Cadw'n Gynnes dros y Gaeaf: Cyngor i rai dros 60 oed

Wrth i'r tymheredd ostwng yn Wrecsam a'r Sir yn profi eira a rhew cynaf y gaeaf, y neges gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw CADW GYNNES, CADW'N LACH.

Cadw'n Gynnes dros y Gaeaf

Mae pawb yn gwybod mor bwysig yw cadw'n gynnes yn ystod y gaeaf. Gall cadw'n gynnes eich helpu i aros yn iach ac yn ddiogel, a gall helpu i atal problemau iechyd difrifol fel niwmonia. Mae rhai pethau syml y gallwch eu gwneud i'ch cadw chi'n gynnes ac i gadw eich cartref yn gynnes y gaeaf hwn.

BWYTEWCH YN DDA

Bydd bwyta prydau bwyd rheolaidd yn helpu i gadw eich lefel egni yn uchel pan fydd hi'n oer

CADWCH YN BRYSUR

Gall ymarfer corff eich helpu i gadw'n gynnes Ceisiwch symud o gwmpas o leiaf unwaith bob awr

GWISGWCH DDILLAD CYNNES

  • Gallwch gadw'n gynnes drwy: Wisgo digon o haenau tenau
  • Gwisgo het, sgarff a menig pan fyddwch yn mynd allan
  • Gwisgo dillad wedi eu gwneud o wlân neu ddefnydd gwlanog
  • Gwisgo dillad isaf thermal a sanau gwely yn y nos

CYNHESU EICH CARTREF

  • Yn ystod y dydd, cynheswch eich ystafell fyw i tua 18-21°C a gweddill eich cartref i o leiaf 16°C
  • Ceisiwch gadw tymheredd eich ystafell wely'n uwch na 18°C dros nos
  • Yn ystod tywydd oer iawn, gosodwch y gwres i ddod ymlaen yn gynt, yn hytrach na throi'r thermostat, fel na fyddwch yn oer wrth i chi aros i'ch cartref gynhesu
  • Peidiwch byth a defnyddio blanced drydan a photel dwr poeth gyda'i gilydd gan y gallech gael sioc drydan angheuol

BYDDWCH YN GYMYDOG DA

Os oes gennych gymydog neu berthynas oedrannus, gofalwch amdanynt i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac yn iach.

  • Os na fydd y llenni'n cael eu hagor, neu fod y goleuadau ddim ymlaen, efallai fod rhywbeth yn bod
  • Ceisiwch guro ar y drws i weld a gewch chi ateb. Os na chewch, cysylltwch â pherthynas neu ffrind allai fod ag allwedd.
  • Os ydych yn credu fod rhywbeth amheus ynglŷn â'r sefyllfa, ffoniwch 999.

Os ydych angen mwy o gymorth cysylltwch gyda

Os ydych chi'n poeni am eich iechyd neu lles, neu'r iechyd a lles o rhywyn chi'n gwybod, ffoniwch Galw Wrecsam. Ffônl: 01978 292066

Os ydych am wneud eich cartref yn gynhesach, cysylltwch gyda: Gofal a Thrwsio Wrecsam Ffôn: 01978 268120

Am gymorth ymarferol, gwybodaeth a chefnogaeth cysylltwch gyda: Age Concern Gogledd Ddwyrain Cymru Ffôn: 08450 549822 www.acnew.org.uk

Am fwy o wybodaeth a chyngor am gadw'n iach y gaeaf hwn, ewch i Wefan Genedlaethol Cadw'n Iach y Gaeaf Hwn: www.kwtw.org.uk

yn ôl i'r brig