A5.3.3: Rhan 3: Hyder yn y Rheolwyr/Systemau Rheoli
Caiff perfformiad y rheolwyr ei sgorio yn Rhan 2 ar sail y canlyniadau a geir ac y cedwir atynt. Dylai rheolwyr sy’n perfformio’n dda o ran glanweithdra bwyd, y mae’r gweithlu’n ei ddeall yn dda, gyrraedd safon dda yn Rhan 2 ac felly sgôr isel am y ffactor hwnnw.
Nid bwriad Hyder yn y Rheolwyr yw ailystyried yr agwedd honno. Ei fwriad yw cael barn am y tebygrwydd o gydymffurfiad boddhaol yn cael ei gynnal yn y dyfodol.
Mae’r ffactorau a fydd yn dylanwadu ar farn arolygydd yn cynnwys:
- "cefndir" y cwmni, ei barodrwydd i weithredu ar gyngor a gorfodaeth blaenorol a hanes unrhyw gwynion;
- agwedd y rheolwyr presennol tuag at lanweithdra a diogelwch bwyd;
- y wybodaeth am lanweithdra a diogelwch bwyd sydd ar gael i’r cwmni
(yn fewnol neu’n allanol) gan gynnwys dadansoddiad peryglon/HACCP a rheoli mannau pwysig; - gweithdrefnau ysgrifenedig a systemau rheoli diogelwch bwyd HACCP.
Cyfarwyddyd am y System Sgorio
30
Record gwael o gydymffurfiad. Ychydig iawn neu ddim gwybodaeth dechnegol. Gwerthfawrogiad prin iawn o beryglon a rheoli ansawdd. Dim system rheoli diogelwch bwyd.
20
Record amrywiol o gydymffurfiad. Gwerthfawrogiad drwg o beryglon a mesurau rheoli. Dim system rheoli diogelwch bwyd.
10
Record boddhaol o gydymffurfiad. Mynediad at gyngor technegol yn fewnol neu gan gymdeithasau masnach a thystiolaeth o’i ddefnydd. System rheoli diogelwch bwyd ysgrifenedig foddhaol.
5
Record rhesymol o gydymffurfiad. Cyngor technegol ar gael yn fewnol neu fynediad at gyngor technegol gan gymdeithasau masnach. Gweithdrefnau a systemau ysgrifenedig boddhaol. Yn gallu dangos rheolaeth effeithiol o beryglon. System rheoli diogelwch bwyd ysgrifenedig foddhaol. Archwiliad gan yr Awdurdod Bwyd yn cadarnhau cydymffurfiad cyffredinol â’r system a ddogfennir.
0
Record da o gydymffurfiad. Mynediad i gyngor technegol o fewn y mudiad. System rheoli diogelwch bwyd ysgrifenedig sy’n seiliedig ar HACCP a allai fod yn destun proses archwilio allanol. Archwiliad gan yr Awdurdod Bwyd yn cadarnhau cydymffurfiad â’r system reoli a ddogfennir, methiannau prin i beidio â chydymffurfio/mân-fethiannau.







