Yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig 2005, symudodd Is-Adran Coed Adran yr Amgylchedd Cyngor Wrecsam 10 o goed hanesyddol, Ginkgo biloba, o Ddôl Eryrod i Barc Acton.
Nid yw Ginkgos yn arbennig o gyffredin yn y DU a byddech yn eu gweld mewn gerddi ffurfiol neu arboreta fel arfer. Maent yn frodorol i Tseina a chredwn eu bod wedi bod o gwmpas ers rhyw 200 miliwn o flynyddoedd sy’n eu gwneud yn rhai o’r mathau hynaf o goed yn y byd.
Llun 1Fel rhan o ailddatblygiad hen safle Asda, codwyd y coed Ginkgo o’r cylchoedd concrid lle plannwyd nhw yn (llun 1) yn ystod y 1990au cynnar |
![]() Llun 1 |
Llun 2Mae gwreiddiau’r coed yn cael eu tocio er mwyn cael gwared ar unrhyw wreiddiau sydd wedi torri neu wedi eu difrodi a chânt eu lapio mewn hesian a basged (llun 2) i’w cadw’n gynnes a’u hatal rhag sychu allan. |
![]() Llun 2 |
Llun 3 a 3bCludir y coed mewn trelar i Barc Acton a chânt eu tynnu gan gerbyd arbenigol i leihau unrhyw ddifrod a chywasgiad i’r man glaswelltog ger y llyn lle caiff y coed eu plannu (llun 3 a 3b). |
![]() Llun 3 |
![]() Llun 3b |
|
Llun 4, 5, 6 a 7Mae tyllau’r coed yn cael eu palu â chymorth peiriant palu â thraciau er mwyn lleihau’r pridd sy’n crynhoi o gwmpas y tyllau (llun 4). Caiff y coed eu codi a’u gosod yn y tyllau gan sling ar y peiriang palu sydd ynghlwm wrth yr offer codi coed (llun 5). Unwaith yn y twll (llun 6), mae’r goeden yn cael ei hangori gan system angor danddaear a gynlluniwyd i’r pwrpas sy’n cael ei gyrru i mewn i’r ddaear (llun 7). |
![]() Llun 4 |
![]() Llun 5 |
|
![]() Llun 6 |
|
![]() Llun 7 |
|
Llun 8 a 9Mae pethau’n dechrau siapio wedyn .... (llun 8) ac yna’r diweddglo .... (llun 9). |
![]() Llun 8 |
![]() Llun 9 |
|