Lle mae Llygredd yr Awyr yn Cael ei Fesur yn y Fwrdeistref Sirol?

Mae Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd yn mesur llygredd yr awyr mewn mannau niferus drwy’r Fwrdeistref Sirol gyfan gan ddefnyddio llawer o wahanol dechnegau:

Awtomatig

Mae dwy orsaf awtomatig Ansawdd yr Awyr, un yn Ffordd Buddug ac un yn Is-y-coed yn mesur y canlynol yn barhaol:

  • Ocsidiau nitrogen (NOx)
  • Sylffwr deuocsid (SO2)

Mae’r gorsafoedd hefyd yn mesur Gronynnau (PM10) er, oherwydd technoleg y monitor, nid yw’n rhoi canlyniadau ar y pryd gan fod angen eu penderfynu mewn labordy.

Caiff y ddau safle eu gweithredu ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae gorsaf Ffordd Buddug hefyd yn aelod o’r Rhwydwaith Trefol a Gwledig Awtomatig (AURN) sy’n rhwydwaith cenedlaethol o orsafoedd mesur Ansawdd yr Awyr.

Tiwbiau Gwasgariad

Dyma’r dechneg mesur ansawdd yr awyr sy’n cael ei defnyddio fwyaf gan yr Adran Tai a Diogelu’r Cyhoedd. Ar hyn o bryd mae dros ugain o diwbiau gwasgariad yn cael eu hamlygu pob mis yn y Fwrdeistref Sirol:

Nitrogen deuocsid

  • Y Waun dau diwb
  • Plas Madoc un tiwb
  • Rhostyllen dau diwb
  • Rhiwabon un tiwb
  • Stad Ddiwydiannol Wrecsam dau diwb
  • Tref Wrecsam wyth tiwb

Sylffwr deuocsid

  • Brymbo un tiwb
  • Y Waun un tiwb
  • Llay un tiwb

Osôn

  • Y Waun un tiwb

Bensin

  • Rhosllannerchrugog un tiwb
  • Tref Wrecsam un tiwb

Monitorau Partisol Plus PM10

Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd yn defnyddio dau Partisol i fesur PM10 yn y Fwrdeistref Sirol.
Ar hyn o bryd mae’r ddau Partisol yn y mannau canlynol:

  • Tref Wrecsam - Ffordd Buddug
  • Is-y-coed

Ffrisbis Llwch

Dyluniwyd y Ffrisbis Llwch i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â mesur niwsans llwch ac, fel y cyfryw, cânt eu gosod lle bo gofyn, sy’n aml yng ngerddi trigolion lleol lle cânt eu gadael am fis ar y tro nes bydd y cyfnod mesur ar ben.

yn ôl i'r brig