Bydd diwrnod casglu sbwriel a deunyddiau i'w hailgylchu o gistiau olwyn, blychau, bagiau a chistiau bwyd gwastraff yn parhau ar yr un diwrnod i bob cartref yn Wrecsam.
Dymuna Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam atgoffa trigolion na fydd eu diwrnod casglu biniau yn newid ystod y gwyliau Pasg a'r Gwyliau Banc.
Mae Cyngor Wrecsam yn dymuno diolch i'r holl drigolion am barhau i gefnogi'r cynllun Ailgylchu gyda Michael.
Gwnewch yn siwr bod yr holl sbwriel a deunyddiau i'w hailgylchu yn cael eu gosod ar fin y ffordd erbyn 7.30am ar y diwrnod casglu arferol, os gwelwch yn dda.