Yn gweithio gyda chi i greu noson Calan Gaeaf a noson Tân Gwyllt fwy diogel
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam yn awyddus i bobl barhau i fwynhau tân gwyllt ac wedi datblygu Côd Cymydog Da i helpu i rwystro arddangosfeydd rhag effeithio ar fwynhad trigolion eraill.
Côd Cymydog Da
Hwyl Tân Gwyllt gyda Chydwybod
- Mae angen i chi ystyried eraill. Cofiwch gall sŵn tân gwyllt achosi gofid i gymdogion, yn arbennig y rhai â nam ar eu golwg a'u cwn tywys, yr henoed, gweithwyr shifft a rheini gyda phlant ifanc.
- Ceisiwch fynychu arddangosfeydd a drefnwyd gan iddynt fod yn fwy diogel ac yn fwy ysblennydd na pharti yn yr ardd, a bydd amryw’n digwydd ar noson tân gwyllt.
- Sicrhewch eich bod yn prynu tân gwyllt gydag effaith weledol yn hytrach na chlywedol er mwyn lleihau aflonyddwch.
- Nid yw sŵn tân gwyllt byth yn gyfyngedig. Ceisiwch rybuddio cymaint o gymdogion â phosib o flaen llaw fel y cânt y cyfle i wneud trefniadau ar gyfer anifeiliaid anwes ofnus, plant ayb. Ystyriwch gymdogion bregus megis pobl ddall, neu â nam ar eu golwg neu’r henoed.
- Dewch â’ch arddangosfa tân gwyllt i ben cyn 11pm. Mae eithriadau i’r rheol hon ar gyfer Diwali, Nos Galan y Tseinieaid a Nos Galan pan roddir caniatâd i gynnal arddangosfeydd hyd at 1.00am. Ar 5 Tachwedd rhoddir caniatâd i’w cynnal hyd at ganol nos.
- Byddwch yn ddiogel. Peidiwch byth â thanio tân gwyllt yn y stryd. Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un dan 18 oed feddu ar dân gwyllt mewn man cyhoeddus.
- Prynwch eich tân gwyllt o fan cyfrifol bob tro. Prynwch dân gwyllt sy’n dangos label Safon Prydain rhif BS7114 neu farc CE yn unig.
- Prynwch dân gwyllt sy’n addas ar gyfer maint eich gardd. Yn y mwyafrif o achosion, tân gwyllt categori 2 yn unig fydd hyn.
- Os oes gennych unrhyw bryderon am dân gwyllt sy’n cael eu storio neu eu gwerthu’n anghyfreithlon yn eich ardal chi, yn enwedig i bobl ifanc, rhowch wybod i ni.
Dilynwch y côd tân gwyllt bob amser.
Mae cyngor ynghylch diogelwch tân gwyllt ar gael oddi wrth:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam,
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd,
Adran Safonau Masnach,
Stryd Uchaf,
Rhiwabon,
Wrecsam LL14 6NH
Ffôn:01978 292045
e bost: trading.standards@wrexham.gov.uk
Tân Gwyllt - Cod Cymydog Da
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Tân Gwyllt - Cod Cymydog Da - Fersiwn PDF 244Kb 
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
|
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
yn ôl i'r brig