Os ydych wedi dioddef oherwydd benthycwyr didrwydded, neu'n tybio bod benthycwyr didrwydded yn gweithredu yn eich ardal, ffoniwch Linell Gymorth 24 awr Uned Fenthyca Arian Anghyfreithlon Cymru:
0300 123 3311.
Mae pob galwad yn gwbl gyfrinachol.
Bydd Swyddogion Arbenigol wrth law i roi cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr, gan gynnig cyngor ynghylch dyledion a phroblemau eraill.
Mae'n bwysig gwybod nad yw benthyca gan fenthyciwr didrwydded yn anghyfreithlon. Y benthyciwr sy'n torri'r gyfraith.Ni fydd WIMLU yn cymryd camau yn erbyn unrhyw unigolyn sydd wedi benthyca arian, ond yn ceisio rhoi cyngor i chi ar gyfer y dyfodol.
Cofiwch fod benthycwyr didrwydded yn codi cyfraddau llog gormodol a all fod yn ganrannau o filoedd. Mae hyn yn creu sefyllfa lle na all yr unigolyn sy'n benthyca dalu'r benthyciad yn ôl. Mae'n rhaid i rai pobl sy'n benthyca droi at ddwyn neu ddelio cyffuriau er mwyn gallu ad-dalu'r benthyciad. Mae rhai dioddefwyr benywaidd wedi gorfod perfformio cymwynasau rhywiol am fethu taliadau.
Os yw dioddefwyr yn cydymffurfio nid ydynt yn cael eu hesgusodi o'u dyled, ac mae'r benthyciwr didrwydded yn arswydo ac yn dychryn dioddefwyr.
Ein gobaith yw y bydd Cymru'n parhau i dynnu ynghyd i Oresgyn y Benthycwyr Didrwydded a thalu'r pwyth yn ôl!