Amgylchedd Gwyrdd

Llun o cwch ar y  afonWedi ei leoli yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, gyda mynyddoedd Clwyd ar ei ffin orllewinol ac ardaloedd gwledig bryniog Sir Amwythig i'r de, cynigia'r Fwrdeistref Sirol amgylchedd amrywiol a diddorol. Yn gorchuddio ardal o 50,500 hectarau phoblogaeth o 125,000 mae gan y Fwrdeistref Sirol ddigon i'w gynnig pa un a ydych yn dwrist, yn ddarpar breswylydd neu'n fusnes yn ceisio ehangu neu adleoli.

Yr amgylchfyd lleol yw un o adnoddau pwysicaf Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae'n gydran hanfodol yn ansawdd bywyd y preswylwyr ac yn natblygiad llwyddiannus mentrau diwydiannol a thwristiaeth.

Mae polisau cynllunio effeithiol a rheolau datblygu sensitif yn sicrhau bod datblygu a diogelu'r amgylchfyd yn cael eu cydbwyso'n ofalus. Y nod yw sicrhau bod y newidiadau angenrheidiol yn parchu ac yn cyfannu cymeriad yr amgylchedd.

yn ôl i'r brig

Ceir nifer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy'n bodoli er mwyn diogelu planhigion, ffawna, nodweddion daearegol a ffisiograffig yn Wrecsam. Mae'r safleoedd hyn yn cyfannu tirlun cyfoethog o fewn ardaloedd amrywiol o gefn gwlad o Fynydd Rhiwabon ym mynyddoedd y Berwyn i Ddyffryn Ffrith a rhannau o Ddyffrynnoedd y Ddyfrdwy a Cheiriog.

Mae olion archaeolegol yn rhan bwysig o dreftadaeth y Fwrdeistref Sirol ac yn rhoi cofnod o hanes a diwylliant yr ardal leol. Maent yn bwysig o ran y wybodaeth a ddarparant am y gorffennol ac o ran eu swyddogaeth mewn addysg, hamdden a thwristiaeth.

yn ôl i'r brig