Canlyniadau'r holiadur ar gyfer Strategaeth Goed y Cyngor

Canlyniadau'r holiadur ar gyfer Strategaeth Goed y Cyngor

Fel rhan o’r ymgynghoriad ar gyfer Strategaeth Goed newydd y Cyngor, roeddem yn awyddus i gael eich barn am goed yn gyffredinol. Yn fwy penodol, roeddem am wybod eich barn ynghylch sut y dylem drin coed Wrecsam a sut a lle y dylem ganolbwyntio ein hamser a’n hymdrechion yn y dyfodol. Bydd y canlyniadau hyn yn rhan o’r strategaeth.

Diolch i’r rhai hynny ohonoch a lanwodd yr holiadur.

Roedd yr ymateb a gawsom yn hynod o galonogol ac yn profi bod coed yn rhan bwysig o fywyd i bobl Wrecsam.  Rydym wedi ymgynghori â thenantiaid tai, ysgolion, grwpiau o bobl ag anableddau, grwpiau ieuenctid, pobl a ofynnodd am holiaduron drwy gyfryngau lleol a phobl a atebodd ein holiadur ar-lein. 

Cawsom 283 o ymatebion mewn 2 fis.  Cyflwynwyd 183 ohonynt ar ein gwefan a daeth y gweddill oddi wrth yr amrywiaeth o grwpiau a phobl a enwir uchod. 

Cyflwynom nifer o ddatganiadau a chwestiynau i chi gan roi dewis o atebion i chi.  Yn dilyn y dudalen hon, rhestrir y datganiadau ynghyd â’r ymatebion a dderbyniom. 

Diolch unwaith eto i’r rhai a ymatebodd, rydym yn gobeithio eich bod yn fodlon gyda’r canlyniadau.

Results for council tree strategy questionnaire

Canlyniadau'r holiadur ar gyfer Strategaeth Goed y Cyngor

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Canlyniadau'r holiadur ar gyfer Strategaeth Goed y Cyngor - Fersiwn Word 430Kb

Canlyniadau'r holiadur ar gyfer Strategaeth Goed y Cyngor - Fersiwn PDF 409Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig