
Ymgyrch Compostio yn y Cartref WrecsamMae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW) yn credu mai compostio yw'r ffordd orau o ddelio â gwastraff yr ardd a gwastraff llysieuol o'r gegin ac rydym yn falch o hyrwyddo compostio yn y cartref trwy'r cynllun a ddisgrifir isod.
Gall preswylwyr archebu compostwyr cartref dros y ffôn neu ar-lein.
Y rhif ffôn yw 01978 298989 a bydd galwadau'n costio'r un faint â galwadau lleol.
Mae'r compostwyr yn ailgylchu gwastraff organig a gwastraff y gegin yn gyflym a'i droi'n gompost cyfoethog a maethlon sy'n berffaith i gadw'ch gardd yn llaith. Mae ganddo ddrws llydan fel y gellir cyrraedd y compost gorffenedig yn rhwydd. Nid oes angen ei roi at ei gilydd ac mae'n rhwydd i'w ddefnyddio. Mae wedi'i wneud o blastig du wedi'i ailgylchu ac mae'n warantedig am 10 mlynedd.
Mae ar gael mewn 2 faint:
Gwastraff ac Ailgylchu yn Wrecsam
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?