Beth a olygir gan gysgodfa ysmygu?
Mae Iechyd yr Amgylchedd yn ystyried bod cysgodfa ysmygu yn unrhyw arwynebedd o dan do neu nenfwd. Nid oes raid iddo fod yn adeiladwaith sy'n cynnwys waliau a gall fod o dan ganopi neu adlen.
A oes gofyn i mi ddarparu cysgodfeydd ysmygu allanol i unrhyw rai o fy staff a chwsmeriaid sy'n ysmygu?
Na. Fodd bynnag, byddem yn eich argymell i ystyried lle mae'ch staff a chwsmeriaid yn debygol o ysmygu. Mae hyn oherwydd materion eilradd sy'n codi o gyflwyno'r gwaharddiad ysmygu. Er enghraifft: iechyd a diogelwch, sbwriel (pennau sigarennau) ac, yn arbennig yn y fasnach trwyddedu, materion megis sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os yw eich staff am gael help i roi'r gorau i ysmygu, gallant ffonio Llinell Gymorth Ysmygwyr Cymru ar 0800 169 0169 neu gysylltu â Gwasanaeth Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymru (0800 085 2219).
Rwyf am ddarparu cysgodfeydd ysmygu allanol lle gall fy staff a chwsmeriaid ysmygu. Sut ddylwn fynd ati i wneud hyn?
Bydd angen i chi sicrhau bod yr hyn yr ydych yn ei gynnig yn cydymffurfio â'r gyfraith h.y. nad yw'n gaeëdig nac yn sylweddol gaeëdig. Gosodir y diffiniad allan yn y rheoliadau (cyswllt allanol dogfennau PDF). Unwaith y bydd y diffiniad wedi'i gadarnhau, byddech yn cael eich cynghori i gael cyngor cyfreithiol a chynllunio lleol am y mater rhag ofn bod angen caniatâd cynllunio neu adeiladau ar gyfer eich cynlluniau.
Allwch chi roi enghraifft o 'caeëdig'?
Cymerwch enghraifft o ystafell sydd â nenfwd neu do sy'n ymestyn dros bob wal heb unrhyw agoriadau h.y. gwagleoedd neu fylchau yn y waliau hynny ac eithrio drws. Bydd yr ystafell honno'n "gaeëdig".
Allwch chi roi enghraifft o 'sylweddol gaeëdig'?
Mae sylweddol gaeëdig yn golygu lle sydd â nenfwd neu do caeëdig ar wahân i agoriadau sydd - heb gynnwys drysau a ffenestri y gellir eu hagor - yn llai na hanner arwynebedd ei waliau.
Yn syml, mae hyn yn golygu man cyhoeddus, gan gynnwys gweithle, sydd â tho a waliau ar o leiaf 50% o'i berimedr. Gosodir y diffiniad allan yn y rheoliadau (cyswllt allanol dogfennau PDF).
Onid yw drysau, ffenestri a chynteddau yn agoriadau?
Mae drysau, ffenestri a chynteddau wedi'u heithrio gan y ddeddfwriaeth wrth bennu p'un a yw adeilad neu ran o adeilad yn gwbl neu'n sylweddol gaeëdig. Pwrpas y ddeddfwriaeth yw sicrhau, mewn unrhyw le yr ysmygir ynddo, y ceir awyriad naturiol ac effeithiol. Yr agoriadau delfrydol er mwyn sicrhau hyn yw mannau parhaol sy'n agored i awyr o'r tu allan. Gellir cau drysau, ffenestri a ffitiadau eraill. Mae cynteddau'n dueddol o fod yn gwbl neu'n sylweddol gaeëdig felly ni fyddant yn helpu i awyru mannau lle mae pobl yn ysmygu. Os ydych yn ystyried drysau a ffenestri ac ati wrth benderfynu a yw adeilad yn sylweddol gaeëdig, dylech ystyried eu bod yn chwarae rhan waliau.
Sut allaf gyfrifo p'un a yw fy nghysgodfa ysmygu yn sylweddol gaeëdig?
Rhaid gosod perimedr y gysgodfa ysmygu i ddechrau. Fel arfer, yn arwynebedd dan y to fyddai hyn. Ar ôl penderfynu ar y perimedr, anwybyddwch y to gan nad yw'n rhan o'r cyfrifiad. Beth yw cyfanswm yr arwynebedd fertigol a amgaeir gan y perimedr, y solidau a'r gwagleoedd (T)?
Cofiwch, caiff unrhyw ddrysau, ffenestri neu ffitiadau eraill eu hystyried yn waliau. Beth yw arwynebedd y waliau (X)? Beth yw arwynebedd yr agoriadau Y?
Felly T = X + Y
Os yw X yn llai na Y, nid yw'r gysgodfa ysmygu yn sylweddol gaeëdig.
Os yw X yn hafal i Y, nid yw'r gysgodfa ysmygu yn sylweddol gaeëdig.
Os yw X yn fwy na Y, mae'r gysgodfa ysmygu yn sylweddol gaeëdig.
Yr unig adeg pan nad yw cysgodfa ysmygu'n cydymffurfio yw pan fo X (cyfanswm arwynebedd y waliau) yn fwy na Y (cyfanswm arwynebedd yr agoriadau).
Enghraifft o gysgodfa sy'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth
Enghraifft o gysgodfa sy'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth – fformat PDF – 106Kb ![]()
Enghraifft o gysgodfa sy'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth – fformat Word – 1.2Mb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Pa mor bell all unrhyw adeiladwaith arall fod oddi wrth y gysgodfa ysmygu?
Nid yw'r ddeddfwriaeth yn nodi'r pellter y dylai'r gysgodfa ysmygu fod oddi wrth adeiladweithiau eraill. Dylid nodi fodd bynnag, os yw cysgodfa yn agos at adeiladwaith arall (e.e. gwrych, ffensys, waliau) gallai effeithiolrwydd yr awyriad naturiol gael ei leihau.
Fe'ch argymhellir i godi cysgodfeydd o leiaf 1.5 metr oddi wrth adeiladweithiau eraill (oni bai fod yr adeiladwaith hwnnw'n ffurfio rhan o'r gysgodfa). Argymhelliad yn unig yw hwn a bydd angen i bob sefyllfa gael ei lunio a'i osod yn dibynnu ar amgylchiadau lleol. Am gyngor pellach am y mater hwn, fe'ch cynghorir i gysylltu â'r adran Iechyd a Diogelwch yn uniongyrchol.
Ceir yn y daflen hon gyngor i fusnesau ar gysgodfeydd ysmygu; ei nod yw egluro anghenion y ddeddfwriaeth newydd sydd yn cael ei gyflwyno ar Ebril 2il 2007.
Mae'r dogfen ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Gwarhardd Ysmygu - fersiwn PDF 229Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |