|
Cynhaliwyd 14eg Wythnos Genedlaethol Diogelwch Bwyd Foodlink ar 12-18 Mehefin 2006. Mae’r Wythnos Genedlaethol Diogelwch Bwyd yn ddigwyddiad ar y calendar sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd diogelwch bwyd ac egwyddorion sylfaenol hylendid bwyd.
Eleni, rhoddodd Debbie Rogers, Swyddog Diogelwch Bwyd, sgyrsiau addysgol am ddiogelwch bwyd i ddisgyblion blwyddyn 7 ac 8 a disgyblion technoleg bwyd mewn ysgolion uwchradd gan ganolbwyntio ar y 4 egwyddor ganlynol:
- Glanhau
- Coginio
- Oeri
- Croes-heintio
Gwahoddwyd ysgolion i ofyn i’w disgyblion lunio posteri i gyfleu pwysigrwydd y 4 egwyddor uchod mewn diogelwch bwyd.
Roedd y Tîm Diogelwch Bwyd yn falch iawn o gyflwyno gwobrau i enillwyr y gystadleuaeth posteri.
Aeth y wobr gyntaf, chwaraewr MP3 i Briony Jones o flwyddyn 8, Ysgol Maelor, Llanerch Banna;
Enillwyd yr ail wobr, tocyn siopa £15, gan Luke Hughes o flwyddyn 8, Ysgol Uwchradd Bryn Alun, Gwersyllt ac aeth; y
drydedd wobr, tocyn siopa £10, i Lucy Jones o flwyddyn 8, Ysgol Maelor, Llannerch Banna.
Dychwelyd i'r Diogelwch Bwyd
|