Mae Tîm Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn darparu Cynllun Crefftwyr Cymeradwy ar gyfer yr ardal.
Mae’r Cynllun yn eich galluogi i ddod o hyd i grefftwr i wneud gwaith atgyweirio, cynnal a chadw neu wella ar eich eiddo sydd wedi’i gymeradwyo o dan y safon TrustMark.
TrustMark yw’r cynllun cymeradwy i grefftwyr a gefnogir gan y Llywodraeth sydd wedi’i gynllunio i sicrhau bod gan grefftwyr enw da a’u bod yn gwneud gwaith o ansawdd da. Mae busnesau sy’n dod yn aelodau o’r cynllun yn ymrwymo i wneud busnes mewn ffordd gyfreithiol, gonest a theg a chânt eu harchwilio a’u monitro gan Weithredwr Cynllun Trustmark. Rydym yn gweithio gydag Exor Management Sevices Limited i sicrhau y caiff ein Cynllun Cymeradwy i Grefftwyr ei reoli’n briodol yn unol â safonau TrustMark.
Er mwyn dod o hyd i grefftwr Trustmark cymeradwy yn eich ardal chi neu am fwy o wybodaeth am y cynllun cliciwch ar y ddolen isod:
http://wrexham.trustmark.org.uk (cyswllt allanol)Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?