Mae'r dudalen hon yn disgrifio'r amrywiaeth o wasanaethau y mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ei ddarparu, yn ogystal â chysylltiadau i ffurflen
cwestiynau ar lein a ffurflen
barn a sylwadau ar lein.
Rydym yn darparu cyngor i fusnesau i'w helpu i gydymffurfio â'r gyfraith.
Mae system ddarlledu SM yn darparu pecyn cyngor wedi'i deilwra ar gyfer eich busnes. Atebwch y cwestiynau isod, a bydd y system yn cynhyrchu rhestr o destunau am eich maes/meysydd diddordeb.
Drwy dicio'r blychau nesaf at y pynciau safonau masnach sydd o ddiddordeb i chi, gallwch ddewis y meysydd mwyaf perthnasol. Cedwir y rhain mewn un ffeil fydd yn ei gwneud yn hawdd i chi gadw neu argraffu'r wybodaeth sy'n bwysig i chi. Caiff yr wybodaeth ei diweddaru'n gyson gan arbenigwyr y Sefydliad Safonau Masnach (cyswllt allanol).
Os hoffech ofyn cwestiwn penodol i ni, defnyddiwch y ffurflen gwestiynau ar-lein sydd ar gael ar y wefan hon.
Mae CDW yn cynghori, cynorthwyo ac addysgu defnyddwyr i'w helpu i brynu'n ddoeth ac i weithredu ynghylch nwyddau a gwasanaethau diffygiol. Gellir cael rhestr gynhwysfawr o nodiadau cyfarwyddyd a thaflenni o www.adviceguide.org.uk a www.tradingstandards.gov.uk.
CDW yw eich pwynt cyswllt dechreuol ar gyfer materion sy'n ymwneud â phrynu, fodd bynnag, os oes angen cymorth mwy manwl arnoch bydd CDW yn cyfeirio manylion eich cwyn at Is-adran Safonau Masnach Wrecsam fel y gall Swyddog Ymgynghorol neu Swyddog Gorfodi ymchwilio i'r mater.
Ar ôl i'r CDW eich cyfeirio atom, byddwn yn cysylltu â chi cyn pen 2 ddiwrnod gwaith i gadarnhau bod y wybodaeth gennym. Os nad oes modd i ni gael gafael arnoch dros y ffôn byddwn yn anfon llythyr atoch yn gofyn i chi gysylltu â swyddog. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn gallu ateb eich ymholiad ar unwaith a darparu cyngor cynhwysfawr i'ch helpu yng ngham nesaf eich ymholiad. Fel arall, efallai y bydd rhaid edrych ar eich dogfennau a'ch telerau a'ch amodau.
Efallai y cewch eich cynghori i gysylltu â sefydliad mwy addas sy'n fwy cymwys i helpu e.e. Energywatch ar gyfer problemau yn ymwneud â nwy a thrydan ac OFCOM ar gyfer ymholiadau biliau ffôn.
Efallai y byddwn yn cysylltu â'r masnachwr i geisio trafod i drefnu canlyniad derbyniol. Nid yw hyn yn bosibl ym mhob sefyllfa.
Efallai y bydd angen i chi gael cyngor arbenigwyr ar ryw adeg i gefnogi'ch cais. Byddech yn gyfrifol am dalu unrhyw dâl a godir gan yr arbenigwr.
Os na fydd trafodaethau â'r masnachwr yn llwyddo, efallai y byddwch yn penderfynu gweithredu trwy'r Llysoedd Sifil. Fel arfer, byddwn yn delio â cheisiadau am £5,000 neu lai ar y Llwybr Hawliadau Bach. Codir tâl am hyn a byddwch yn gyfrifol am ei dalu. Gallwn eich helpu a'ch cynghori wrth baratoi dogfennau i'r llys.
Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim.
Dweud holl ffeithiau eich cwyn wrthym yn gwbl ddidwyll
Darparu unrhyw ddogfennau y gofynnwn amdanynt cyn gynted ag sy'n bosibl
Gwrando ar ein cyngor a gweithredu arno - rydym yn ceisio eich helpu
Gofyn i ni esbonio neu egluro unrhyw beth nad ydych yn sicr yn ei gylch
Derbyn y gall ymchwiliadau gymryd amser
Derbyn na allwn ddatrys y broblem i chi bob tro
Parchu ein staff sy'n gwneud gwaith anodd sy'n aml yn ymgecrus
Ymchwilio i broblemau sydd y tu allan i gwmpawd ein gwasanaeth neu broblemau y teimlwn sy'n anghyfiawn neu'n afresymol.
Canolbwyntio'n llwyr ar ymholiad neu gwyn unigol - rydym yn delio ag oddeutu 4,000 bob blwyddyn
Mynnu ymddiheuriad neu ad-daliad neu fynnu bod masnachwr yn datrys y mater i chi
Olrhain masnachwyr sy'n methu darparu cyfeiriadau llawn neu sydd wedi symud o'r ardal
Argymell masnachwyr unigol i chi
Gweler hefyd Cwestiynau a Ofynnir yn Aml Safonau Masnach
Mae'r pecyn hwn yn cynnwys gwybodaeth am nifer o faterion yn ymwneud â defnyddwyr megis:
Pecyn Cefnogi Defnyddwyr
Efallai yr hoffech lawrlwytho'r pecyn cyfan (60 tudalen) neu dudalennau penodol i'ch helpu â'ch cwyn.
Pecyn Cefnogi Defnyddwyr - Fersiwn Word 331Kb
Pecyn Cefnogi Defnyddwyr - Fersiwn PDF 806Kb ![]()
Pecyn Cefnogi Defnyddwyr - Fersiwn Testun Plaen 1.2Mb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Ffôn: 08454 04 05 05
Ebost: www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk
Rydym yn cynnig gwasanaeth calibro cynhwysfawr ar gyfer busnesau ac rydym yn cynnig calibradau ar sail cywirdeb M1 yn yr ystod 1mg - 25 kg.
Rydym yn gyfrifol am drwyddedu ar gyfer storio tân gwyllt, ffrwydradau, petrolewm (gan gynnwys cymysgeddau petrolewm), gwenwyn, a symud anifeiliaid (fel rhan o'r Drefn Trwyddedau Symud Anifeiliaid).
Rydym yn croesawu unrhyw gwestiynau gan ddefnyddwyr am y gwasanaeth a'r ddeddfwriaeth yr ydym yn ei gorfodi. Fel arfer, dim ond preswylwyr a masnachwyr o Wrecsam y gallwn eu cynorthwyo.
Defnyddiwch Eich ffurflen gwestiynau ar-lein sydd ar gael ar y wefan hon.
Mae Safonau Masnach yn cyflawni amrywiaeth eang o dasgau i amddiffyn defnyddwyr ac i helpu busnesau. Hoffem wybod beth yw eich barn am ein gwasanaeth, ein mentrau diweddar a sut y dylem ddatblygu'r gwasanaeth.
I ddweud eich barn wrthym, defnyddiwch Eich ffurflen rhoi barn ar-lein sydd ar gael ar y wefan hon.