Ymgyrch Wrecsam yn ei Blodau – Calendr o Ddigwyddiadau

Calendr o Ddigwyddiadau

I gael Dyddiadur llawn o Ddigwyddiadau Parciau a Pharciau Gwledig Wrecsam drwy gydol y flwyddyn, ymwelwch a’u tudalen we, www.wrecsam.gov.uk/countryside.

Mai

  • Dydd Llun 2 Mai
    Melin y Nant – Picnic Tedi
    Gwisgwch Tedi mewn gwisg Gymreig ac ennill gwobr.
    Dilyn llwybr tedi trwy’r coedydd.
    ‘Picnic’ gan Gyfeillion Melin y Nant.
    Dechrau am 2.00pm
    Pob oed gydag oedolyn. £2.00

  • Dydd Mercher 4 Mai
    Dyfroedd Alun – Rhannu Gwrtaith
    (maes parcio ochr Llai)
    Dewch â bag i hawlio eich gwrtaith ‘wedi’i ailgylchu’ am ddim.
    Rhwng 10.00am a 4.00pm
    Rhoddion at Gyfeillion Dyfroedd Alun

  • Dydd Iau 5 Mai
    Hawliau Tramwy Cyhoeddus – Gwersyllt / Llai, ar hyd Afon Alun a Llwybr Clawdd Wat
    Cyfarfod y ceidwad ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun
    (Cyfeirnod Grid: SJ 319546)
    Cychwyn am 10:30am. 7 milltir / 4 awr.
    Addas ar gyfer 16+. Gwisgwch esgidiau mawr / cryfion
    Dim cŵn. Cinio pecyn
    Gradd C+

  • Dydd Sadwrn 7 Mai
    Tŷ Mawr – Rhannu Gwrtaith
    Dewch â bag i hawlio eich gwrtaith ‘wedi’i ailgylchu’ am ddim.
    Rhwng 10.00am a 4.00pm
    Rhoddion at Gyfeillion Tŷ Mawr

  • Dydd Iau 12 Mai
    Parc Gwaunyterfyn – Glanhau Cymunedol
    Helpu tacluso’r parc erbyn y gwanwyn.
    Cyfarfod yn y pafiliwn powliau.
    10.00am – 12.00pm
    Pob oed gydag oedolyn

  • Dydd Sadwrn 14 Mai
    Ty Mawr - Taith Gerdded Cofnodi Adar Atlas BTO
    Yn anelu at oedolion, ymunwch ag arbenigwyr i adnabod adar trwy wrando ac edrych ar gyfer prosiect cofnodi’r atlas.
    8.00am yn brydlon yn y ganolfan ymwelwyr

  • Dydd Llun 16 Mai
    Y Parciau – Blasu Powliau Grîn Gefngrom
    Dysgu sut i chwarae powliau grîn gefngrom ar y lawntiau.
    Holl offer wedi’i ddarparu. Cyfarfod ar y lawntiau
    1.00 - 3.00pm
    Pob oed gydag oedolyn

  • Dydd Mercher 18 Mai
    Parc y Ponciau - Prynhawn Powliau Agored
    Ymuno mewn prynhawn ‘blasu’ Clwb Bowlio am ddim yn y pafiliwn powliau.
    Powliau ac offer yn cael ei ddarparu.
    2.00 - 4.00pm
    Croeso i bawb

  • Dydd Sul 22 Mai
    Dyfroedd Alun – Ras dros Fywyd
    Allwch chi redeg neu gerdded 5k at ymchwil ganser?
    Cofrestrwch ar gyfer ras eleni ar www.raceforlife.org

  • Dydd Mawrth 31 Mai
    Melin y Nant – Golwg Bysgodlyd!
    Gwneud masg pysgodlyd pefriog a gweld a gallwch chi weld rhai pysgod go iawn yn Afon Clywedog.
    1.30 - 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

Mehefin

  • Dydd Mercher 1 Mehefin
    Dyfroedd Alun – Beicio Mynydd
    Beicio mynydd efo ‘Beicio Cymru’. Gwella eich sgiliau yn y bore a rasio yn y prynhawn.
    Rhai dan 16. Lleoedd yn gwbl gyfyngedig.
    Cadw lle ymlaen llaw ar 01978 763140.

  • Dydd Iau 2 Mehefin
    Tŷ Mawr – Cneifio Defaid a Gwallgofrwydd Gwlanog
    Gwylio’r defaid preswyl yn cael eu cneifio, a chrefft hynafol nyddu a rhoi cynnig ar weu.
    1.30 - 3.30pm.
    Croeso i chi gyfrannu
    Pob oed gydag oedolyn.

  • Dydd Iau 2 Mehefin
    Y Parciau –Gweithdy Celf a Chrefft Hwyliog
    Amrywiaeth o weithgareddau crefft ar gael.
    Cyfarfod yn y ganolfan gymunedol
    1.00 – 3.00pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Iau 2 Mehefin
    Hawliau Tramwy Cyhoeddus – Taith Gerdded Owrtyn / Dyfrdwy
    Cyfarfod y ceidwad ym maes parcio Eglwys Owrtyn.
    (Cyfeirnod Grid: SJ 373417)
    Cychwyn am 10:30am. 5 milltir / 2.5 awr.
    Addas ar gyfer 16+. Gwisgwch esgidiau mawr / cryfion
    Dim cŵn. Tamaid i’w fwyta
    Gradd C+

Wythnos Bioamrywiaeth Cymru 4 - 12 Mehefin

  • Dydd Mawrth 7 Mehefin
    Tŷ Mawr – Crwydro ar ôl Ysgol i Chwilio am Flodau Gwyllt.
    Ymuno â’r ceidwaid iau i chwilio am flodau gwyllt yn y parc.
    4.00 - 5.00pm
    Pob oed gydag oedolyn

  • Dydd Mercher 8 Mehefin
    Dyfroedd Alun – Saffari Mini Bwystfilod ar ôl Ysgol
    Ymuno yn yr helfa drychfilod i chwilio am rai o’n trigolion llai.
    4.00- 5.00pm
    Pob oed gydag oedolyn

  • Dydd Iau 9 Mehefin
    Melin y Nant – Adnabod Adar i Ddechreuwyr
    Ymuno â swyddog bioamrywiaeth Wrecsam ar daith adar i ddechreuwyr yng nghoed Plas Power.
    Cychwyn yn brydlon am 10.00am am ryw 2 awr

  • Dydd Sadwrn 18 Mehefin
    Tŷ Mawr – Sioe Gŵn
    Ymuno â Chyfeillion Tŷ Mawr yn y sioe gŵn hwyliog hon.
    Cynigion o 11.00am a’r beirniadu’n dechrau am 1.00pm
    £1.50 y dosbarth – £5 am 4 dosbarth

  • Dydd Mawrth 21 Mehefin
    Taith gerdded noswaith Hirddydd Haf ar hyd y Ddyfrdwy yn Erbistog
    Cyfarfod y ceidwad ym maes parcio’r Boat Inn.
    (Cyfeirnod Grid: SJ 354413)
    Cychwyn am 6.30pm. 4.5 milltir / 2.5 awr.
    Addas ar gyfer 16+. Gwisgwch esgidiau mawr / cryfion
    Dim cŵn. Tamaid i’w fwyta
    Gradd B+

  • Dydd Mercher 22 Mehefin
    Parc y Ponciau – Prynhawn Powliau Agored
    Ymuno mewn prynhawn ‘blasu’ Clwb Bowlio am ddim yn y pafiliwn powliau.
    Powliau ac offer yn cael ei ddarparu.
    2.00 - 4.00pm
    Croeso i bawb

  • Dydd Gwener 24 Mehefin, 1, 15, 22 Gorffennaf a 12 Awst.
    Y Parciau – Cerddoriaeth yn y Parc
    Cyngherddau cerddoriaeth fyw o’r bandstand am ddim ar nosweithiau o haf.
    7.00 – 9.00pm

Prosiect gefeillio a gyllidwyd gan y Cyngor Prydeinig yw ‘Green Light’ yn cysylltu Wrecsam â Racibórz yng Ngwlad Pwyl.

Nod yr ŵyl hon, o 27 Mehefin i 1 Gorffennaf, yw cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd addysg amgylcheddol. Yr wythnos hon mae pedwar o barciau Wrecsam yn cynnig sesiynau ysgol am ddim.

Os ydych yn athrawon cynradd, ffoniwch y parc sydd o ddiddordeb i chi (rhifau yn y blaen). Bydd hyn ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu.

  • Dydd Mawrth 28 Mehefin
    Melin y Nant – Gweddnewid
    O’r afon i’r tir, bydd llawer o greaduriaid, fel gwybed Mai, yn dechrau bywyd yn y dŵr. Ymunwch â’r ceidwad i ddowcio’r afon a hela trychfilod yn y parc i weld y creaduriaid hyn yn eu holl gyfnodau.

  • Dydd Mercher 29 Mehefin
    Dyfroedd Alun – Her Gyflymder Bioamrywiaeth
    Cyfeiriannu gyda thro ecolegol. Rasio o gwmpas y parc mewn timau ac ateb cwestiynau bio-cwis. Gall ysgolion gyfuno her gorfforol cyfeiriannu gyda phrawf gwybodaeth ecolegol.

  • Dydd Iau 30 Mehefin
    Tŷ Mawr – Planhigion a Thyfu
    Ymunwch â’r ceidwad i archwilio’r cynefinoedd coetir a dôl a chofnodi’r planhigion ac anifeiliaid i ychwanegu at arolwg blynyddol y parc.

  • Dydd Gwener 1 Gorffennaf
    Parc y Ponciau – Cadwyni Bwyd Natur
    Archwilio Parc y Ponciau a darganfod byd diddorol ffatri fwyd natur.

  • Dydd Iau 30 Mehefin
    Dyfroedd Alun (ochr Llai) – Tro Tegeirian
    Cyfarfod y ceidwad i gael hyd i’r gwahanol rywogaethau o degeirian yn Nyfroedd Alun, gan gynnwys tegeirian hardd y wenynen.
    10.30am - 12.00 hanner dydd
    Pob oed gydag oedolyn

Gorffennaf

  • Dydd Sadwrn 2 Gorffennaf
    Y Parciau – Carnifal Offa
    Mynediad am ddim i Garnifal y Gymuned gydag amrywiaeth o atyniadau
    11.00am – 3.00pm

  • Dydd Mercher 6 - Dydd Sul 10 Gorffennaf
    Cae Tŷ Mawr – Syrcas Pinder
    Syrcas Pinder yn dychwelyd ar Gylchdaith 2011.
    (Dim anifeiliaid yn y sioe)
    I gael gwybodaeth am amseroedd y sioe ac archebion
    Ffôn: 07578 083755

  • Dydd Iau 7 Gorffennaf
    Dyfroedd Alun – Dileu Jac y Neidiwr
    Ymuno â’r ceidwaid sy’n ceisio cael gwared ar y chwynnyn ymosodol hwn o’r parc.
    1.30 - 3.30pm
    16+

  • Dydd Iau 7 Gorffennaf
    Hawliau Tramwy Cyhoeddus – O Lys Bedydd, gan gynnwys Camlas y Shropshire Union a Mawnog Fenn’s
    Cyfarfod y ceidwad yn Neuadd Gymunedol Llys Bedydd
    (Cyfeirnod Grid: 459356)
    Cychwyn am 9:00am. 9 milltir / 5 awr.
    Addas ar gyfer 16+   Gwisgwch esgidiau mawr / cryfion
    Dim cŵn. Cinio pecyn
    Gradd C+

  • Dydd Iau 14 Gorffennaf
    Parc Gwaunyterfyn – Glanhau Cymunedol
    Helpu tacluso’r parc erbyn yr haf.
    Cyfarfod yn y pafiliwn powliau.
    10.00am - 12.00 hanner dydd
    Pob oed gydag oedolyn

Gwyliau ysgol
20 Gorffennaf - 5 Medi

CAIFF ACHLYSURON CREFFTAU GWYLIAU’R HAF EU CYNNAL FEL GWEITHDAI 30 MUNUD PAN FO LLAWER O YMWELWYR.

  • Dydd Mercher 20 Gorffennaf
    Parc Gwaunyterfyn – Taith Gerdded drwy’r Coed
    Ymunwch â swyddog coed y Cyngor ar daith dywysedig o goed y parc.
    Cyfarfod ger y pafiliwn powliau.
    2.00 - 3.30pm

  • Dydd Mawrth 26 Gorffennaf
    Melin y Nant - Coronau Cennin-Pedr Cymru
    Creu coron o gennin-Pedr Cymru, llygaid y dydd a thrychfilod, i sirioli diwrnod o haf.
    1.30 – 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Tuesday 26 July
    Parc y Ponciau – Hyfforddi BMX
    Ymunwch â sesiwn hyfforddi BMX am ddim gyda hyfforddwr proffesiynol.
    Mae lleoedd yn brin.
    11.00am - 2.00pm
    Ffoniwch 01978 844028 i gadw lle

  • Dydd Mawrth 26 Gorffennaf
    Y Parciau – Chwaraeon a Gemau
    Ymunwch â ni yn y sesiwn hwyl hwn am ddim.
    Cyfarfod ger y buarthau chwarae
    1.00 – 3.00pm
    Rhai 8-14 oed gydag oedolyn

  • Dydd Mercher 27 Gorffennaf
    Dyfroedd Alun – Chwarae Clai
    Dyma’r diwrnod i chwarae efo clai.
    1.30 - 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Iau 28 Gorffennaf
    Tŷ Mawr – Diwrnod Hwyl Cymunedol
    Ymunwch â ni mewn llaweroedd o gweithgareddau ac adloniant i’r plant.
    Reidiau ar y tractor a lluniaeth drwy’r prynhawn.
    Dechrau am 1.30pm
    Pob oed gydag oedolyn

  • Dydd Gwener 29 Gorffennaf
    Parc y Ponciau – Y Ddraig Goch yn Dawnsio
    Gwneud pyped draig symudol, cyffrous.
    Galwch heibio i’r pafiliwn powliau
    1.30 - 3.30pm.
    8+ gydag oedolyn. £1.75

30 Gorffennaf - 6 Awst yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Wrecsam.

Awst

  • Dydd Mawrth 2, 9, 16, 23 a 30 Awst
    Parc y Ponciau – Hyfforddi BMX
    Ymunwch â sesiwn hyfforddi BMX am ddim gyda hyfforddwr proffesiynol.
    Mae lleoedd yn brin.
    Ffoniwch 01978 844028 i gadw lle
    11.00am - 2.00pm

  • Dydd Mawrth 2 Awst
    Melin y Nant – Masgiau Draig Goch
    Pwy sy’n gallu gwneud y masg Draig Goch gorau?
    1.30 – 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Mercher 3 Awst
    Dyfroedd Alun – Coronau Lliw Gludiog
    Gwneud coron liwgar addas ar gyfer tywysog Cymreig.
    1.30 – 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Iau 4 Awst
    Tŷ Mawr – Gwartheg Clai a Moch Crochenwaith
    Gwneud eich hoff anifail fferm o glai.
    1.30 – 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Iau 4 Awst
    Hawliau Tramwy Cyhoeddus – Castell y Waun ac Afon Ceiriog
    Cyfarfod y ceidwad yng ngorsaf drenau’r Waun oddi ar Ffordd yr Orsaf.
    (Cyfeirnod Grid: SJ 284378)
    Cychwyn am 10:30am. 6.5 milltir / 3½ awr.
    Addas ar gyfer 16+. Gwisgwch esgidiau mawr / cryfion
    Dim cŵn. Cinio pecyn
    Gradd C+

  • Dydd Gwener 5 Awst
    Parc y Ponciau – Hyfforddiant Pêl-fasged
    Hyfforddiant am ddim ar y cyrtiau pêl-fasged.
    10.30am - 12.30pm
    8+

  • Dydd Mawrth 9 Awst
    Melin y Nant – Hwyaid a Rafftiau a Hwyl ar yr Afon!
    Diwrnod hwyl efo Ras Hwyaid a Rafftiau gydag adloniant i’r plant.
    Dewch â’ch mini rafft, yn chwifio’r Ddraig Goch a chynnig yn y ras neu ddim ond llogi hwyaden, gallwch ennill £50!
    Lluniaeth gan Gyfeillion Melin y Nant.
    1.30pm ymlaen

  • Dydd Mercher 10 Awst
    Dyfroedd Alun – Poitsh Paent
    Paentio campwaith ar gyfer eich oergell!
    1.30-3.30pm.
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Mercher 10 Awst
    Y Parciau – Hyfforddiant Tennis
    Sesiwn hyfforddiant am ddim efo hyfforddwr cymwysedig.
    Cyfarfod yn y cyrtiau
    1.00 – 3.00pm
    Rhai 6-14 oed gydag oedolyn

  • Dydd Iau 11 Awst
    Tŷ Mawr – Cardiau Celtaidd Gludwaith
    Gwneud cerdyn gludwaith lliwgar efo thema Gymreig.
    1.30 – 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Gwener 12 Awst
    Parc y Ponciau – Hyfforddiant Pêl-fasged
    Hyfforddiant am ddim ar y cyrtiau pêl-fasged.
    10.30am - 12.30pm
    8+

  • Dydd Mawrth 16 Awst
    Melin y Nant – Dyn Gwyrdd y Coedydd
    Gwneud ‘Dyn Gwyrdd’ chwedlonol o glai a dail go iawn a gasglwyd o’r coedydd.
    1.30 - 3.30pm.
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Mawrth 16 Awst
    Y Parciau – Llwybr Coed Hwyl
    Ymunwch â Chyfeillion y Parciau ar y llwybr hwyl hwn o gwmpas y parc.
    Cyfarfod wrth y bandstand.
    1.00 – 3.00pm
    Pob oed gydag oedolyn. Croeso i chi gyfrannu

  • Dydd Mercher 17 Awst
    Dyfroedd Alun – Pypedau Dinosor
    Gwneud pypedau hwyl i ail-greu eich byd cyn hanes eich hun.
    1.30 - 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Iau 18 Awst
    Tŷ Mawr – Glöynnod Godidog
    Mae Cymru’n gartref i lawer o löynnod byw hardd.
    Gwneud eich enghraifft liwgar eich hun.
    1.30 - 3.30pm.
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Gwener 19 Awst
    Parc y Ponciau – Creadigaethau Celtaidd Lliwgar
    Gwneud addurn a ysbrydolwyd gan y Celtiaid i sirioli eich ffenestr.
    Galwch heibio’r pafiliwn powliau
    1.30 - 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Mawrth 23 Awst
    Melin y Nant – Cennin-Pedr Llygaid y Dydd
    Dylunio cennin-Pedr a llygaid y dydd papur i addurno’ch ystafell.
    1.30 – 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Mercher 24 Awst
    Dyfroedd Alun – Pobl Balŵns
    Dewch i wneud eich teulu o bobl balŵns eich hun.
    1.30 - 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Iau 25 Awst
    Y Parciau – Hyfforddiant Pêl-fasged
    Sesiwn hyfforddiant am ddim efo hyfforddwr cymwysedig.
    Cyfarfod yn y cwrt.
    1.00 – 3.00pm
    Rhai 8-16 oed

  • Dydd Iau 25 Awst
    Tŷ Mawr – Tŷ Crwn Celtaidd
    Gwneud tŷ crwn bychan a dysgu mwy am y Celtiaid.
    1.30 – 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Gwener 26 Awst
    Parc y Ponciau – Hyfforddiant Pêl-fasged
    Hyfforddiant am ddim ar y cyrtiau pêl-fasged.
    10.30am - 12.30pm
    8+

  • Dydd Mawrth 30 Awst
    Melin y Nant – Lafant, Rhosmari, Teim a Saets.
    Gwneud sachau o arogleuon rhyfeddol o’n gardd berlysiau a chael gwybod am feddyginiaethau llysieuol Celtaidd.
    1.30 – 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn, £1.75

  • Dydd Mercher 31 Awst
    Dyfroedd Alun – Cerrig Celtaidd
    Sirioli cerrig mân diflas trwy addurno efo cynlluniau Celtaidd.
    1.30 – 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

Medi

  • Dydd Iau 1 Medi
    Tŷ Mawr – Diwrnod Old Macdonald
    Dilyn llwybr anifeiliaid y fferm, gwneud bathodyn a mwynhau reid ar y tractor.
    1.30 – 3.30pm
    Tocynnau hollgynhwysol £2.50
    Pob oed gydag oedolyn

  • Dydd Iau 1 Medi
    Hawliau Tramwy Cyhoeddus – Mynydd y Berwyn
    Cyfarfod y ceidwad yn Neuadd Canmlwyddiant Ceiriog, Llanarmon Dyffryn Ceiriog
    (Cyfeirnod Grid: SJ 157328)
    Cychwyn am 10:30am. 8.5 milltir / 4 awr.
    Addas ar gyfer 16+. Gwisgwch esgidiau mawr / cryfion
    Dim cŵn. Cinio pecyn
    Gradd C+

  • Dydd Sadwrn 3 Medi
    Dyfroedd Alun (ochr Llai) – Gŵyl Llai
    Ymunwch yn y diwrnod hwyl cymunedol hwn gyda gweithgareddau i’r teulu i gyd.
    11.00am - 4.00pm
    Ffoniwch Ganolfan Adnoddau Llai ar 01978859021 i gael manylion

  • Dydd Sadwrn 10 Medi
    Parc y Ponciau – Diwrnod Hwyl Cymunedol
    Ymunwch yn y diwrnod difyr hwn i’r teulu gyda chefnogaeth Cyfeillion Parc y Ponciau.
    1.00 - 5.00pm
    Pob oed gydag oedolyn

  • Dydd Iau 15 Medi
    Parc Gwaunyterfyn – Glanhau Cymunedol
    Helpu tacluso’r parc yn barod erbyn y gwanwyn
    Cyfarfod yn y pafiliwn powliau.
    10.00am – 12.00 hanner dydd
    Pob oed gydag oedolyn

  • Dydd Iau 15 Medi
    Dyfroedd Alun – Taith Gerdded Ystlumod
    Ymunwch â swyddog bioamrywiaeth Wrecsam am daith gerdded liw nos i wylio a gwrando am ystlumod. Cofiwch ddod â thortsh.
    Cychwyn am 7.30pm yn brydlon
    Rhaid cadw lle
    Pob oed gydag oedolyn

Hydref
22 Hydref – 1 Tachwedd Hanner Tymor

  • Dydd Mawrth 25 Hydref
    Y Parciau – Casglu Hadau
    Casglu hadau o gwmpas y parc a’u plannu i’w cymryd adref.
    Cyfarfod yn y pafiliwn powliau
    1.00pm – 3.00pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Mawrth 25 Hydref
    Melin y Nant – Cyrch Ffyngaidd
    Ymuno â swyddog bioamrywiaeth Wrecsam i chwilio am ffyngau gwych yn y coedydd.
    Cyfarfod am 1.30pm yn brydlon
    Pob oed gydag oedolyn
    Croeso i chi gyfrannu.

  • Dydd Mercher 26 Hydref
    Dyfroedd Alun – Balwnau Hurt
    Gwneud, addurno a hedfan eich balŵn awyr boeth gyda thema ‘hurt’.
    1.30 - 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Iau 27 Hydref
    Tŷ Mawr – Digwyddiadau Nos Galan Gaeaf
    Gwisgoedd ffansi, hwyl a gemau. Gyda chefnogaeth Cyfeillion Tŷ Mawr.
    1.30 - 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Gwener 28 Hydref
    Parc y Ponciau – Hwyl Nos Galan Gaeaf
    Ymuno â hwyl Nos Galan Gaeaf a gwneud masg tylluan.
    Galwch heibio pafiliwn powliau’r Rhos.
    1.30 - 3.30pm
    8+. £1.75

Tachwedd

  • Dydd Iau 10 Tachwedd
    Parc Gwaunyterfyn – Glanhau Cymunedol
    Helpu tacluso’r parc cyn y gaeaf.
    Cyfarfod yn y pafiliwn powliau.
    10.00am – 12.00 hanner dydd
    Pob oed gydag oedolyn

  • Dydd Sul 27 Tachwedd
    Tŷ Mawr - Rwy’n Breuddwydio am Nadolig Gwyrdd
    Gwneud cerdyn ac addurniadau o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, ailddefnyddio a naturiol
    1.30 - 3.30pm
    Pob oed gydag oedolyn. £1.75

  • Dydd Mawrth 15 Tachwedd
    Y Parciau – Tacluso’r Hydref
    Helpu’r garddwyr symud y dail o’r parc
    Cyfarfod yn swyddfa’r parc
    10.00am – 12.00 hanner dydd
    Oedolion yn unig. Am ddim

Rhagfyr

  • Dydd Iau 15 Rhagfyr
    Y Parciau – Carolau Llawen o’r Bandstand
    Ymunwch â ni am garolau llawen a Llawenydd y Nadolig!
    Pob oed gydag oedolyn
    5.00 - 6.30pm

  • Dydd Iau 15 Rhagfyr
    Dyfroedd Alun – Teisen, Coffi a Llawenydd y Nadolig
    Ymunwch â Chyfeillion Dyfroedd Alun am Hwyl yr Ŵyl.
    10.00am - 12.00 hanner dydd
    Pob oed gydag oedolyn


Rhifau ffôn defnyddiol

Parc Gwledig Dyfroedd Alun: 01978 763140

Y Parciau: 01978 264150

Parc Gwledig Melin y Nant: 01978 752772

Parc Gwledig Tŷ Mawr: 01978 822780

Ymgyrch Wrecsam yn ei Blodau

yn ôl i'r brig