Adroddiadau Ansawdd yr Awyr

Mae’n ddyletswydd ar bob awdurdod lleol i archwilio ansawdd yr awyr yn eu hardal er mwyn gweld a yw ansawdd yr awyr yn cyrraedd safonau ac amcanion. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyflwyno ei Adroddiadau Ansawdd yr Awyr bob blwyddyn ac mae’n eu cyhoeddi ar y dudalen we hon unwaith y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi derbyn y casgliadau.

Adroddiad Cyfnod 1

Nod yr Adolygiad Cyfnod 1 yw penderfynu a yw unrhyw ffynonellau presennol neu arfaethedig ‘arwyddocaol’ o’r llygrwyr rheoledig yn annhebygol o gyrraedd safonau ansawdd yr awyr. Dangosodd Adolygiad Cyfnod 1 Strategaeth Ansawdd yr Awyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam bod angen ymchwiliad mwy ar ronynnau (PM10) ac ocsidau nitrogen (NOx) i benderfynu a fyddai’r safonau ac amcanion yn cael eu cyrraedd.

Adroddiad Cyfnod 1

Gallwch lawrlwytho'r adroddiad yn y fformatau isod.

Adroddiad Cyfnod 1 - Fersiwn Word 143Kb

Adroddiad Cyfnod 1 - Fersiwn PDF 334Kb

Adroddiad Cyfnod 1 - Fersiwn RTF 185Kb

Adroddiad Cyfnod 2

Os yw’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr Adolygiad Cyfnod 1 yn awgrymu fod safonau’n annhebygol o gael eu cyrraedd, dylid gwneud asesiad manylach dan yr Adolygiad Cyfnod 2. Dangosodd Adolygiad Cyfnod 2 Ansawdd yr Awyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam bod ffynonellau diwydiannol yn annhebygol o dorri safonau NOx a gronynnau ac na fyddai allyriadau traffig ffordd yn torri safonau PM10 na NOx. Fodd bynnag roedd angen data ychwanegol i benderfynu a oedd llosgi glo mewn cartrefi’n debygol o dorri safonau SO2 a PM10.

Adroddiad Cyfnod 2

Gallwch lawrlwytho'r adroddiad yn y fformatau isod.

Adroddiad Cyfnod 2 - Fersiwn Word 253Kb

Adroddiad Cyfnod 2 - Fersiwn PDF 472Kb

Adroddiad Cyfnod 2 - Fersiwn RTF 343Kb

Adroddiad Cyfnod 3

Os yw Adolygiadau Cyfnod 1 a 2 yn dangos bod safonau ansawdd yr awyr yn annhebygol o gael eu cyrraedd yna bydd yr awdurdod lleol yn cynnal adolygiad ac asesiad trydydd cyfnod o ansawdd yr awyr manwl a chywir. Os yw hyn yn penderfynu bod tebygolrwydd problem lygredd benodol, fe all ‘Ardal Rheoli Ansawdd yr Awyr’ (AQMA) gael ei datgan, a chynllun gweithredu gael ei lunio er mwyn dod â llygrydd o fewn Safonau Ansawdd yr Awyr erbyn y flwyddyn 2005.

Adroddiad Cyfnod 3

Gallwch lawrlwytho'r adroddiad yn y fformatau isod.

Adroddiad Cyfnod 3 - Fersiwn Word 222Kb

Adroddiad Cyfnod 3 - Fersiwn PDF 315Kb

Adroddiad Cyfnod 3 - Fersiwn RTF 326Kb

Adroddiad Cyfnod 4

Os caiff AQMA ei ddatgan bydd Adolygiad Cyfnod 4 yn cyflwyno cynllun gweithredu sy’n manylu ar yr amrywiol fesurau a dyddiadau targed ar gyfer cyrraedd safonau gofynnol ansawdd yr awyr. Bydd y cynllun gweithredu’n cael ei adolygu o ganlyniad.

Diweddariad ac Asesiad Sgrinio (USA) 2003

Bwriad yr USA yw nodi newidiadau arwyddocaol all fod wedi digwydd ers y cylch cyntaf o Adolygu ac Asesu, all arwain at berygl methu cyrraedd safonau ansawdd yr awyr. Yn aml byddant yn hysbysu data arolygu newydd, ffynonellau allyrru newydd neu fwy, fel cwmnïau diwydiannol newydd neu unrhyw newidiadau all fod wedi cael eu gwneud i safonau ansawdd yr awyr.

Adroddiad ac Atodiad USA

Adroddiad USA - Fersiwn Word 1.78Mb

Adroddiad USA - Fersiwn PDF 1.07Mb

Atodiad i’r Adroddiad USA - Fersiwn PDF 1.96Mb

Adroddiad Gwaith 2004/2004

Mae’r adroddiad gwaith yn barhad o’r drefn Adolygu ac Asesu sy’n gorfod, fel yr USA, ystyried data arolygu newydd a ffynonellau allyriadau newydd neu fwy. Mae hefyd yn nodi ceisiadau cynllunio newydd all effeithio ar ansawdd yr awyr, fel datblygiad masnachol mawr all beri cynnydd mewn traffig ffordd a llygru cysylltiedig.

Adroddiad Gwaith 2004/2004

Adroddiad Gwaith 2004/2004 - Fersiwn Word 1.0Mb

Adroddiad Gwaith 2004/2004 - Fersiwn PDF 858Kb

Asesiad Diweddaru a Sgrinio 2005 (USA)

Mae hyn yn ailadrodd y broses USA a ddisgrifiwyd uchod lle’r ystyriwyd y bu unrhyw newidiadau arwyddocaol ers yr USA diwethaf neu ddatblygiadau newydd, all arwain at berygl methu cyrraedd Safonau Ansawdd yr Awyr. Mae’r adroddiad hefyd yn edrych eto ar lygrwyr tebygol nad oedd angen ei wneud efallai dan feini prawf yr Adroddiad Gwaith, er enghraifft ffynonellau traffig a ystyriwyd o’r blaen.

USA 2005

USA 2005 - Fersiwn Word 5.0Mb

USA 2005 - Fersiwn PDF 1.6Mb

Adroddiad Gwaith 2006

Mae’r adroddiad hwn yn barhad o’r USA uchod (2005) ac mae’n mesur ansawdd yr awyr yn y Fwrdeistref Sirol yn 2006. Mae’n edrych yn bennaf ar yr arolygu a wnaed yn ystod y flwyddyn yn ogystal â nodi a oes unrhyw ffynonellau newydd all fynd dros Amcanion Ansawdd yr Awyr.

Adroddiad Gwaith 2006

Adroddiad Gwaith 2006 - Fersiwn Word 1.5Mb

Adroddiad Gwaith 2006 - Fersiwn PDF 1Mb

Adroddiad Gwaith 2007

Mae’r adroddiad hwn yn barhad o’r USA uchod (2006) ac mae’n mesur ansawdd yr awyr yn y Fwrdeistref Sirol yn 2007. Mae’n edrych yn bennaf ar yr arolygu a wnaed yn ystod y flwyddyn yn ogystal â nodi a oes unrhyw ffynonellau newydd all fynd dros Amcanion Ansawdd yr Awyr mewn ardal.

Adroddiad Gwaith 2007

Adroddiad Gwaith 2007 - Fersiwn Word 1.5Mb

Adroddiad Gwaith 2007 - Fersiwn PDF 860Kb

Diweddariad ac Asesiad Sgrinio 2008

Mae’r Diweddariad ac Asesiad Sgrinio (USA) hwn yn ystyried unrhyw newidiadau arwyddocaol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ers USA 2005. Mae hefyd yn nodi unrhyw ffynonellau ansawdd aer gwael all fod ac a nodwyd ers Adroddiad Gwaith 2007.

Adroddiad Gwaith 2008

Diweddariad ac Asesiad Sgrinio - Fersiwn Word 1.8Mb

Diweddariad ac Asesiad Sgrinio - Fersiwn PDF 863Kb

Adroddiad Cynnydd 2009

Parhad o’r Asesiad Diweddaru a Sgrinio (2008) uchod yw’r adroddiad hwn ac mae e’n gwerthuso beth yw Ansawdd yr Aer yn y Fwrdeistref Sirol ar gyfer 2009. Yn bennaf mae e’n ymdrin â’r gwaith monitro a wnaed yn ystod y flwyddyn ac hefyd yn dweud yn union a oes unrhyw ffynonellau newydd a allai arwain at ganlyniadau sy’n mynd y tu hwnt i’r Amcanion Ansawdd Aer mewn unrhyw ardal benodol.

Adroddiad Gwaith 2009

Adroddiad Cynnydd 2009 - Fersiwn Word 1.5Mb

Adroddiad Cynnydd 2009 - Fersiwn PDF 965Kb

Adroddiad Cynnydd 2010

Parhad o’r Adroddiad Gwaith uchod (2009) yw’r adroddiad hwn ac mae’n cloriannu ansawdd awyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystod 2010. Mae’n ymwneud yn bennaf â’r gwaith mesur a wnaed gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn yn ogystal â cheisio nodi unrhyw ffynonellau neu ddatblygiadau newydd a allai arwain at fethu cyrraedd Amcanion Ansawdd yr Awyr yn Wrecsam.

Adroddiad Gwaith 2010

Adroddiad Cynnydd 2010 - Fersiwn Word 1.1Mb

Adroddiad Cynnydd 2010 - Fersiwn PDF 1.3Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

Mae'n bosibl bod adroddiadau hyn ar gael ar bapur cysylltwch â ni er mwyn cael gwybod.

yn ôl i'r brig