Mae coed a choetiroedd yn elfen hanfodol o dreflun a thirwedd y Fwrdeistref Sirol ac yn rhan annatod o les, iechyd ac ansawdd bywyd i bawb sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â Wrecsam.

Mae coed yn ychwanegu gwerth amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol i'r fwrdeistref sirol. Fodd bynnag, ni ellir cymryd y dyfodol yn ganiataol, mae newid hinsawdd, plâu ac afiechydon, datblygiad, ymarferion amaethyddol modern a chanfyddiadau anghywir o ran risg yn rai o’r problemau sy’n bygwth ein coed. 

Nod ein Strategaeth Coed a Choetiroedd yw bod gennym boblogaeth coed iach ac amrywiol wedi’i warchod a’i reoli’n gynaliadwy gyda digon o orchudd canopi i gael budd ac i ddiwallu anghenion pawb sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â Bwrdeistref Sirol Wrecsam. 

Rydym ni (Cyngor Wrecsam) wedi datblygu’r ‘Addewid Coetiroedd’ canlynol i ddangos ein hymrwymiad i gynyddu gorchudd coed, ac amddiffyn coetiroedd sy’n bodoli ar draws y fwrdeistref sirol. 

  1. Rydym yn cydnabod cyfraniad allweddol y mae coed yn ei wneud i’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd. 
  2. Rydym yn cydnabod a gwerthfawrogi’r amrywiol fuddiannau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd a geir gan goed a choetiroedd. 
  3. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn a chadw coed a choetiroedd. 
  4. Rydym wedi ymrwymo i greu ardaloedd ychwanegol o goetiroedd, a phlannu coed.
  5. Rydym yn gweld coed a choetiroedd fel rhan o’n hisadeiledd hanfodol. 
  6. Byddwn yn cynllunio ar gyfer tirwedd a chymunedau mwy gwyrdd. 
  7. Byddwn yn gwella iechyd a lles trwy annog a galluogi cysylltiadau gyda natur a choetiroedd. 
  8. Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau lleol wrth reoli, amddiffyn a gwella coed a choetiroedd. 
  9. Byddwn yn edrych am gyfleoedd i weithio gydag amrywiol bartneriaid i wneud y mwyaf o gyfleoedd i greu ac amddiffyn coetiroedd ar draws y Fwrdeistref Sirol e.e. Coedwig Wrecsam. 
  10. Rydym yn adnewyddu ein hymrwymiad i sicrhau fod nodau ac amcanion ein Strategaeth Coed a Choetiroedd yn gallu cael eu cyflawni.