Mae Cyngor Wrecsam wedi ymuno â'r Cynllun Graddio Hylendid Bwyd Cenedlaethol sy'n dweud wrth ddefnyddwyr am safonau hylendid safleoedd sy'n trin bwyd er mwyn iddynt allu dewis ble i fwyta neu i siopa.
Fe'i datblygwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol.
Mae safleoedd bwyd, megis bwytai, tafarndai a chaffis, yn cael eu harchwilio gan ein Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd i sicrhau bod eu safonau hylendid yn bodloni gofynion cyfreithiol.
Rhoddir sgôr i'r safonau a ganfyddir yn ystod yr archwiliadau hyn ar raddfa o 0 (angen gwella ar frys) i 5 (da iawn). Cynhelir yr archwiliadau hylendid bwyd hyn heb roi gwybod i'r perchennog ymlaen llaw.
Gallwch weld sgoriau safleoedd bwyd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn www.food.gov.uk/ratings. Cyhoeddwyd y sgoriau ar 1 Hydref 2010.
Anogir pob busnes bwyd i arddangos tystysgrif a sticer ffenestr - er mwyn ei gwneud yn haws i'r cyhoedd weld sut mae pob busnes bwyd yn cydymffurfio â'r gyfraith.
Gwybodaeth i Fusnesau Bwyd
Yn ystod archwiliadau, bydd y swyddog yn gwirio pa mor dda y mae'r busnes yn gweithredu'n unol â'r gyfraith drwy edrych ar:
- lefelau hylendid wrth drin bwyd - sut caiff ei baratoi, ei goginio, ei ail-boethi, ei oeri a'i storio,
- cyflwr yr adeiladau - glendid, cynllun, goleuo, awyru a chyfleusterau eraill,
- sut mae'r busnes yn rheoli ac yn cofnodi'r hyn y mae'n ei wneud i sicrhau bod bwyd yn ddiogel, a
- hyfforddiant ym maes diogelwch bwyd.
Bydd y swyddog yn esbonio i'r person sy'n berchen ar, neu'n rheoli'r, busnes pa welliannau sydd eu hangen a sut y gallant gyflawni'r sgôr uchaf, sef 5. Dylai unrhyw fusnes allu cael y sgôr uchaf hwn.
Beth mae'r sgôr yn ei olygu
0 - Angen gwelliant ar frys
1 - Angen gwelliant mawr
2 - Angen gwelliant
3 - Boddhaol ar y cyfan
4 - Da
5 - Da iawn
Caiff pob sgôr ei roi i'r gweithredwr busnes bwyd o fewn 14 diwrnod i'r archwiliad.
Apelio
Gellir apelio i Arweinydd y Grŵp Diogelwch Bwyd o fewn 14 diwrnod i dderbyn y sgôr (mae hyn yn cynnwys gwyliau banc a phenwythnosau).
Mae'r rhaid cyflwyno apêl ar y Ffurflen gais Apeliadau sydd ar gael o www.food.gov.uk/ratings ac ni fydd y sgôr yn ymddangos ar y wefan genedlaethol tan fod yr apêl wedi'i benderfynu.
Penderfynir ar apeliadau o fewn 7 diwrnod ar ôl gofyn am apêl ac yna caiff y sgôr ei roi ar y wefan genedlaethol.
Newid y Sgôr
Os caiff yr holl waith yr oedd y swyddog archwilio yn ei wneud yn ofynnol ei gwblhau ar ôl yr archwiliadhylendid bwyd cyntaf, mae hawl gofyn am ymweliad i roi sgôr newydd i'r busnes.
Dim ond unwaith y gellir gofyn am sgôr newydd unrhyw adeg ar ôl yr archwiliad cyntaf yn ôl y drefn.
Rhaid nodi'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud ar y ffurflen gais sydd ar gael yn www.food.gov.uk/ratings gan gynnwys tystiolaeth gefnogol e.e. ffotograffau.
Ni chaiff dim byd ei wneud am dri mis ar ôl yr archwiliad cyntaf ac mae gan y swyddog dri mis arall ar ôl y cyfnod hwn i ailymweld â safle. Cynhelir yr ymweliad hwn, hefyd, heb roi gwybod i'r perchennog ymlaen llaw. Gellid rhoi sgôr newydd yn dibynnu ar lefel y gydymffurfiaeth a ddarganfyddir yn ystod yr ail ymweliad. Gallai'r sgôr fynd i fyny neu fynd i lawr neu aros yr un peth.
Hawl Ymateb
Gall gweithredwr y busnes bwyd wneud sylwadau ar y sgôr a roddir; gellid rhoi'r sylwadau hyn ar y wefan gan nodi'r rhesymau dros y sgôr.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd
Tai a Diogelu'r Cyhoedd
Ffordd Rhuthun
Wrecsam
LL13 7TU
Ffôn: 01978 298989
Ebost: public_protection_service@wrexham.gov.uk neu Ffurflen ymholiadau cyffredinol ar lein
Ewch i www.food.gov.uk/ratings







