Os ydych yn rheoli eiddo annomestig mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn hysbysu’r awdurdod lleol os oes tŵr oeri neu gyddwysydd anweddol (dyfeisiadau y dylid hysbysu yn eu cylch) o fewn yr eiddo.
Rhaid cyflwyno’r wybodaeth yn ysgrifenedig (gan gynnwys dulliau electronig) ar ffurflen a gymeradwyir gan yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch.
Rhaid i chwi hysbysu’r awdurdod lleol neu gyngor yr ynys neu’r ardal os bydd unrhyw newid yn y wybodaeth a gyflwynir, a hynny yn ysgrifenedig o fewn un mis o’r newid.
Os bydd y ddyfais yn peidio â bod yn ddyfais hysbysadwy, rhaid i chwi roi gwybod yn ysgrifenedig i’r awdurdod lleol neu i gyngor yr ynys neu’r ardal cyn gynted ag y bo modd.
| Meini prawf cymhwyster |
Dim darpariaeth mewn deddfwriaeth |
|---|---|
| Gair am y Rheoleiddio | |
| Y broses o werthuso ceisiadau |
Dim darpariaeth mewn deddfwriaeth |
| A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol? |
Bydd - golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn hyd yn oed os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau. |
| Cyfnod Cyrraedd y Targed | 25 diwrnod calendr. |
| Ffioedd Trwyddedu | |
| Gwneud cais ar-lein |
Hysbyswch ni am unrhyw dyrrau oeri neu evaporative condensers ar eich tir Gadewch i ni wybod am newid i'r tyrrau oeri cyfredol neu evaporative condensers ar eich tir |
| Manylion cyswllt | Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd, Isadran Diogelu’r Amgylchedd, Trwyddedu, Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7HU Ffôn: 01978 292049 |
| Gweithredu pan fydd cais yn methu |
Cysylltwch â Cyngor Wrecsam yn gyntaf. |
| Camau gan ddeiliad trwydded |
Cysylltwch â Cyngor Wrecsam yn gyntaf. |
| Cwynion gan ddefnyddwyr |
Pe byddai defnyddiwr yn gwneud cwyn, ein cyngor fyddai i chwi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Consumer Direct roi cyngor i chwi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU sef yr UK European Consumer Centre. |
| Cymdeithasau masnach |
Dim |