| Dyddiad | Newyddion |
|---|---|
| 09.11.09 |
Cross Foxes, High Street, Coedpoeth |
| 16.10.09 | Cynllun Crefftwyr Cymeradwy Trustmark Safonau Masnach Wrecsam Mae Tîm Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn darparu Cynllun Crefftwyr Cymeradwy ar gyfer yr ardal. |
| 10.08.09 | Herio manwerthwyr dros werthu cyllyll i bobl dan oed Yn dilyn Ymgyrch Cyllyll ledled y Fwrdeistref Sirol llynedd, mae Safonau Masnach Wrecsam wedi dod at ei gilydd unwaith eto i wneud eu rhan i helpu i atal gwerthu cyllyll i bobl dan oed. |
| 05.08.09 | Masnachwr marchnad yn cael ei garcharu am werthu dillad yn anghyfreithlon Mae masnachwr marchnad o Wrecsam wedi cael ei garcharu am werthu a meddu ar ddillad ffug.. |
| 24.07.09 |
Mae Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yn rhybuddio pobl i fod ar eu gwyliadwriaeth yn erbyn contractwyr didrwydded a allai geisio cymryd mantais ohonynt drwy godi symiau aruthrol o arian arnynt am osod offer neu wneud gwaith diangen. |
| 22.04.09 | Nwyddau wedi'u dwyn neu nwyddau ffug Mae Safonau Masnach Cyngor Wrecsam a Grŵp Diogelwch Cymunedol De Wrecsam sydd yn cynnwys cynghorwyr, asiantaethau partner a'r heddlu yn rhybuddio'r cyhoedd ynghylch pobl sy'n gwerthu nwyddau wedi'u dwyn neu nwyddau ffug mewn tafarnau neu o ddrws i ddrws. |
| 11.02.09 |
Bob wythnos mae Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yn derbyn ymholiadau gan aelodau'r cyhoedd ynghylch dilysrwydd hysbysiadau eu bod wedi ennill gwobr mewn loteri neu swîp nad ydynt wedi rhoi cynnig arnynt. Tra bo'r mwyafrif yn deall mai ystryw yw'r hysbysiad i'w twyllo o'u harian - ffi weinyddol o hyd at £50 fel arfer - yn anffodus mae llawer o bobl yn cael eu dal. Amcangyfrifir bod 3 miliwn o bobl ledled y Deyrnas Unedig yn colli hyd at £3.5 biliwn i'r twyllo masnachol torfol hyn. |
| 24.10.08 | Atal Wyau a Blawd yn ystod Calan Gaeaf Mae Partneriaeth Diogelu Cymunedau Wrecsam wedi defnyddio “Wythnos Dim yn fy Nghymdogaeth i” y Swyddfa Gartref i lansio dwy fenter newydd i gynorthwyo i wneud cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn ddiogelach yn ystod yr hydref a’r gaeaf. Mae Wythnos Dim yn fy Nghymdogaeth i yn anelu at amlygu’r gwaith sy’n digwydd ledled Cymru a Lloegr i fynd i’r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. |
| 09.09.08 | Cynghorir ffermwyr i baratoi i frechu rhag clefyd y tafod glas Mae clefyd y tafod glas yn parhau i ledaenu drwy dir mawr Ewrop. Mae’r clefyd yn effeithio ar ddefaid, geifr, ceirw a chamelidau. Nid yw’n effeithio ar fodau dynol, ceffylau na moch. |
| 29.08.08 | Ymgyrch Brawf Safonau Masnach ar gyfer Prynu Cyllyll Mae swyddogion safonau Masnach yn Wrecsam yn rhybuddio manwerthwyr i fod yn fwy gwyliadwrus ar ôl i bedair siop werthu cyllyll yn anghyfreithlon i bobl ifanc dan oed. |
| 30.11.07 | Gwybod Eich Hawliau y Nadolig Hwn Gyda’r Nadolig yn nesáu’n gyflym, mae Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Wrecsam wedi crynhoi ychydig o gyngor tymhorol i’ch helpu osgoi problemau gyda siopa Nadolig. |
| 25.10.07 |
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam yn lansio côd cymydog da cyn 5 Tachwedd. Amcan y côd yw annog pobl i ddefnyddio tân gwyllt yn gyfrifol ac ystyried trigolion eraill, yn enwedig yr henoed a phobl hawdd eu niweidio |
| 24.10.07 | Bwyd sydd wedi mynd heibio'r dyddiad defnyddio yn costio £10,000 i Tesco Wrecsam Ar 11 Hydref 2007 bu i Ynadon Wrecsam roi dirwy o £7,600 i Tesco Stores Limited a'u gorchymyn i dalu £2,191 o gostau'r yn dilyn yr erlyniad am werthu bwyd a oedd wedi mynd heibio'r dyddiad defnyddio yn eu siop ar Ffordd y Cilgant, Wrecsam. |
| 12.09.07 |
Yn dilyn yr ymchwiliad i Glwy'r Traed a'r Genau posibl yn Egham ar ffin Surrey/Berkshire mae gwaharddiad cenedlaethol traws-Brydeinig ar symud moch, gwartheg, defaid ac anifeiliaid cnoi cil eraill wedi ei arosod. Ni chaniateir symud anifeiliaid drwy'r wlad gyfan ac eithrio dan amodau trwydded. |
| 24.08.07 | Diweddariad Am Glwy'r Traed A'r Genau Ganol nos 23ain Awst 2007 cafodd cyfyngiadau Clwy'r Traed a'r Genau yng Nghymru eu llacio. Nid yw hyn yn golygu bod popeth yn dychwelyd i'r arfer â'r masnachu arferol fodd bynnag. Mae gwyliadwriaeth a lefelau bioddiogelwch uchel yn parhau'n flaenoriaethau pwysig. |
| 15.08.07 |
Gan ei bod yn ymddangos fel petai'r clwy' wedi ei gyfyngu yn yr ardaloedd diogelu a gwyliadwriaeth yn Surrey, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lliniaru ychydig eto ar y rheolau sy'n gymwys o fewn yr ardaloedd a gyfyngir. |
| 18.04.07 | Cyngor i dargedu gwerthiant alcohol i bobl ifanc dan oed Mae pobl ifanc sy'n yfed alcohol dan oed yn cael eu targedu yn Wrecsam er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol. |
| 18.09.06 |
Yn dilyn cyhoeddusrwydd cenedlaethol yn ddiweddar am droseddau treisgar sy'n cynnwys pobl ifanc yn defnyddio cyllyll, gwnaeth swyddogion Safonau Masnach Cyngor Wrecsam brawf prynu ddoe i weld a oedd siopau yn Wrecsam yn gwrthod gwerthu cyllyll ac arfau llafnog i unigolion dan oed |
| 16.08.06 |
Ydych chi'n cael llwyth o bost a galwadau telewerthu dieisiau? Hoffech chi gael llai ohonynt? |
| 16.08.06 | A ydych yn ddigon effro heb larwm? Mae Swyddogion Safonau Masnach yn Wrecsam yn annog deiliaid tai i feddwl ddwywaith os ydynt yn cael galwad ffôn annisgwyl yn cynnig cyfle iddynt brynu larwm ddiogelwch am bris gostyngol. |
| 03.07.06 | Efallai ein bod wedi cael gwanwyn gwlyb ond peidiwch â chredu fod eich cartref yn llaith! Mae'r cyhoedd yn cael eu hargymell i fod yn wyliadwrus os bydd contractwyr gwrth-leithder yn cysylltu â nhw i gynnig cynnal arolygon am ddim. |
| 07.11.05 | |
| 02.11.05 | |
| 17.10.05 | |
| 12.08.05 | Safonau Masnachu Wrecsam Yn Sicrhau Addewid Ymrwymol Gan Gwmni Tramwyfeydd Lleol |
| 21.05.05 | |
| 21.05.05 | |
| 20.05.05 | |
| 02.03.05 |
|