Mwg Ail-Law

Mwg ail-law (ysmygu goddefol) yw mwg tybaco pobl eraill ac mae'n ffynhonnell sylweddol o lygredd aer dan do. Ers dros ddegawd, mae tystiolaeth wyddonol argyhoeddiadol wedi bod ar gael i ddangos bod anadlu mwg ail-law yn niweidio eich iechyd ac yn gwaethygu problemau iechyd sy'n bodoli eisoes. (BMA 2002 *).

*Towards Smoke-free Public Places, Y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, Tachwedd 2002

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn achub bywydau gweithwyr a'r rheiny sy'n ymweld â'r lleoedd lle gwaherddir ysmygu. Hefyd bydd yn gwella ansawdd awyr, yn lleihau salwch a ddioddefir gan blant ac oedolion ac yn rhoi cyfle i fwy o oedolion roi'r gorau iddi a gwella ansawdd bywydau miliynau o bobl yn y gwaith ac yn ystod oriau hamdden.

Effeithiau Iechyd

Mae mwg tybaco, o le bynnag y daw, yn niweidiol i'ch iechyd – p'un a yw'n dod o sigarét, pib neu sigâr. Trwy sefyll yn agos at ysmygwr neu sigarét neu drwy fod mewn ystafell lle mae ysmygwyr, rydych yn anadlu o leiaf 50 o sylweddau y gwyddwn sy'n achosi canser a chemegau eraill sy'n codi pwysedd gwaed, yn niweidio'r ysgyfaint ac yn achosi i'ch arennau weithio yn annormal. Rhai o effeithiau uniongyrchol mwg ail-law yw peswch, cosi llygaid, dolur gwddf, problemau anadlu a phosibilrwydd o bwl o asthma.

Mae'r effeithiau hirdymor i iechyd yn cynnwys gwaethygu problemau ar y frest ac alergeddau megis asthma, emffysema, broncitis a chlefyd y gwair, cynnydd yn y perygl o glefyd y galon a chanser yr ysgyfaint. Gall merched beichiog sy'n anadlu mwg ail-law drosglwyddo nwyon a chemegau niweidiol i'w babanod.

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd

Creodd y Cynulliad bwyllgor i adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael am ysmygu mewn mannau cyhoeddus. Bu iddynt gynhyrchu adroddiad ym Mai 2005 sy'n ffurfio sail i'r rheoliadau ysmygu newydd.

Roedd y dystiolaeth a adolygwyd ganddynt yn dangos bod anadlu mwg sigarennau pobl eraill (ysmygu goddefol) yn gallu:

  • Cynyddu'r perygl o ganser neu glefyd y galon
  • Rhoi pwysau ychwanegol ar y galon ac effeithio ar allu'r corff i anadlu a defnyddio ocsigen
  • Sbarduno pyliau o asthma
  • Niweidio plant a babanod hyd yn oed yn fwy nag oedolion
  • Cynyddu'r perygl o syndrom marwolaeth babanod sydyn (SIDS)

(Adroddiad Prif Swyddog Meddygol Lloegr 2002)

Anadlu yn y gwaith

Mae pawb sy'n anadlu mwg ail-law'n cael ei effeithio, fodd bynnag gan fod yr effeithiau niweidiol yn cynyddu gydag amser, mae rhai grwpiau'n arbennig o agored i niwed. Gall gweithwyr sy'n anadlu mwg yn y gwaith fod yn anadlu mwg tybaco am hyd at 8 awr y dydd. Mae hon yn lefel anadlu lawer uwch na'r mwyafrif o ysmygwyr. Mae mwg ail-law yn debygol o fod yn gyfrifol am 54 o farwolaethau yn y diwydiant lletygarwch bob blwyddyn. (British Medical Journal Ebrill 2005;330;812)

Awyru

Ni all awyru amddiffyn pobl rhag peryglon mwg ail-law. Mae awyru'n symud aer o amgylch a gallai gael gwared ar rywfaint o'r gronynnau mawr ond nid yw'n cael gwared ar y carsinogenau o fwg sigarennau sy'n dal i gylchredeg a chael eu hanadlu.

Ystafelloedd ysmygu

Nid yw ystafelloedd/mannau ysmygu'n effeithiol wrth geisio atal ysmygu goddefol oherwydd y gall mwg deithio i ystafelloedd neu fannau eraill. Hefyd mae'n bosibl y bydd raid i bobl nad ydynt yn ysmygu ddefnyddio'r ystafell e.e. staff glanhau.

yn ôl i'r brig