Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn arwain y ffordd tuag at foderneiddio deddf trwyddedu bresennol Cymru a Lloegr.
Mae’r Ddeddf yn darparu cynllun integredig sengl ar gyfer trwyddedu safleoedd sy’n gwerthu alcohol, yn darparu adloniant i’r cyhoedd neu’n darparu lluniaeth yn hwyr gyda’r nos.
Bydd y drefn drwyddedu newydd dan reolaeth Awdurdodau Lleol sy’n gweithredu fel “Awdurdodau Trwyddedu Lleol”.
Mae’n rhaid i bob awdurdod baratoi Datganiad Polisi ar Drwyddedu yn dilyn ymgynghoriad ag ystod o fudd-ddeiliaid.
Polisi Trwyddedu
Mae'r polisi ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Polisi Trwyddedu - Fersiwn Word 277kb ![]()
Polisi Trwyddedu - Fersiwn PDF 391kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.