Rydym yn casglu’r blwch ailgylchu gwyrdd a’r sach ailgylchu las bob wythnos o holl gartrefi Wrecsam.
Caiff gwastraff cartref o’ch bin olwynion du neu las ei gasglu bob yn ail wythnos â bwyd, cardbord gwrymiog a gwastraff gerddi o’ch bin olwynion gwyrdd.
Bydd y canlyniadau'n cael eu dangos ar fap ac yn nodi ar ba ddiwrnod o'r wythnos y caiff eich biniau a chynwysyddion ailgylchu'n cael eu gwagio (gwelwch yr allwedd isod).
Allwedd i'ch diwrnod newydd casglu biniau
Gwyrdd = Dydd Llun
Glas = Dydd Mawrth
Pinc = Dydd Mercher
Gwyrddlas = Dydd Iau
Coch = Dydd Gwener
I weld pa galendr sy’n berthnasol i chi, bydd angen i chi glicio ar eich eiddo gan ddefnyddio’r offeryn Cael Gwybodaeth
, o’r bar offer (uwchlaw’r map). Bydd manylion eich diwrnod casglu a pha galendr sy’n berthnasol yn cael eu dangos wrth ochr y map. Mae rhagor o gyfarwyddiadau i’w cael trwy glicio ar y tab help.
Mae Wrecsam yn casglu gwastraff gerddi (biniau mewn gwyrdd) a gweddill y gwastraff (mewn biniau du, glas neu liw castan) bob yn ail wythnos.
Mae’r calendrau’n dangos pa un yw wythnos gwastraff gweddilliol (sy’n cael ei dangos mewn pinc ar y calendr) a pha un yw wythnos casglu gwastraff gerddi (sy’n cael ei dangos mewn gwyrdd).
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Strydoedd o Fri 01978 298989, cysylltwch@wrexham.gov.uk.
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?