Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ar wasanaethau Iechyd Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy'n rhan o Adran Gwarchod y Cyhoedd.
Nod y gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus yw gwarchod y cyhoedd rhag niwsans a pheryglon i iechyd yn deillio o berchnogaeth anghyfrifol cwn, pla, ymddygiad gwrth-gymdeithasol a dwr adloniant.
Mae rhyw 5000 eiddo domestig a busnes yn cael eu trin ar gyfer pla bob blwyddyn. Codir tâl am y gwasanaeth hwn er bod rhai trigolion yn cael eu heithrio.
Darllenwch hefyd y cwestiynau a ofynnir amlaf ar Reoli Pla.
Hefyd: Ffurflen adrodd ar lein Rheoli Pla
Mae'r Gwasanaeth Wardeniaid Cwn yn dal rhyw 700 o gwn crwydrol bob blwyddyn. Mae hon yn swyddogaeth statudol gyda'r nod o leihau problemau cwn crwydrol megis baeddu, brathu a damweiniau ffordd.
Gweler hefyd y cwestiynau a ofynnir amlaf ar Wardeniaid Cwn.
Gweler hefyd: Ffurflen adrodd ar lein Warden Cwn
"Sut i edrych ar ôl eich ci" (cyswllt allanol)
Cysylltwch â’r heddlu ar 0845 6071002
Gweler hefyd: www.defra.gov.uk/ (cyswllt allanol)
Cyflogir Wardeniaid Mwynderau i leihau problemau cwn yn baeddu, sbwriel ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol mewn mannau cyhoeddus. Cyflawnir hyn trwy gyfuniad o ymgyrchoedd addysg a phatrolau gorfodi.
Gweler hefyd y cwestiynau a ofynnir amlaf ar Wardeniaid Cwn.
Mae'r adran yn archwilio cwynion ynglyn â swn, arogleuon, mwg a gwastraff sydd wedi hel ac sy'n achosi niwsans neu sy'n peryglu iechyd. Archwilir rhyw 1200 o gwynion fel hyn bob blwyddyn.
Gweler hefyd y cwestiynau a ofynnir amlaf ar Reoli Swn a Llygredd.
Gweler hefyd: Ffurflen adrodd ar lein am Lygredd
Mae cyngor ar gael ar y cyfrifoldebau ar gyfer delio gyda draeniau preifat sydd wedi blocio neu sy'n ddiffygiol, carthffosydd preifat neu danciau septig. Os yw cymdogion neu bersonau eraill yn amharod i gydweithredu i ddatrys y broblem, gall yr Adran gyflwyno rhybuddion yn gorfodi'r rhai sy'n gyfrifol i gymryd camau.
Gwler hefyd y cwestiynau a ofynnir amlaf ar Ddraenio.
Mae rhyw 300 o gyflenwadau dwr preifat yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r Adran yn gyfrifol am samplo'r cyflenwadau i sicrhau eu bod yn ddiogel a chymryd camau i sicrhau eu bod yn addas i'w hyfed.
Ffôn: 01978 298989
Ebost: cysylltwch@wrexham.gov.uk
Cwblhau'r ffurflen ymholiad cyffredinol
ar lein