Prif ffynonellau llygru'r awyr yn y DU yw cludiant a diwydiant.
Cludiant ffordd yw prif ffynhonnell nifer o lygrwyr yr awyr, gan gynnwys bensen, deuocsid nitrogen, monocsid carbon, gronynnau a phlwm. Drwy'r blynyddoedd daeth nifer o fesurau i rym yn y DU i dynhau'r rheolau ar allyriadau o gerbydau modur. Fodd bynnag collwyd mwy na'r enillion hyn oherwydd bod faint o draffig sydd ar y ffyrdd wedi tyfu mor gyflym. Felly bydd allyriadau traffig ffordd yn aros yn un o broblemau mwyaf llygru'r awyr yn y DU.
Mae Adran Diogelu'r Cyhoedd yn cadw cofrestr o'r holl brosesau diwydiannol yn y Fwrdeistref Sirol a all achosi llygredd. Daw'r prosesau hyn dan reolaeth y Cyngor neu Asiantaeth yr Amgylchedd.
Prosesau Rhan A yw'r rhai sy'n cael eu rheoli gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac wedi eu diffinio fel prosesau sydd â'r gallu i lygru dwr, tir a'r awyr.
Prosesau Rhan B yw'r rhai gyda llai o allyriadau llygrol tebygol a dim ond yr allyriadau i'r awyr sydd wedi eu rheoli. Cyfrifoldeb CBS Wrecsam yw rheoli'r prosesau hyn.