Mesur Ansawdd yr Awyr

Llygryddion a gafodd neu sy’n cael eu mesur ar hyn o bryd yn y Fwrdeistref Sirol:

Nitrogen Deuocsid (NO2) ac Ocsidiau Nitrogen (NOx)

NOx yw’r term cyffredinol am Ocsidau Nitrogen ac mae’n cynnwys Nitrogen Ocsid (NO) a Nitrogen Deuocsid (NO2). Nid yw Nitrogen Ocsid yn cael ei ystyried yn niweidiol i iechyd ond, unwaith y caiff ei ollwng i’r atmosffer, mae’n ocsideiddio’n gyflym i Nitrogen Deuocsid, sy’n cael ei ystyried yn niweidiol i iechyd ac, felly, yn cael ei reoleiddio.

Prif ffynonellau Nitrogen Ocsid yw cerbydau a phrosesau ymlosgiad diwydiannol. Mae arolygu parhaol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dangos bod lefelau NO2 islaw targedau Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000, ac mae’n debygol o aros felly.

Prif bryderon iechyd dod i gysylltiad â mwy o Nitrogen Deuocsid yw llid yr ysgyfaint a llai o wrthsafiad i heintiau anadlol. Gall dod i gysylltiad hir gynyddu salwch anadlu enbyd mewn plant.

Sylffwr Deuocsid (SO2)

Prif ffynhonnell Sylffwr Deuocsid (SO2) yw llosgi tanwydd sy’n cynnwys sylffwr (glo neu olew trwm yn nodweddiadol). Prif ffynhonnell y DU yw gorsafoedd trydan sy’n dal i losgi’r tanwyddau ffosiledig hyn, er y gall llosgi glo mewn cartrefi hefyd beri lefelau uchel o SO2 yn lleol. Mae arolygu parhaol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dangos bod lefelau SO2 islaw targedau Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000, ac yn debygol o aros felly.

Pobl gydag asthma fydd yn dioddef fwyaf o ddod i gysylltiad â SO2. Mae tyndra yn y frest a phesychu’n digwydd pan fydd lefelau’n uchel, a gall fennu ar weithrediad ysgyfaint pobl gydag asthma i’r graddau fod angen cymorth meddygol. Mae llygredd sylffwr deuocsid yn cael ei ystyried yn fwy niweidiol mewn cyfuniad â llygredd arall pan fo lefelau’n uchel.

Mwg

Prif ffynhonnell mwg yw prosesau llosgi diwydiannol a domestig. Mae mwyafrif tref Wrecam yn ardal rheoli mwg er mwyn lleihau llygredd o simneiau tai yn y Fwrdeistref Sirol drwy wahardd pobl rhag llosgi tanwydd fel (mathau penodol o) lo a phren ar danau agored. Gofynnir i eiddo diwydiannol a masnach weithredu dan y Ddeddf Awyr Glân sy'n gwahardd rhyddhau mwg tywyll oni bai bod ffwrnais oer yn cael ei chynnau, mae methiant mecanyddol neu nad oes tanwydd addas ar gael.

Nid yw mwg yn cael ei grybwyll yn benodol yn Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000, er bod llawer o’r llygryddion eraill sy’n cael eu hachosi wrth losgi tanwydd soled (e.e. SO2, PM10, ac ati).

Pobl gydag asthma a phroblemau anadlu eraill fydd yn teimlo effaith mwg fwyaf ac yn bennaf bydd yn peri anhawster anadlu, yn ogystal â’r pryderon iechyd a restrwyd ar gyfer SO2 a PM10 yn dibynnu ar y math o danwydd sy’n cael ei losgi.

Carbon Monocsid (CO)

Prif ffynhonnell Carbon Monocsid yw cludiant ffordd eto a cherbydau peiriant petrol yn arbennig. Mae’n cael ei gynhyrchu trwy losgi tanwydd yn anghyflawn neu aneffeithlon. Mae arolygu parhaol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dangos bod lefelau CO islaw targedau Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000, ac yn debygol o aros felly.

Yr effeithiau ar iechyd o ddod i gysylltiad yw bod Carbon Monocsid yn atal ocsigen rhag cael ei gludo fel arfer yn y llif gwaed, sy’n gallu effeithio ar bobl sy’n dioddef o glefyd y galon.

Osôn (O3)

Nid yw osôn yn cael ei ollwng yn uniongyrchol gan unrhyw broses ddynol mewn symiau sylweddol. Mae'n cael ei ffurio gan yr adwaith cemegol a achosir gan heulwen ar gyfansoddiadau organig anweddol (VOC) a nitrogen ocsid (NOx). Nid yw'r adweithiau'n digwydd ar unwaith a gallant gymryd hyd at sawl diwrnod i gwblhau a all olygu bod y gollyngiadau NOx a/neu VOC gwreiddiol a achosodd yr oson wedi digwydd sawl milltir i ffwrdd.

Gollyngir VOC o gerbydau a phrosesau llosgi diwydiannol yn debyg i NO ond gall ddeillio o ddefnyddio toddyddion a phetrol hefyd. Mae monitro ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dangos bod lefelau O3 yn is na'r targedau a amlinellir yn Rheoliadau Ansawdd Awyr (Cymru) 2000 a'u bod yn debygol o aros yn isel.

Mae osôn yn llidio'r ysgyfaint a all waethygu symptomau pobl sy'n dioddef o asthma ac afiechydon yr ysgyfaint.

Gronynnau Mân (PM10)

Term yw gronynnau mân sy’n cwmpasu popeth o ran amrywiaeth eang o ddeunyddiau sy’n deillio o amrywiaeth o ffynonellau:

  1. Ffynonellau ymlosgiad (traffig ffordd yn bennaf);
  2. Gronynnau eilaidd, sylffad a nitrad yn bennaf, sy’n cael eu ffurfio trwy adweithiau cemegol yn yr atmosffer, ac yn aml cael eu cludo o bell ar draws Ewrop;
  3. Gronynnau bras, priddoedd mewn daliant a llwch (e.e. o’r Sahara), halen y môr, gronynnau biolegol a gronynnau o waith adeiladu.

Caiff maint gronynnau mân eu disgrifio mewn nifer o wahanol ffyrdd, gyda PM10 yn cyfeirio at ronynnau gyda diamedr erodynamig o 10 µm (h.y. 10 miliynfed o fetr). Hyd yma mae strategaethau Ansawdd yr Awyr wedi canolbwyntio ar PM10 oherwydd ei effaith ar iechyd, er bod diddordeb mewn PM2.5 yn cynyddu hefyd. Mae arolygu parhaol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dangos bod lefelau PM10 islaw targedau Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000, ac yn debygol o aros felly.

Mae gronynnau mân yn gallu treiddio’n ddwfn i’r ysgyfaint lle gallant achosi llid a gwaethygu cyflwr pobl gyda chlefydau’r galon a’r ysgyfaint. Yn ogystal, gallant gludo cyfansoddion carsinogenig a amsugnwyd o arwynebau i’r ysgyfaint.

Bensin (CcHc)

Cyfansoddyn Organig Anweddol (VOC) yw Bensen sy’n un o fân gyfansoddion petrol. Prif ffynonellau bensen yn yr atmosffer yn Ewrop yw dosbarthu a llosgi petrol. O’r rhain, cerbydau petrol yw’r ffynhonnell unigol fwyaf (70% o gyfanswm yr allyriadau). Mae arolygu parhaol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dangos bod lefelau Bensen islaw targedau Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000, ac yn debygol o aros felly.

Mae’r effeithiau hirfaith ar iechyd cysylltiedig â Bensen yn cynnwys canser, anhwylderau’r system nerfol ganolog, niwed i’r iau a’r arennau, anhwylderau atgenhedlol a namau genedigol.

Yn ogystal â llygrwyr rheoledig yr awyr uchod mae’r Adran Tai a Diogelu’r Cyhoedd hefyd yn cadw golwg ar lygryddion hedegog eraill ac un enghraifft o hyn yw Fformaldehyd.

Fformaldehyd (HCHO)

Nwy di-liw yw fformaldehyd gydag aroglau egr. Mae’n digwydd yn naturiol, fel canolwr yn y cylch methan ac mae hefyd yn digwydd yng nghyfnodau cynnar pydru planhigion yn y pridd. Ffynonellau gwneud yw ceir heb drawsnewidyddion catalytig. Ffynonellau eraill o waith dyn yw allyriadau o broses gynhyrchu a threulio fformaldehyd, e.e. gludiau wrth gynhyrchu bwrdd gronynnau, bwrdd ffibrau a phren haenog. Yn ogystal bydd ysmygu sigaréts yn arwain at amlygiad uniongyrchol i fformaldehyd. Mae fformaldehyd yn yr atmosffer yn dadelfennu’n rhwydd i garbon deuocsid yng ngolau’r haul.

Mae fformaldehyd yn llidio’r llygaid a’r llwnc. Pan fydd mwy ohono, gall waethygu symptomau’r rhai gyda phryderon anadlol.

Ar hyn o bryd nad oes crynoadau digonol o weddill y llygryddion yn safonau ansawdd yr awyr Cymru a’r DU yn y Fwrdeistref Sirol i gyfiawnhau eu harolygu. Fodd bynnag, mae Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd yn dal yn ymwybodol o brosesau presennol yn y Fwrdeistref Sirol a phrosesau newydd sy’n cael eu cynnig. Felly, os bydd rhaid, mae modd ymestyn arolygu i gynnwys y llygrwyr eraill hyn.

yn ôl i'r brig