Sut Mae Llygredd Awyr yn Cael ei Fesur?

Mae Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cadw golwg ar lygru’r awyr mewn dwy ffordd, awtomatig ac â llaw.

Arolygu Awtomatig

Mae dwy orsaf fesur awtomatig yn y Fwrdeistref Sirol. Mae un yn agos at dref Wrecsam (Ffordd Buddug) a’r llall ger Stad Ddiwydiannol Wrecsam (Is-y-coed). Mae manylion a lefelau presennol Ansawdd yr Awyr o’r ddau safle i’w cael trwy ddilyn un o’r ddwy ddolen isod:

Fforwm Ansawdd Awyr Cymru
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae’r ddwy orsaf yn mesur ocsidau nitrogen (NOx), sylffwr deuocsid (SO2) a gronynnau (PM10) yn barhaol. Nid yw techneg mesur PM10 yn digwydd ar y pryd ac, felly, dim ond gwybodaeth hanesyddol sydd i’w gweld ar gyfer y ddau safle trwy ddilyn y ddolen gyswllt hon (www.welshairquality.co.uk/data_and_statistics.php) a rhoi’r wybodaeth ofynnol.

Mae gorsaf Ffordd Buddug yn rhan o’r Rhwydwaith Trefol a Gwledig Awtomatig (AURN) sy’n rhwydwaith o orsafoedd Ansawdd yr Awyr sydd yn cwmpasu Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ogystal â Chymru. Mae gorsaf Is-y-coed yn aelod o rwydwaith Ansawdd Awyr Cymru.


Yr Orsaf Rhwydwaith Trefol a Gwledig Awtomatig ar Ffordd Buddug


Tu mewn i'r Orsaf Rhwydwaith Trefol a Gwledig Awtomatig

Arolygu â Llaw

Mae amryw ddulliau arolygu â llaw (hefyd yn cael ei alw’n arolygu goddefol) ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn defnyddio tri gwahanol fath o dechnoleg:

  • Tiwbiau Gwasgariad
  • Monitor PM10 Partisol Plus
  • Ffrisbi Llwch

Tiwbiau Gwasgariad

Mae tiwbiau gwasgariad yn ffordd syml a chost-effeithiol o fesur llygryddion dros gyfnod (fel arfer am fis) ac mae Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd yn defnyddio’r tiwbiau hyn i gadw golwg ar bedwar math o lygredd:

  • Nitrogen deuocsid (y math o diwb sydd i’w weld ar y chwith yn y darlun isod)
  • Sylffwr deuocsid
  • Osôn
  • Bensen (y math o diwb sydd i’w weld ar y dde yn y darlun isod)


Tiwbiau gwasgariad: Nitrogen deuocsid (ar y chwith) a Bensen (ar y dde)

Caiff dros ugain o diwbiau gwasgariad eu hamlygu ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol pob mis. Ar ddiwedd pob mis caiff y tiwbiau a amlygodd eu hanfon i labordy annibynnol i’w dadansoddi ac mae’r canlyniadau diweddaraf yn ogystal â data hŷn i’w gweld.

Monitor Gronynnol PM10

Ar hyn o bryd mae gronynnau (PM10) yn cael eu mesur mewn dau leoliad yn y Fwrdeistref Sirol gan ddefnyddio monitorau Partisol Plus. Mae’r Partisol hyn yn tynnu awyr dros hidlydd a bwyswyd o flaen llaw dros gyfnod o bedair awr ar hugain. Ar ôl ei amlygu caiff yr hidlydd ei ailbwyso a bydd cyfrifiad syml yn dangos faint o Ronynnau sydd yn yr ardal.


Monitor Partisol Plus PM10

Ffrisbi Llwch

Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd yn defnyddio dau ffrisbi llwch i fesur llwch yn y Fwrdeistref Sirol. Mae’r dechneg hon yn mesur darnau llwch mwy na’r monitorau PM10 Partisol Plus a ddisgrifiwyd uchod, ac maent yn canolbwyntio mwy ar y faint y niwsans na’r goblygiadau iechyd a bennwyd yn Safonau Ansawdd yr Awyr.

Mae’r ffrisbis yn gweithio trwy gasglu llwch sy’n disgyn o’r atmosffer ar y ffrisibi, sydd wedyn yn cael ei olchi i lawr i botel gasglu gan y glaw. Yna caiff y botel ei hanfon i labordy annibynnol lle caiff y llwch ei hidlo o’r dŵr glaw a’i bwyso. Yna mae cyfrifiad syml yn caniatáu mesur faint o lwch sydd yn yr ardal arolygu bob dydd.


Ffrisbi Llwch

yn ôl i'r brig