| Dyddiad | Newyddion |
|---|---|
| 26.01.12 | Gwahardd Peirannau Gwerthu Sigarennau O ddydd Mercher 1 Chwefror 2012 ymlaen bydd yn anghyfreithlon gwerthu sigarennau o beiriant yng Nghymru. O'r dyddiad hwnnw ni ddylai fod yn bosibl prynu sigarennau o beiriant. Mae Llywodraeth Cymru wedi pasio'r ddeddf hon mewn ymateb i dystiolaeth bod lawer o blant sy'n ysmygu yn prynu eu sigarennau o beiriannau'n rheolaidd. |
| 19.09.11 | Ydych yn barod am tal fagiau siopa Cymreig? Mae Llywodraeth Cymru eisiau tori y nifer o fagiau sydd yn cael ei rhoi am ddim. Felly o 01 Hydref 2011 fyddwch yn talu o leiaf 5c am bob bag siopa untro |
| 23.09.10 | Lansio cymhorthfa alw heibio Safonau Masnachu Lansiwyd gwasanaeth newydd cynghori defnyddwyr yn Galw Wrecsam. Bydd staff o Safonau Masnachu wrth law bob dydd Llun a dydd Gwener (9.30-12.30pm a 2-4pm) yn Stryt yr Arglwydd, i gynnig cyngor i’r cyhoedd ar amrywiaeth o faterion defnyddwyr. |
| 16.02.10 |
Mae Swyddogion Safonau Masnachu yn Wrecsam wedi cael amryw ymholiadau gan ddeiliaid tai sy’n sôn am alwadau ffôn annisgwyl gan fasnachwr yn cynnig arolwg am ddim iddynt a’r cyfle i brynu larwm ymyrryd am bris bargen. Mae amryw wedi dweud eu bod yn cael yr argraff bod Heddlu Gogledd Cymru ardystio’r larymau mewn rhyw fodd, sy’n annhebygol o fod yn wir. |