Mae casgenni dŵr yn fonws mawr i’r ardd a gallent eich helpu i gasglu hyd at 5,000 litr o ddŵr glaw mewn blwyddyn. I wneud y defnydd gorau o’r gasgen ddŵr dylech osod y gasgen wrth ochr peipen ddŵr addas ac unwaith i chi osod y dargyfeirydd, cewch eich synnu faint o ddŵr glaw y gellwch ei gasglu. Mae planhigion sy’n hoffi asid a phlanhigion potiau yn arbennig yn hoffi dŵr glaw. Gall casgenni dŵr hefyd gyfrannu tuag at leihau gorlifiant oherwydd dŵr wyneb. Cyfeiriwch at y wefan llifogydd am ragor o wybodaeth.
Mae defnyddio dŵr o’r gasgen ddŵr yn hytrach na dŵr yfed wedi’i drin yn well i’ch gardd, ei bywyd gwyllt a’r amgylchedd.
Mae casgenni dŵr ar gael gan Adran yr Amgylchedd. Maent yn wyrdd, mae ganddynt gaead du ac maent yn dal 190 litr o ddŵr. Mae ganddynt gaead sy’n eu gwneud yn ddiogel i blant ac maent wedi’i gwneud o blastig wedi’i ailgylchu. Mae’r gasgen ddŵr yn cynnwys pecyn dal glaw a thap rhyddhau.
Er mwyn i ni fedru ymdrin â’ch cais, dewiswch y math o Casgenni Dŵr yr hoffech ei brynu.
| Dewiswch o: | ||||
| WB1 | Water Butt (190 litres) | £32.50 gan gynnwys costau cludo a TAW | Dewiswch WB1>> | |
Dylid talu am y casgenni dŵr o flaen llaw yn Adran yr Amgylchedd, Adeiladau’r Goron, Stryt Caer.
Gallwn ymateb i’ch cais yn ystod oriau agor y swyddfa: 8.45am - 5.15pm Dydd Llun i ddydd Iau, 8.45am - 4.45pm Dydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus).
Gellwch ffonio 01978 292044, neu anfon e-bost: cysylltwch@wrexham.gov.uk
Neu galwch heibio:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adran Gwasanaethau Cymdeithasol
Adeiladau’r Goron
Wrecsam
LL13 8BG