Er mwyn gallu storio, paratoi, dosbarthu neu werthu bwyd mewn unrhyw adeilad mae’n ofynnol i chwi gofrestru gyda’r awdurdod lleol.
Mae’r adeiladau hyn yn cynnwys bwytai, caffis, gwestai, siopau, cantinau, stondinau mewn marchnadoedd, faniau arlwyo symudol a faniau dosbarthu bwyd.
Bydd yn ofynnol i rai busnesau sydd yn ymdrin â chynnyrch anifeiliaid gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol neu’r Gwasanaeth Hylendid Bwyd, yn hytrach na chael eu trwyddedu. Os nad ydych yn sicr a ddylech ofyn am gymeradwyaeth ynte cofrestr ar gyfer eich busnes, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.
Cymeradwyo Eiddo ac Adeiladau Bwyd
Cofrestru Eiddo ac Adeiladau Bwyd
| Meini prawf cymhwyster |
Dim darpariaeth mewn deddfwriaeth |
|---|---|
| Gair am y Rheoleiddio | |
|
Crynodeb o'r rheoliadau sy'n ymwneud â'r drwydded hon (on the hygiene of foodstuffs) |
|
| Y broses o werthuso ceisiadau |
Dim darpariaeth mewn deddfwriaeth |
| A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol? |
Bydd - golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn hyd yn oed os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau. |
| Cyfnod Cyrraedd y Targed | 30 diwrnod calendr. |
| Ffioedd Trwyddedu | |
| Gwneud cais ar-lein | |
| Gweithredu pan fydd cais yn methu |
Cysylltwch â Cyngor Wrecsam yn gyntaf. |
| Camau gan ddeiliad trwydded |
Cysylltwch â Cyngor Wrecsam yn gyntaf. |
| Cwynion gan ddefnyddwyr |
Pe byddai defnyddiwr yn gwneud cwyn, ein cyngor fyddai i chwi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Consumer Direct roi cyngor i chwi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU sef yr UK European Consumer Centre. |
| Cymdeithasau masnach | |