Pa weithleoedd a gwmpesir gan y ddeddfwriaeth?
Mae'r ddeddfwriaeth yn cwmpasu'r mwyafrif o adeiladau cyhoeddus sy'n gaeëdig neu'n sylweddol gaeëdig, gan gynnwys bwytai, tafarndai, siopau, sinemâu, canolfannau siopa, canolfannau hamdden gweithleoedd caeëdig eraill a chludiant cyhoeddus. Ni fydd ystafelloedd ysmygu'n cael eu caniatáu.
Yn ei hanfod, bydd y ddeddfwriaeth newydd yn sicrhau bod bron i bob gweithiwr, lle bynnag y maent yn gweithio, yn cael eu hamddiffyn rhag peryglon anadlu mwg tybaco i'w hiechyd a byddent yn cael y sicrwydd o awyr di-fwg.
Beth mae 'caeëdig' yn ei olygu?
Mae caeëdig yn golygu man sydd â nenfwd neu do sydd – ar wahân i ddrysau, ffenestri a chynteddau – yn gwbl gaeëdig (p'un a yw'n barhaol neu'n dros dro). Gosodir y diffiniad arfaethedig allan yn y rheoliadau (cyswllt allanol dogfennau PDF).
Beth mae 'sylweddol gaeëdig' yn ei olygu?
Mae sylweddol gaeëdig yn golygu man sydd â nenfwd neu do sy'n gaeëdig ar wahân i agoriadau sydd – heb gynnwys drysau a ffenestri y gellir eu hagor – yn llai na hanner maint arwynebedd y waliau.
Yn syml, mae hyn yn golygu man cyhoeddus, gan gynnwys gweithle, sydd â tho a waliau ar o leiaf 50% o'i berimedr. Gosodir y diffiniad arfaethedig allan yn y rheoliadau (cyswllt allanol dogfennau PDF).
Beth yw'r troseddau penodol am beidio â chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth?
Mae'r gyfraith yn creu 3 trosedd benodol:
Beth os bydd pobl yn anwybyddu'r gwaharddiad?
Fe allwch chi ffonio'r Llinell Gymorth arbennig ar 0845 300 2525 (Saesneg) / 0845 300 2526 (Cymraeg) i gwyno am unrhyw achosion o dorri'r gyfraith. Trosglwyddir y cwynion i'r awdurdod lleol perthnasol i'w harchwilio. Rhaid talu'r gyfradd leol am y galwadau.
Beth sy'n rhaid i fusnesau ei wneud i gydymffurfio?
Bydd angen i gyflogwyr, rheolwyr a'r rheiny sy'n rheoli adeiladau di-fwg arddangos rhybuddion dim ysmygu a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod staff, cwsmeriaid, aelodau ac ymwelwyr yn ymwybodol o'r gyfraith newydd ac nad ydynt yn ysmygu yn eu hadeiladau. Rydym yn argymell y camau gweithredu canlynol o leiaf:
Cerbydau Di-Fwg
Mae'r daflen hon yn rhoi cymgor i'r rheiny sy'n defnyddio ei cerbydau:
Mae'r daflen ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Cerbydau Di-Fwg - fersiwn MS Word 2.5Mb ![]()
Cerbydau Di-Fwg - fersiwn PDF 278Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Pwy fydd yn gorfodi'r ddeddfwriaeth?
Swyddogion awdurdodedig o'r Adran Tai a Diogelu'r Cyhoedd fydd yn gorfodi'r ddeddfwriaeth ysmygu newydd.
Pryd fydd swyddogion yn erlyn?
Mae gan yr Adran Tai a Gwarchod y Cyhoedd bolisi gorfodi sy'n golygu bod rhaid i swyddogion fod yn deg, yn gyson, yn gymesur, yn dryloyw ac yn wrthrychol. Bydd swyddogion gorfodaeth gynradd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i sicrhau cydymffurfiaeth, ac yn gweithio'n agos â busnesau lleol i ddatblygu cydymffurfiaeth trwy addysg, cyngor a chefnogaeth.
Ymdrinnir â throseddau trwy roi rhybuddion cosbau penodol, fodd bynnag bydd gan swyddogion hawl i erlyn os bydd y troseddwyr yn gwrthod cydymffurfio yn ddigywilydd megis troseddu fwy nag unwaith.
Cynigir bod cerbydau a ddefnyddir mewn gweithle gan fwy nag un unigolyn, hyd yn oed os nad ydynt yn y cerbyd ar yr un pryd, yn ddi-fwg bob amser hefyd. Mae hyn oherwydd bod mwg tybaco'n cael ei amsugno gan ddefnyddiau meddal ac yn aros am wythnosau wedi i sigarét gael ei diffodd. Bydd angen arddangos arwyddion 'dim ysmygu' ym mhob cerbyd.
Cynigir eithriadau mewn rhai sefydliadau lle mae pobl yn byw ac yn gweithio fel a ganlyn:
Lletyau preifat ar wahân i:
lifftiau cyhoeddus;
cynteddau, grisiau mewnol neu goridorau cyhoeddus mewn fflatiau;
ceginau neu olchfeydd a rennir mewn lletyau hundy;
rhannau o adeiladau a ddefnyddir ar gyfer gwaith yn unig gan fwy nag un unigolyn nad ydynt yn byw yn yr eiddo (byddai hyn yn cynnwys amgylchiadau pan mae cleientiaid yn ymweld).
A fydd gofyn i gyflogwyr ddarparu mannau ysmygu y tu allan?
Nid oes gofyn cyfreithiol i gyflogwyr ddarparu mannau ysmygu allanol dynodedig e.e. cysgodfeydd ysmygu.
Beth allad ei wneud os nad wyf yn bresennol pan fydd rhywun yn ysmygu?
Os ydych yn berchennog, rheolwr neu'n unigolyn sy'n rheoli adeiladau di-fwg, rhaid i chi sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant i ymdrin â sefyllfaoedd pan fydd rhywun yn ysmygu. Dylech gael polisi ysmygu. Os ydych yn gadael i staff reoli adeiladau, rhaid i chi sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol y gallent fod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiad â'r gyfraith.
Beth fydd yn digwydd os bydd staff yn cael eu darganfod yn ysmygu mewn adeilad di-fwg?
Mae'n bosibl y bydd swyddogion gorfodaeth yn teimlo y bydd yn briodol rhoi rhybuddion cosbau penodol i'ch staff mewn rhai achosion ond mae'r rhain yn debygol o fod yn brin. Disgwylir i'ch staff gydymffurfio yn eich gweithle trwy weithredu gweithdrefnau disgyblu mewnol gennych chi. Fe'ch cynghorir yn gryf i gael polisi ysmygu ysgrifenedig i ddangos rheolaeth a gallai hwn fod yn ddefnyddiol i brofi eich diwydrwydd. Dylai polisi ysmygu gynnwys cyfeiriad at weithdrefnau disgyblu. Nid oes raid i chi ddarparu man ysmygu allanol i'ch staff ond efallai yr hoffech ystyried hyn wrth greu polisi ysmygu (gweler cysgodfeydd ysmygu).
Beth yw amddiffyniad diwydrwydd priodol dan y ddeddfwriaeth?
I ysmygwyr sydd wedi'u cyhuddo, eu bod yn gallu dangos nad oeddent yn gwybod ac nad oedd disgwyl iddynt allu gwybod yn rhesymol na chaniateir ysmygu yn yr adeilad. I unigolion sy'n rheoli'r adeilad, eu bod (neu weithiwr neu swyddog arall iddynt) wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac ymarfer diwydrwydd priodol i osgoi comisiynu trosedd neu nad oedd modd cyfreithiol neu ymarferol i'r unigolyn cyhuddedig fod wedi atal unigolyn rhag ysmygu yno. O ran amddiffyniad diwydrwydd priodol, mae'n hanfodol i reolwr ac ati allu dangos rheolaeth.
Beth am fynedfeydd i adeiladau?
Nid yw ardaloedd tu allan yn cael eu cwmpasu gan y ddeddfwriaeth. Mae'n bosibl y bydd gweithwyr am ystyried ei wneud yn bolisi na chaniateir ysmygu o fewn pellter penodol i fynedfeydd allanol os yn bosibl fel nad oes raid i staff ac ymwelwyr gerdded trwy gwmwl o fwg i gyrraedd yr adeilad.
Pa help sydd ar gael i staff sydd am roi'r gorau i ysmygu?
Mae Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymru yn wasanaeth lleol rhad ac am ddim sy'n darparu cyngor a chefnogaeth gyfeillgar i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu. Gellir cysylltu â nhw ar 0800 085 2219 www.cmo.wales.gov.uk (cyswllt allanol).
Mae'r GIG yn darparu ystod eang o gefnogaeth ardderchog am ddim ac mae'n rhwydd cael mynediad ato gan gynnwys; Gwasanaethau Rhoi'r Gorau i Ysmygu'r GIG lleol, Llinell Gymorth Ysmygu'r GIG ar 0800 169 0169, a therapi amnewid nicotin (NRT) sydd ar gael i'w ragnodi.
Gweler Cysylltiadau Defnyddiol