Yr adran diogelwch bwyd sy'n gyfrifol am gynnal archwiliadau hylendid bwyd rheolaidd o holl eiddo ac adeiladau bwyd yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae dros 1250 o fusnesau bwyd yn y cylch.
Diben yr archwiliadau hyn yw sicrhau bod eiddo ac adeiladau bwyd yn cydymffurfio â gofynion cyfredol glanweithdra bwyd.
Swyddog Iechyd Amgylcheddol neu Swyddogion Diogelwch Bwyd sydd gan y cymwysterau a'r awdurdod i gynnal archwiliadau sy'n eu gwneud.
Mae'r archwiliad yn golygu asesu cydymffurfio yn y meysydd canlynol :
Pa mor lân y caiff bwyd ei drin a'i baratoi a hyfforddiant hylendid bwyd
Cyflwr yr adeiledd, atgyweirio, goleuo, awyru, cadw rhag plâu, glanweithdra
Tystiolaeth o gyfundrefnau rheoli diogelwch bwyd, hanes o gydymffurfio, agwedd gyffredinol y rheolwyr.
Pan fydd y swyddog yn nodi rheoliadau'n cael eu torri bydd yn gweithredu yn unol â pholisi gorfodi'r awdurdod lleol.