlaethol.
Cofrestru a thrwyddedu sefydliadau tyllu'r croen a thatwio.
Rhoi cyngor i fusnesau. Rydym yn ateb cwestiynau gan berchnogion busnes sydd angen gwybodaeth sylfaenol ar iechyd a diogelwch yn y gwaith. Yn aml, medrwn wneud hyn ar y ffôn a/neu anfon taflenni esboniadol.
Rhoi cyngor i weithwyr. Efallai y bydd angen i weithwyr sy'n dioddef problemau iechyd a diogelwch yn y gwaith neu sydd â phryderon neu gwestiynau, drafod eu sefyllfa gyda rhywun y tu allan i'r gwaith. Medrwn gynnig cyngor a/neu ddelio gyda'r ymholiad fel cwyn. Os yw Swyddog yn archwilio, ni ddatgelir enw'r achwynnydd.
Mae'r Taflenni Cyngor ar Iechyd a Diogelwch ar y wefan hon yn rhoi ystod eang o wybodaeth ar Iechyd a Diogelwch Busnes, sydd ar gael i'w darllen ar lein, neu eu llwytho i'ch cyfrifiadur ar ffurf Microsoft Word, Adobe Acrobat PDF neu destun plaen.
Cyswllt i'r Taflenni Cyngor Iechyd a Diogelwch
Os ydych eisiau unrhyw wybodaeth bellach ar ein gwasanaethau, yna
cysylltwch gyda ni:
Ffôn: 01978 292040
Ffacs: 01978 297003
Ebost environmental@wrexham.gov.uk | Ffurflen ymholiadau cyffredinol ar lein
Cyfeiriad:
Swyddfa Tai a Diogelu’r Cyhoedd
Stryd Fawr
Rhiwabon
Wrecsam
LL14 6NH
Gwefan Gweithredwyr Iechyd a Diogelwch