Gwobrau Hylendid Bwyd

Yn 2002 lansiodd Cyngor Wrecsam Gynllun Hylendid Bwyd Cymru.

Bwriad Cynllun Gwobr Hylendid Bwyd Cymru yw rhoi cydnabyddiaeth i eiddo ac adeiladau bwyd sydd wedi cyrraedd a chynnal safonau glanweithdra ac arferion hylendid bwyd uchel.

Sut mae'r cynllun yn gweithio?

Mae tair gradd o wobr y gall busnesau bwyd eu cyrraedd, sef Aur, Arian ac Efydd.

Gall busnes bwyd ddod yn gymwys i gael gwobr pan fydd un o swyddogion awdurdodedig y tîm diogelwch bwyd yn cael archwiliad hylendid bwyd dirybudd.

Yn dilyn yr archwiliad, bydd y swyddog yn gwneud asesiad o'r safonau a welwyd ar adeg yr ymweliad. Bydd hefyd yn ystyried hanes a chydymffurfio blaenorol yr eiddo ac adeiladau fel rhan o'r asesiad hwn.

Mae'r asesiad yn arwain at roi sgôr cyflawn i'r eiddo ac adeiladau sy'n cael ei ddefnyddio i benderfynu pa mor aml fydd yr eiddo ac adeiladau'n cael eu harchwilio yn y dyfodol. Caiff y sgôr hwn ei ddefnyddio i benderfynu pa radd o wobr hylendid bwyd fyddai'n addas i'r eiddo ac adeiladau.

Ar adeg yr archwiliad bydd gweithredwr y busnes bwyd yn cael gwybod beth yw statws y wobr. Bydd swyddogion hefyd yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth am sut i gyrraedd gwobr uwch.

Yn Wrecsam cysylltwyd Cynllun Gwobr Hylendid Bwyd Cymru gyda'r Cynllun Marciau Sêr Hylendid Bwyd a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2006.

Gweld eiddo ac adeiladau sydd wedi cael gwobr hylendid bwyd.

yn ôl i'r brig