Ymgyrch Wrecsam yn ei Blodau 2011

Canlyniadau 2011

Cafodd Wrecsam Wobr Arian yn seremoni Prydain yn ei Blodau y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) ar gyfer y categori dinas. Mae hwn yn gyflawniad gwych i Wrecsam ac mae’n deillio o’r gefnogaeth a’r cyfranogiad cryf gan gymunedau yn yr ardal eleni.

Eleni yw’r flwyddyn gyntaf i Wrecsam gael ei gwahodd i gystadlu a chynrychioli Cymru yn rownd derfynol Prydain yn ei Blodau ac mae ennill Gwobr Arian yn gyflawniad gwych. Mae’n golygu bod yr hyn a gyflwynwyd o safon uchel iawn sy’n bodloni bron y cyfan o’r meini prawf beirniadu ac yn cynnwys rhannau o safon rhagorol. Ymunodd Wrecsam â Richmond on Thames, Caerefrog a Bury i dderbyn y wobr hon.

Rydyn ni wedi derbyn llawer o adborth cadarnhaol gan y cyhoedd eleni am y blodau yng nghanol y dref a’r gwelliannau a gwblhawyd. Gwnaed y gwaith yn bosibl gan grant Trefi Taclus oddi wrth Lywodraeth Cymru a nawdd gan gwmnïau.

Mae ein Gwobrau Cymuned Amgylcheddol a’r Gwobrau Pentref/Cymuned Taclusaf wedi annog cymunedau eraill i ymdrechu i wella eu hardal leol. Enillodd y Waun wobr y Pentref Taclusaf. Grŵp RECAP Rossett enillodd y Wobr Cymuned Amgylcheddol Gorau ac enillwyr y gystadleuaeth Gardd Orau oedd Grŵp Amgylcheddol Parc Caia.

Cafodd y Waun Wobr Arian yng ngwobrau Prydain yn ei Blodau ar gyfer y Gymuned Drefol. Mae hyn yn glod mawr i’r Waun. Mae’r wobr yn golygu bod eu cais o safon uchel iawn a oedd yn bodloni bron y cyfan o’r meini prawf beirniadu gyda rhai rhannau o safon rhagorol. Daeth y Waun yn ail i Uddington (Glasgow) a gafodd Wobr Arian a’i enwi’n enillydd y categori. Roedd y Waun yn cystadlu yn erbyn Woodlesford (Leeds), Walthamstow Village (Llundain), Moor (Huntingdon), Moseley (Birmingham) a Didsbury (Manceinion).

Daeth y Waun yn gyntaf yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau, yn y categori tref wledig fechan, gan guro Tenby i’r ail safle. Mae cyflawniadau’r Waun yn rhagorol gan iddynt ennill Gwobr Cymuned Prydain yn ei Blodau hefyd, a noddwyd gan Anglian Home Improvements.


Am y pedair blynedd diwethaf mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymgeisio yng nghystadleuaeth y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol ‘Cymru yn ei Blodau’. Yn 2007 dyfarnwyd gwobr Arian Teilyngdod inni ac yn 2008, 2009 a 2010 cawsom wobr Golch Arian.

Eleni mae Wrecsam wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Prydain yn ei Blodau yn ogystal â Chymru yn ei Blodau.

Mae ymgyrch Prydain yn ei Blodau a Chymru yn ei Blodau yn cynnwys:

  • Gwneud cymunedau yn wyrddach drwy arddangosfeydd blodau, gwaith tirweddu parhaol ac ardaloedd cadwraeth natur.
  • Gwella glendid drwy glirio sbwriel a graffiti, glanhau fandaliaeth ac annog pawb i ailgylchu.
  • Annog siopau a busnesau i wella’u heiddo neu i ddangos eu cefnogaeth drwy nawdd.
  • Cynnwys trigolion a’u cael i gymryd rhan drwy wella eu gerddi.

Mae angen inni wella ar y canlyniad a gawsom yn 2010 ac er mwyn gwneud hynny mae angen eich cefnogaeth chi arnom.

Bydd y llwybr yn mynd drwy Rosnesni, Borras, Acton, Rhos-ddu, Offa a hefyd drwy Ganol y Dref.

Bydd ardaloedd eraill o’r Fwrdeistref nad ydynt ar y llwybr hefyd yn elwa o’n hymdrechion. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio’n agos gyda Chynghorau Cymuned, busnesau lleol a grwpiau gwirfoddol, ynghyd â’r prosiect Trefi Taclus sy’n cael ei noddi gan y Cynulliad Cenedlaethol, i ymgymryd â nifer o welliannau amgylcheddol eleni.

Pwrpas y gystadleuaeth yw dod â phob carfan o’r gymuned ynghyd i greu Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n lanach a gwyrddach, a hynny drwy wneud gwelliannau parhaol i’r amgylchedd.

Yn y gorffennol mae pobl wedi helpu drwy blannu a gofalu am lestri blodau, rhoi o’u hamser i fynd ar helfeydd sbwriel ac ymgyrchoedd glanhau yn y gymuned, prosiectau ailgylchu a chynorthwyo gyda phrosiectau bywyd gwyllt a phlannu coed.

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych amser i’w sbario – gallwch wastad arddangos eich sgiliau garddio drwy blannu eich gardd ffrynt. Os nad oes gennych ardd gallech blannu basged grog – byddai hynny’n cynyddu ein gobeithio o ennill aur a rhoi Wrecsam ar y map.


yn ôl i'r brig

Oriel

Chliciwch ar y lun er mwyn gweld fersiwn mwy. Pan fyddwch yn agor y llun cyntaf, defnyddiwch yr eiconau llywio a fydd yn ymddangos, neu y chwith a bysellau saeth Hawl ar eich bysellfwrdd, i weld lluniau eraill.

Cysylltiadau perthnasol

Mae ymgyrch Wrecsam yn ei Blodau yn annog pawb i wneud newidiadau cadarnhaol a pharhaol i’w hamgylchedd. Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ganfod mwy...

Rhandiroedd yn Wrecsam

Am fwy o wybodaeth am safleoedd rhandiroedd a gynhelir gan Adran Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

www.walesinbloom.org.uk

Darganfyddwch fwy am yr ymgyrch Cymru yn ei Blodau a gallwch weld enillwyr o’r gorffennol.

www.rhs.org.uk

Gallwch gael awgrymiadau arbenigol ar gyfer garddio, dod o hyd i leoedd i ymweld â nhw a chanfod mwy am waith y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol.

www.bbc.co.uk/gardening

Defnyddiwch y cyfleuster ar-lein i ddod o hyd i blanhigion addas ar gyfer eich gardd, dysgwch o’r adran ‘Sut’ a dewch o hyd i ddigwyddiadau ‘gwyrdd’

www.bbc.co.uk/breathingplaces

Syniadau ac awgrymiadau ar gyfer dulliau garddio sy’n ffafriol i fywyd gwyllt a chreu cynefinoedd.

www.bbc.co.uk/earth/nature/uk/natureofbritain/

Darganfyddwch fwy am dirweddau, cynefinoedd a bywyd gwyllt Prydain.

www2.btcv.org.uk

www.groundwork.org.uk

Cyfleoedd gwirfoddol mewn cadwraeth a gwelliant amgylcheddol ledled y DU.

yn ôl i'r brig

Manylion gyswllt

Am ragor o fanylion am ymgyrch Wrecsam yn ei Blodau:

Rhifau ffôn defnyddiol erail

Parc Gwledig Dyfroedd Alun: 01978 763140

Y Parciau: 01978 264150

Parc Gwledig Melin y Nant: 01978 752772

Parc Gwledig Tŷ Mawr: 01978 822780

Parc y Ponciau: 01978 844028

yn ôl i'r brig