Croeso i Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth ar rôl y gwasanaeth Safonau Masnach o fewn y Fwrdeistref Sirol, a'r amrywiaeth o wasanaethau yr ydym yn eu darparu yn ogystal â gwybodaeth gyswllt a ffurflen gwestiynau. Ceir cysylltiadau i wefannau eraill a phecyn gwybodaeth cynhwysfawr i ddefnyddwyr.
- Ynglyn â Safonau Masnach
- Cyngor Busnes
- Cyngor i Ddefnyddwyr & Cyngor i Fusnesau
- Cyswllt Ddefnnyddwyr Cymru
- Cysylltu â'r safonau masnach
- Cynllun Profi Oedran
- Cysylltiadau defnyddiol ar y we
- Datganiad i'r wasg
- Dioddefwyr Benthycwyr Didrwydded
- Eich Barn
- Eich Cwestiynau
- Gwasanaeth Calibro
- Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Trwyddedau a ffurflenni cais
- Y Ffliw Adar
- Cynllun Crefftwyr Cymeradwy Trustmark Safonau Masnach Wrecsam
Cyswllt ag Adran Tai a Diogelu'r Cyhoedd CBSW - Polisi Gorfodaeth
Ynglyn â Safonau
Masnach
Mae'r Gwasanaeth Safonau Masnach yn rhan o'r Adran Tai a Diogelu'r Cyhoedd ac mae'n gweithredu ochr yn ochr â Gwasanaethau Rheoleiddio eraill e.e. Iechyd yr Amgylcheddol.
Mae'r gwasanaeth yn bodoli er budd defnyddwyr a busnesau yn ardal Wrecsam. Ein nod yw sicrhau amgylchedd masnachu teg a diogel a gwella iechyd a lles anifeiliaid. Rydym yn cyflawni'r rôl hon drwy orfodi'r gyfraith, darparu cyngor ac addysg. Rydym yn ymdrechu i gyflawni hyn trwy nifer o feysydd gweithgareddau gwasanaethau allweddol:
-
Cynghori, cynorthwyo ac addysgu defnyddwyr i'w helpu i brynu'n ddoeth a gweithredu pan geir achosion o nwyddau a gwasanaethau diffygiol. Gwneir hyn mewn cydweithrediad â Cyswllt Defnyddwyr Cymru.
-
Cynghori a chynorthwyo busnesau i'w helpu i gydymffurfio â deddfwriaeth Safonau Masnach gan gynnwys systemau Rheoli Ansawdd.
-
Archwilio adeiladau masnachu ar sail asesiadau risg i weld a ydynt yn cydymffurfio ag amrywiaeth o ddeddfwriaethau Safonau Masnach e.e. prisiau cywir, disgrifiadau manwl a labeli bwyd.
-
Cynnal prosiectau manwl iawn i nwyddau, gwasanaethau ac ymarferion masnachu penodol megis disgrifiadau bwyd, diogelwch nwyddau trydanol a gwasanaethu ceir.
-
Erlyn masnachwyr am dorri amodau deddfwriaethol e.e. clocio ceir, ffugio a gorlwytho cerbydau.
-
Profi cywirdeb offer pwyso a mesur.
-
Trwyddedu adeiladau ar gyfer petrolewm, tân gwyllt a gwenwyn.
-
Trwyddedu ar gyfer symud anifeiliaid.
Cysylltu â Ni
Darperir Gwasanaeth Safonau Masnach fel â ganlyn:
Gorfodaeth Gyfreithiol a Chyngor i Fusnesau
Yr Adran Tai a Diogelu'r Cyhoedd
Is-adran Safonau Masnach
Ffordd Rhuthun
Wrecsam
LL13 7HU
Rhif ffôn: 01978 292045
Ffacs: 01978 315701
e-bost: trading.standards@wrexham.gov.uk
Ein horiau agor yw 8.30am i 5.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
(ac eithrio gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc)
Cyngor i Ddefnyddwyr
Cyswllt Defnyddwyr Cymru
Rhif ffôn: 08454 04 05 06 (galwadau ffôn ar gyfradd leol)
Gwefan: www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk
e-bost: www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk/contact
Eu horiau agor yw: 9.00am i 5.00pm Dydd Llun - Dydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc)
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?







