A5.3.2: Rhan 2: Lefel Cydymffurfiad (Presennol)
Dylid asesu gweithdrefnau glanweithdra a diogelwch bwyd (gan gynnwys arferion a gweithdrefnau trin bwyd a rheoli tymheredd) a strwythur yr eiddo (gan gynnwys glendid, cynllun, cyflwr yr adeilad, goleuadau, awyru, cyfleusterau, ayb) ar wahân trwy ddefnyddio’r system sgorio isod.
Dylai’r sgôr adlewyrchu cydymffurfiad yn ystod yr arolygiad yn unol â’r cyfarwyddyd a osodwyd allan isod. Dylid ystyried cydymffurfiad ag unrhyw arfer glanweithdra da perthnasol y DU neu’r UE.
Bydd angen cydymffurfio â’r canllawiau cenedlaethol neu godau ymarfer perthnasol y diwydiant hefyd er mwyn sgorio 0 i 5.
Cyfarwyddyd am y System Sgorio
25
Bron â bod dim cydymffurfiad â rhwymedigaethau statudol.
20
Methiant cyffredinol i fodloni rhwymedigaethau statudol – safonau’n gyffredinol isel.
15
Ychydig o ddiffygion mawr mewn cydymffurfio – angen mwy o ymdrech er mwyn atal safonau is.
10
Ychydig o ddiffygion o ran cydymffurfio â rhwymedigaethau statudol a chodau’r diwydiant. Safonau’n cael eu cynnal neu eu gwella.
5
Safon uchel o gydymffurfiad â rhwymedigaethau statudol a chodau ymarfer y diwydiant, rhai mân-doriadau o’r rheoliadau glanweithdra bwyd. Rhai mân-fethiannau i beidio â chydymffurfio â rhwymedigaethau statudol a chodau ymarfer y diwydiant.
0
Safon uchel o gydymffurfiad â rhwymedigaethau statudol a chodau ymarfer y diwydiant; cydymffurfio â chodau arfer da’r fasnach.







