Rôl y Gwasanaeth Safonau Masnach yw hyrwyddo a chynnal amgylchedd masnachu teg a diogel i ddefnyddwyr a busnesau. Rydyn ni’n gorfodi ac yn cynghori ar amrywiaeth eang o gyfreithiau defnyddwyr sy'n ymwneud â gwerthu a chyflenwi nwyddau a gwasanaethau.

Cawn ein cefnogi gan amryw o asiantaethau eraill wrth ddarparu'r gwasanaethau yma.

Cyngor y ddefnyddwyr

Mae cyngor i ddefnyddwyr ar gyfer trigolion Wrecsam yn cael ei ddarparu gan ein partneriaid Cyngor ar Bopeth drwy eu gwasanaeth cenedlaethol, Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Os hoffech gyngor ynglŷn â phroblem defnyddiwr ffoniwch Linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol) - fe allwch hefyd sgwrsio ar-lein neu lenwi ffurflen ymholiad ar-lein drwy ddefnyddio’r ddolen hon.

Cyngor busnes

Cyngor ar anghydfodau unigol gyda chwsmeriaid

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â mater penodol gyda chwsmer a nwyddau neu wasanaethau yr ydych wedi'u cyflenwi, neu wedi cytuno i'w cyflenwi, gallwch edrych ar wefan Business Companion. Mae Business Companion yn wefan a gefnogir gan y llywodraeth, sy'n rhoi arweiniad manwl ar gyfraith defnyddwyr.

Efallai y bydd rhywfaint o gyngor i fusnesau hefyd ar gael drwy linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol).

Cyngor ar gydymffurfio â chyfreithiau Safonau Masnach

Mae ein tîm Safonau Masnach yn rhoi cyngor i fusnesau sydd wedi'u lleoli yn Wrecsam, am gyfraith Safonau Masnach. 

Efallai y byddwch chi’n gallu dod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani ar wefan Business Companion (dolen gyswllt allanol).

 

Os oes angen cyngor neu gymorth pellach arnoch, gallwch e-bostio ein tîm Safonau Masnach yn tradstand@wrexham.gov.uk. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol yn eich e-bost:

  • Eich enw
  • Enw'r busnes
  • Cyfeiriad busnes
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost 

Byddwn yn ymateb i'ch ymholiad o fewn pum diwrnod gwaith i dderbyn yr wybodaeth yma.

Os yw eich busnes wedi'i leoli y tu allan i Wrecsam bydd angen i chi gyfeirio eich ymholiad at eich Gwasanaeth Safonau Masnach lleol eich hun. 

Iechyd a lles anifeiliaid

Fel awdurdod lleol mae dyletswydd arnom i:

  • ddiogelu lles anifeiliaid ar ffermydd, wrth iddynt gael eu cludo ac mewn marchnadoedd/lle mae llawer o anifeiliaid
  • atal, rheoli a dileu clefydau anifeiliaid
  • sicrhau bod modd olrhain symudiadau anifeiliaid er mwyn diogelu iechyd pobl ac anifeiliaid rhag clefydau a drosglwyddir.

Mae ein Harchwilwyr Iechyd a Lles Anifeiliaid yn ymweld yn rheolaidd â ffermydd, lladd-dai a marchnadoedd/ lle mae llawer o anifeiliaid. Maen nhw’n gweithio i sicrhau y cydymffurfir â'r gyfraith, yn ogystal ag addysgu a chynghori'r gymuned amaethyddol leol.

Trosedd ar stepen y drws

Byddwch yn ofalus bob amser wrth ateb eich drws i rywun nad ydych yn ei adnabod.

Weithiau mae pobl yn gallu dod at eich drws gyda’r bwriad o fynd i mewn i'ch cartref, neu roi pwysau arnoch i dalu am waith tŷ/gardd. Efallai y byddan nhw'n dweud wrthych:

  • bod angen trwsio eich to
  • eu bod yn gallu tarmacio eich lôn
  • bod angen torri coed
  • eu bod yn dod o'r cyngor neu gwmni dŵr a bod angen iddynt wirio rhywbeth y tu mewn i'ch eiddo

Gall y galwyr ffug yma fod yn wrywaidd, yn fenywaidd, yn hen neu'n ifanc, a gallan nhw fod ar eu pennau eu hunain neu mewn grŵp. Mae troseddau ar stepen y drws yn gallu effeithio ar unrhyw un ond mae pobl hŷn a rhai sy’n fwy agored i niwed yn aml yn cael eu targedu.

Beth i'w wneud ynghylch achos tybiedig o drosedd ar stepen y drws 

Ffoniwch 999 mewn argyfwng os bydd rhywun yn gwrthod gadael neu'n mynd yn ymosodol.

Os ydych chi’n credu bod galwr ffug wedi galw heibio, neu os ydych am roi gwybod am weithgarwch amheus, ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol).

Gallwch hefyd ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 (rhif nad yw'n argyfwng) neu ddefnyddio'r gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101 i roi gwybod am achosion tybiedig o droseddau ar stepen y drws. 

Helpwch i ofalu am eich ffrindiau, eich teulu a'ch cymdogion, a rhowch wybod am unrhyw weithgarwch amheus.

'Operation REPEAT'

Yn Safonau Masnach Cyngor Wrecsam, ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru, rydyn ni’n cefnogi ‘Operation REPEAT’.

Prif nod ‘Operation REPEAT’yw pwysleisio negeseuon allweddol am droseddau ar stepen y drws yn rheolaidd ac atal sgamiau sy’n targedu oedolion hŷn neu agored i niwed, drwy staff iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae gwefan ‘Operation REPEAT’yn rhoi arweiniad ar osgoi troseddau ar stepen y drws a throseddau sgâm, gan helpu hefyd i atal unrhyw un sydd eisoes wedi eu targedu gan droseddwyr mor ddidrugaredd rhag wynebu’r un profiad eto.

Sgamiau

Mae sgâm yn gynllun penodol i'ch twyllo a chael eich arian. Bydd sgamwyr yn cysylltu drwy e-bost, neges destun, ffôn, post a thrwy gyfryngau cymdeithasol.

Arwyddion i gadw llygad amdanynt er mwyn osgoi sgamiau

Mae sgamwyr yn dod yn fwy soffistigedig ond gallwch ddysgu adnabod yr arwyddion er mwyn osgoi sgamiau.

Mae'r enghreifftiau canlynol yn arwyddion cyffredin y gallai rhywun fod yn ceisio'ch twyllo:

  • Cynnig sy'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir – er enghraifft, gwyliau sy'n llawer rhatach nag y byddech yn ei ddisgwyl 
  • Rhywun nad ydych yn ei adnabod yn cysylltu â chi'n annisgwyl
  • Cael cais i roi gwybodaeth bersonol fel cyfrineiriau, PIN neu fanylion cyfrif banc
  • Gofyn i chi ganiatáu iddyn nhw gael mynediad i'ch cyfrifiadur o bell
  • Cael gwybod eich bod mewn perygl o golli arian os nad ydych yn dilyn cyfarwyddiadau ar unwaith
  • Gofyn i chi drosglwyddo arian yn gyflym
  • Cael cais i dalu mewn ffordd anarferol – er enghraifft, drwy dalebau iTunes neu drwy wasanaeth trosglwyddo fel MoneyGram neu'r Undeb Gorllewinol
  • Os ydych chi'n defnyddio apiau cael hyd i gymar neu wefannau sy'n chwilio am "dwyll rhamant" lle mae sgamwyr yn cymryd arnynt eu bod yn chwilio am bartner.

Os byddwch yn darganfod sgâm, rhybuddiwch eich ffrindiau a'ch teulu. Os ydych wedi dioddef gan sgamiau, ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol).

Benthycwyr arian didrwydded (benthyca arian anghyfreithlon)

Mae benthycwyr arian didrwydded yn bobl sy'n benthyg arian ond heb drwydded i wneud hynny. Maen nhw’n targedu pobl mewn anawsterau ac sy'n agored i niwed yn y gymuned, yn codi cyfraddau llog gormodol a dydyn nhw ddim yn darparu unrhyw gytundebau ysgrifenedig. Yn aml maen nhw’n cynyddu taliadau i'r rhai nad ydynt yn eu talu'n ôl ar amser, ynghyd â bygwth pobl sy'n defnyddio bygythiadau a thrais.

Os nad yw benthyciwr wedi'i drwyddedu o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr, mae'r benthyciad yn amhosibl ei orfodi. Does dim rhaid i chi ad-dalu'r arian yma.

Mae Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (UBAAC):

  • yn ymchwilio i droseddwyr sy'n benthyg arian yn anghyfreithlon
  • yn cefnogi dioddefwyr benthycwyr arian anghyfreithlon

Os ydych chi wedi cael eich targedu gan fenthycwyr arian didrwydded, neu'n meddwl bod benthyciwr arian didrwydded o bosibl yn gweithredu yn eich ardal, dylech gysylltu â UBAAC (mae’r manylion cyswllt ar dudalen we Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir).

Cyngor ynglŷn â dyledion

Os ydych chi’n cael trafferth gyda dyled neu broblemau ariannol gallwch gael cyngor drwy ffonio gwasanaeth ffôn cenedlaethol Cyngor ar Bopeth, Advicelink.

Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllawiau dyled ac arian ar eu gwefan.

Os ydych chi’n meddwl bod angen i chi fenthyg arian gallech ystyried siarad â'ch Undeb Credyd lleol.

Tybaco anghyfreithlon

Mae tybaco anghyfreithlon yn golygu sigaréts a thybaco rholio sydd ar gael i'w prynu am tua hanner cost arferol tybaco. Fel arfer mae'n cael ei werthu ar-lein a thrwy gyfryngau cymdeithasol, o dai preifat yn y gymuned yn ogystal ag o dan y cownter mewn rhai siopau hwylus ac yn y gweithle.

Mae ysmygu'n gaethiwus iawn sy'n golygu ei bod yn llawer anos stopio nag ydyw i ddechrau. Ysmygu yw'r achos unigol mwyaf o farwolaeth gynamserol yng Nghymru a'r DU. Bydd un o bob dau ysmygwr tymor hir yn marw'n gynnar o glefyd sy'n gysylltiedig ag ysmygu. Mae 5,500 o ysmygwyr yn marw'n gynamserol yng Nghymru bob blwyddyn oherwydd eu bod yn ysmygu.

Mae pris isel tybaco anghyfreithlon a’r ffaith ei fod ar gael yn hawdd yn ei gwneud yn llawer haws i blant gael gafael ar sigaréts a mynd yn gaeth iddyn nhw am byth. Mae tua 10,000 o blant yn mynd yn gaeth i ysmygu bob blwyddyn yng Nghymru.

Os ydych chi’n gwybod am dybaco anghyfreithlon sydd ar werth yn Wrecsam gallwch roi gwybod i Safonau Masnach drwy e-bostio tradstand@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol).

Gwerthu nwyddau â chyfyngiad oed

Dim ond i bobl y mae'r gyfraith yn dweud eu bod yn ddigon hen y gellir gwerthu llawer o nwyddau.

Dyma rai o'r nwyddau mwyaf cyffredin sydd â chyfyngiad oed (ond mae llawer o rai eraill):

  • Alcohol
  • Sigaréts a chynhyrchion tybaco eraill
  • Tân gwyllt
  • Cyllyll ac arfau tramgwyddus tebyg

Mae'n anghyfreithlon gwerthu unrhyw un o'r nwyddau yma i bobl o dan 18 oed. Mae'r terfyn oedran yn wahanol ar gyfer rhai nwyddau eraill sydd â chyfyngiad oed.

Mae Safonau Masnach yn gweithio i sicrhau nad yw nwyddau fel y rhain yn cael eu gwerthu i bobl nad ydyn nhw’n ddigon hen i'w prynu. Rydyn ni’n rhoi cyngor i fanwerthwyr i'w helpu i gydymffurfio â'r gyfraith ac rydyn ni’n ymweld â manwerthwyr i sicrhau eu bod yn cymryd rhagofalon.

Rydyn ni hefyd yn cynnal ymgyrchoedd siopwyr cudd i sicrhau nad yw manwerthwyr yn gwerthu i gwsmeriaid dan oed. 

Canllawiau i fusnesau

Nwyddau ffug

Mae nwyddau ffug yn edrych fel yr eitem go iawn drwy ddefnyddio logos brand gwarchodedig a nodau masnach gan frandiau uchel eu proffil. Maen nhw fel arfer yn rhatach na'r eitem wirioneddol, ond mae'r ansawdd yn wael, maen nhw’n gallu bod yn anniogel, ac mewn rhai achosion yn beryglus iawn.

Mae gwneud a gwerthu nwyddau ffug yn anghyfreithlon. Mae nwyddau ffug yn gallu niweidio defnyddwyr, ond maen nhw hefyd yn niweidio busnesau cyfreithlon ac yn bygwth swyddi eu gweithwyr.

Sylwi ar nwyddau ffug

Ystyriwch y cwestiynau canlynol pan fyddwch yn penderfynu a ydych chi am brynu nwyddau:

  • Nwyddau – ydyn nhw’n nwyddau premiwm apelgar iawn?
  • Pris – ai dyma'r pris arferol y byddech yn disgwyl ei dalu am y nwyddau – neu ydyn nhw’n llawer rhatach?
  • Lle – fyddech chi'n disgwyl gallu prynu'r brand yma yn y ffordd yma?

Mae nwyddau ffug fel arfer yn cael eu gwerthu ar-lein, drwy gyfryngau cymdeithasol, mewn marchnadoedd stryd, gwerthiannau cist car ac yn y gweithle.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sy'n gwerthu nwyddau ffug dylech roi gwybod amdanynt - gallwch wneud hyn drwy'r Cyngor ar Bopeth.

Enghreifftiau o eitemau cyffredin ffug

  • Dillad ac esgidiau
  • Bagiau llaw a sbectol haul
  • Oriawr a gemwaith
  • Persawr a chosmetigau
  • Raseli a phast dannedd
  • Batris
  • Sythwyr gwallt 
  • Teganau plant
  • Alcohol fel fodca, jin a wisgi
  • Meddyginiaethau a chondomau
     

Dolenni perthnasol