Cymeradwyo Eiddo ac Adeiladau Bwyd

Os yw busnes yn gwneud, paratoi neu drin bwyd sy’n dod o anifeiliaid i’w gyflenwi i fusnesau eraill yna, dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, rhaid i Dîm Diogelwch Bwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gymeradwyo’r busnes bwyd a’i weithgareddau.

Mae bwyd sy’n dod o anifeiliaid yn cynnwys:

  • Cig a dofednod – boed hynny’n ffres, wedi’i rewi neu wedi’i goginio
  • Cynhyrchion cig fel pasteiod, rholiau selsig, ffagots, pwdin gwaed a chig moch
  • Briwgig neu baratoadau cig amrwd neu wedi’u coginio’n rhannol fel selsig, eidionod, cig amrwd wedi’i farinadu a chig cebab
  • Pysgod a chynhyrchion pysgod fel sglodion pysgod, corgimychiaid, cimychiaid, crancod a chimychiaid coch – boed yn farw neu’n fyw
  • Meddalogion dwygragennog byw
  • Prydau parod yn cynnwys pysgod neu gig
  • Llaeth a chynhyrchion llaeth fel menyn, hufen, caws, iogwrt, hufen iâ, ac ati
  • Coesau llyffantod a malwod
  • Brasterau anifeiliaid wedi toddi a sgil-gynhyrchion eraill anifeiliaid fel gelatin, colagen, stumogau, pledrenni a pherfeddion
  • Mêl a gwaed

Rhaid i fusnesau bwyd beidio â dechrau unrhyw weithgaredd busnes sydd angen cymeradwyaeth, oni bai eu bod wedi derbyn cymeradwyaeth amodol neu lawn Tîm Diogelwch Bwyd Cyngor Wrecsam ar gyfer y gweithgaredd arfaethedig. Mae’n drosedd dechrau busnes heb gymeradwyaeth ac mae’r busnes yn debygol o gael ei erlyn am hynny.

I gael cymeradwyaeth bydd angen i chi gyrraedd safonau hylendid penodol, yn ôl:

Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 Rheolau Hylendid ar gyfer Bwyd sy’n Dod o Anifeiliaid a Rheoliad (CE) Rhif 852/2004 Hylendid Bwydydd

Ni fydd cymeradwyaeth yn cael ei rhoi oni bai fod y busnes bwyd yn cyrraedd y safonau gofynnol. I wneud cais am gymeradwyaeth dylech gysylltu â Thîm Diogelwch Bwyd Cyngor Wrecsam a llenwi ffurflen Cais am Gymeradwyaeth.

Os nad yw’r busnes yn gorfod cael cymeradwyaeth, yna bydd angen ei gofrestru gyda Thîm Diogelwch Bwyd Cyngor Wrecsam. Mae angen i weithredwr y busnes bwyd lenwi a dychwelyd Ffurflen Gofrestru Busnes Bwyd.

Eithriadau

Mae rhai eithriadau o’r gofyniad i gael cymeradwyaeth. Os yw’r busnes bwyd yn cyflenwi bwyd sy’n dod o anifeiliaid i’r defnyddiwr olaf, h.y. pwy bynnag sy’n bwyta’r cynnyrch bwyd, nid yw’n gorfod cael cymeradwyaeth.

Yn ogystal, fe all fod eithriad ar sail faint o fwyd sy’n dod o anifeiliaid y mae’r busnes yn dymuno’i gyflenwi i fusnesau eraill.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd
Tai a Diogelu'r Cyhoedd
Ffordd Rhuthun
Wrecsam
LL13 7TU

Ffôn: 01978 298989

Ebost: public_protection_service@wrexham.gov.uk neu Ffurflen ymholiadau cyffredinol ar lein

yn ôl i'r brig